{"id":681,"date":"2014-03-17T10:23:52","date_gmt":"2014-03-17T10:23:52","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=681"},"modified":"2014-04-16T13:23:24","modified_gmt":"2014-04-16T12:23:24","slug":"cofio-eirwen-davies","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2014\/03\/17\/cofio-eirwen-davies\/","title":{"rendered":"Cofio Eirwen Davies"},"content":{"rendered":"<p>Anti Eirwen oedd hi i fi &#8211; nid perthynas gwaed ond yn yr arfer o gyfeirio at ffrindiau rhieni fel anti neu wncwl. Pan o&#8217;n i&#8217;n ddwy oed fe symudodd fy rhieni i d\u0177 yn Y Mynydd Bychan, Caerdydd. Roedd yna nifer o Gymry Cymraeg yn byw yr ardal &#8211; roedd gen i Anti a Wncwl go iawn yn byw rownd y gornel a amryw o ffrindiau meithrin\/ysgol yn y strydoedd cyfagos.<\/p>\n<p>Ond Eirwen Davies oedd yr agosaf o rheiny, yn byw ochr draw yr hewl. Fel plentyn roeddwn i&#8217;n edrych arni fel hen fenyw, ychydig bach fel Mamgu efallai ond dim ond yn ei 50au oedd hi ac yn dal i weithio i HTV ar y pryd.<\/p>\n<p>Nid yn annisgwyl, fel plentyn doedd gen i ddim syniad o&#8217;i chefndir a&#8217;i lle yn hanes. Roeddwn i&#8217;n gwybod ei bod hi&#8217;n gweithio ym myd teledu ond doedd hi ddim yn ymddangos ar y sgr\u00een erbyn hynny. Mi wnes i symud o Gaerdydd yn naw oed a dim ond flynyddoedd yn ddiweddarach wnes i ddarganfod mwy amdani. Mae hi wedi cymryd peth ymchwil i gasglu ychydig o ffeithiau cadarn amdani at eu gilydd &#8211; prin yw&#8217;r wybodaeth a&#8217;r cofnod am hanes teledu annibynnol yng Nghymru. Er mae yna dipyn o wefannau saesneg ar y pwnc a dwi&#8217;n ddiolchgar i <a href=\"http:\/\/www.78rpm.co.uk\/tww.htm\">Dinosaur TV<\/a> a <a href=\"http:\/\/www.transdiffusion.org\/tv\/network\/memories\">Transdiffusion<\/a>.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n eitha sicr mai Eirwen oedd y cyflwynydd newyddion benywaidd cynta yng Nghymru ac yn Gymraeg. Fe ddarlledwyd y rhaglen Gymraeg &#8220;<strong>O Ddydd i Dydd<\/strong>&#8221; ar 1<sup>af<\/sup> o Fehefin, 1960 ar sianel TWW. Roedd <a href=\"http:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Barbara_Mandell\">Barbara Mandell<\/a> wedi darllen a gohebu ar newyddion ITN o 1955 ymlaen, felly mae nifer o ffynonellau yn ei chyfri fel y fenyw gyntaf i gyflwyno&#8217;r newyddion yng ngwledydd Prydain. Yn y cyfamser ar y BBC, fe ddechreuodd <a href=\"http:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Nan_Winton\">Nan Winton<\/a> gyflwyno rhaglenni newyddion rhwydwaith ar yr 19<sup>eg<\/sup> o Fehefin, 1960.<\/p>\n<p>Mae Euryn Ogwen Williams yn nodi ar <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/newyddion\/26575219\">erthygl newyddion BBC<\/a> fod ymateb negyddol wedi bod i&#8217;r cyflwynwyr benywaidd a fod y BBC ac ITV wedi tynnu&#8217;r menywod hyn oddi ar y sgr\u00een, ond y fod Eirwen dal yn cyflwyno drwy&#8217;r 60au ar &#8220;<strong>Y Dydd<\/strong>&#8220;. Ni chafwyd menyw ar newyddion rhwydwaith y BBC nes cyfnod Angel Rippon o 1975 ymlaen. Mewn <a href=\"http:\/\/www.golwg360.com\/newyddion\/cymru\/140501-arloeswraig-gwbl-broffesiynol\">erthygl ar wefan Golwg360<\/a> mae Gwilym Owen yn canu clodydd Eirwen gan ddweud &#8220;<em>ei chryfder mawr oedd ei thrylwyredd ac mi fyddai\u2019n talu i rai o ddarlledwyr heddiw edrych ar hen dapiau ohoni&#8221;<\/em>.<\/p>\n<p>Fe ddes i o hyd i glip fideo prin ohoni mewn rhaglen o 2006 oedd yn edrych ar hanes HTV a TWW.<\/p>\n<div class=\"epyt-video-wrapper\"><iframe loading=\"lazy\"  id=\"_ytid_71801\"  width=\"480\" height=\"270\"  data-origwidth=\"480\" data-origheight=\"270\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/BF8wWb7zSaQ?enablejsapi=1&#038;autoplay=0&#038;cc_load_policy=0&#038;cc_lang_pref=&#038;iv_load_policy=1&#038;loop=0&#038;rel=1&#038;fs=1&#038;playsinline=0&#038;autohide=2&#038;theme=dark&#038;color=red&#038;controls=1&#038;disablekb=0&#038;\" class=\"__youtube_prefs__  epyt-is-override  no-lazyload\" title=\"YouTube player\"  allow=\"fullscreen; accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen data-no-lazy=\"1\" data-skipgform_ajax_framebjll=\"\"><\/iframe><\/div>\n<p>Does gen i ddim ffynhonnell i hyn ond rwy&#8217;n deall fod Eirwen wedi chwarae rhan bwysig yn cadw a chatalogio archif cynnar TWW a HTV mewn cyfnod lle nad oedd cwmniau teledu yn ystyried gwerth yr archif rhaglenni ar gyfer y dyfodol. Mae&#8217;r archif honno nawr <a href=\"http:\/\/www.llgc.org.uk\/cy\/gwasanaethau\/cyfryngau-busnes\/datganiadaur-wasg\/2012\/trosglwyddo-archif-itv-cymru\/\">yng nghofal<\/a> yr Archif Genedlaethol Sgr\u00een a Sain yn Aberystwyth.<\/p>\n<p>Roedd Eirwen yn hannu yn wreiddiol o bentre Pum Heol ger Llanelli a fe aeth hi n\u00f4l yna yn 2013 i lansio llyfr am hanes yr ardal. Roedd yna <a href=\"http:\/\/www.llanellistar.co.uk\/VIP-s-trip-time\/story-19394913-detail\/story.html\">erthygl am y lansiad<\/a> ym mhapur newydd y Llanelli Star, felly mae&#8217;n bosib mai dyma&#8217;r llun cyhoeddus olaf o Eirwen.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone\" alt=\"\" src=\"\/storfa\/2014\/03\/eirwen_davies_2013.jpg\" width=\"369\" height=\"402\" \/><\/p>\n<p>Bu farw Eirwen Davies ar y 12<sup>fed<\/sup> o Fawrth, 2014 yn Ysbyty Athrofaol, Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Diweddariad<\/strong>: Mae&#8217;r BBC wedi ryddhau <div id=\"mp3jWrap_0\" class=\"mjp-s-wrapper s-graphic unsel-mjp outline verdana-mjp\" style=\"font-size:14px;\"><span id=\"playpause_wrap_mp3j_0\" class=\"wrap_inline_mp3j\" style=\"font-weight:700;\"><span class=\"gfxbutton_mp3j play-mjp\" id=\"playpause_mp3j_0\" style=\"font-size:14px;\">&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/span>&nbsp;<span class=\"group_wrap\"><span class=\"bars_mp3j\"><span class=\"loadB_mp3j\" id=\"load_mp3j_0\"><\/span><span class=\"posbarB_mp3j\" id=\"posbar_mp3j_0\"><\/span><\/span><span class=\"T_mp3j\" id=\"T_mp3j_0\" style=\"font-size:14px;\">podlediad o gyfweliad<\/span><span class=\"indi_mp3j\" style=\"font-size:9.8px;\" id=\"statusMI_0\"><\/span><\/span><span class=\"vol_mp3j flipped\" id=\"vol_mp3j_0\"><\/span><\/span><\/div><span class=\"s-nosolution\" id=\"mp3j_nosolution_0\" style=\"display:none;\"><\/span><script>\nMP3jPLAYLISTS.inline_0 = [\n\t{ name: \"podlediad o gyfweliad\", formats: [\"mp3\"], mp3: \"aHR0cDovL2Rvd25sb2Fkcy5iYmMuY28udWsvcG9kY2FzdHMvY3ltcnUvYmV0aWdlb3JnZS9iZXRpZ2VvcmdlXzIwMTQwNDA3LTE1MDFhLm1wMw==\", counterpart:\"\", artist: \"\", image: \"\", imgurl: \"\" }\n];\n<\/script>\n\n<script>MP3jPLAYERS[0] = { list: MP3jPLAYLISTS.inline_0, tr:0, type:'single', lstate:'', loop:false, play_txt:'&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;', pause_txt:'&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;', pp_title:'', autoplay:false, download:false, vol:100, height:'' };<\/script> Eirwen ar Beti a&#8217;i Phobol yn 2005.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Anti Eirwen oedd hi i fi &#8211; nid perthynas gwaed ond yn yr arfer o gyfeirio at ffrindiau rhieni fel anti neu wncwl. Pan o&#8217;n i&#8217;n ddwy oed fe symudodd fy rhieni i d\u0177 yn Y Mynydd Bychan, Caerdydd. Roedd &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2014\/03\/17\/cofio-eirwen-davies\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[24,35,15],"tags":[],"class_list":["post-681","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cyfryngau","category-hanes","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/681","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=681"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/681\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":700,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/681\/revisions\/700"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=681"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=681"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=681"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}