{"id":696,"date":"2014-03-28T14:39:32","date_gmt":"2014-03-28T14:39:32","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=696"},"modified":"2014-03-28T14:39:32","modified_gmt":"2014-03-28T14:39:32","slug":"s4c-ai-cynlluniau-aneglur","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2014\/03\/28\/s4c-ai-cynlluniau-aneglur\/","title":{"rendered":"S4C a&#8217;i cynlluniau aneglur"},"content":{"rendered":"<p>Fe ymddangosodd y ddau J\u00f4s o S4C o flaen &#8220;<strong>Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol<\/strong>&#8221; yn y Cynulliad ddoe. Fe ddatgelodd y prif weithredwr, Ian Jones, fod y sianel yn gobeithio lansio sianel HD ar loeren erbyn 2016. A stwffiwch bawb arall sy&#8217;n gwylio ar Freeview.<\/p>\n<p>Roedd sianel S4C Clirlun ar gael ar lwyfan Freeview rhwng Gorffennaf 2010 a Rhagfyr 2012. Mae&#8217;r BBC yn gwneud camgymeriad <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/newyddion\/26765244\">drwy ddweud <\/a>mai ar Freesat oedd S4C Clirlun &#8211; doedd y sianel erioed ar gael ar loeren er roedd bwriad i&#8217;w lansio ar Freesat rhywbryd.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l S4C, fe arbedwyd \u00a31.5m drwy gau Clirlun ar Freeview ond fe fydd Clirlun ar Freesat yn costio tua \u00a31m. Dyw hyn ddim yn arian m\u00e2n felly &#8211; mae&#8217;r arian a arbedwyd o gau Clirlun yn amlwg wedi ei wario ar raglenni ond nawr fe fydd angen gwneud arbedion o \u00a31m eto.<\/p>\n<p>Fel darlledwr cyhoeddus fe ddylai gwasanaethau S4C fod ar gael i&#8217;r mwyafrif ag yn hygyrch. Dyw dewis un llwyfan darlledu dros y llall ddim yn ateb y gofynion hyn.<\/p>\n<p>Gan fod yna gost uchel iawn o ddarlledu S4C yn HD ar unrhyw lwyfan, fasen i&#8217;n argymell y byddai&#8217;n llawer gwell gwario arian ar lwyfan sy&#8217;n fwy agored i bawb &#8211; y we &#8211; a uwchraddio Clic i ddarparu ffrydiau HD a lawrlwythiadau. Mae fersiwn newydd o Clic mewn &#8216;beta&#8217; ar hyn o bryd ond does dim s\u00f4n am welliannau i&#8217;r llun SD heb s\u00f4n am ddarparu HD. Ond mae&#8217;n edrych yn bert, felly peidiwch poeni am safonau technegol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r BBC wedi darlledu ffrydiau HD ar yr iPlayer ers 2009. Nid yw&#8217;n HD &#8216;llawn&#8217; ond mae e yn 720p a gyda datblygiadau yn cywasgu fideo mae&#8217;r ansawdd yn uchel iawn.<\/p>\n<p>Er mwyn gwylio ffrydiau HD iPlayer mae&#8217;r BBC yn argymhell cysylltiad o 3.5Mbps er dwi&#8217;n gwybod fod yn gweithio ar gysylltiadau tua 3Mbps. Mae&#8217;n wir i ddweud nad oes gan bawb yng Nghymru gysylltiad rhyngrwyd da ar y cyflymder hyn ond bwriad y llywodraeth yw i ddarparu band llydan cyflym i&#8217;r rhan fwyaf o Gymru erbyn 2016. Hyd yn oed heb hynny mae dal yn bosib i lwytho lawr rhaglenni HD o&#8217;r iPlayer i&#8217;w gwylio heb drafferth.<\/p>\n<p>Mae yna hefyd fwlch mawr o ran darparu rhaglenni S4C (hen a newydd) ar lwyfannau fel iTunes, Netflix ac ati &#8211; llwyfannau digidol lle taw cynnwys HD yw&#8217;r norm (a mae <a href=\"http:\/\/ffrwti.com\/Nwdls\/1395570456\">trafodaeth pellach<\/a> am hyn ar Ffrwti).<\/p>\n<p>Mewn adeg lle mae eu cyllid yn gwbl ansicr, yn hytrach na gwario miliynau ar ddarlledu lloeren, fasen i&#8217;n awgrymu yn garedig y byddai llawer gwell defnydd o gyllid S4C i fuddsoddi o ddifrif mewn gwasanaethau arlein fel Clic neu bartneriaethau gyda darparwyr digidol eraill.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fe ymddangosodd y ddau J\u00f4s o S4C o flaen &#8220;Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol&#8221; yn y Cynulliad ddoe. Fe ddatgelodd y prif weithredwr, Ian Jones, fod y sianel yn gobeithio lansio sianel HD ar loeren erbyn 2016. A stwffiwch &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2014\/03\/28\/s4c-ai-cynlluniau-aneglur\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[15,21],"tags":[],"class_list":["post-696","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-teledu","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/696","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=696"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/696\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":697,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/696\/revisions\/697"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=696"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=696"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=696"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}