{"id":665,"date":"2013-10-30T12:17:10","date_gmt":"2013-10-30T12:17:10","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=665"},"modified":"2013-10-30T12:17:10","modified_gmt":"2013-10-30T12:17:10","slug":"adolygiad-y-gwyll","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2013\/10\/30\/adolygiad-y-gwyll\/","title":{"rendered":"Adolygiad Y Gwyll"},"content":{"rendered":"<p>Felly, fe ddangoswyd pennod cynta Y Gwyll o&#8217;r diwedd ar \u00f4l misoedd o heip. Mae&#8217;r ymgyrch farchnata wedi cynnwys cymhariaethau pendant gyda The Killing a chyfresi eraill yn y genre &#8216;<em>Scandinavian Noir<\/em>&#8216;. Roedd hyn yn ff\u00f4l iawn, iawn &#8211; yn bennaf, am ei fod yn codi disgwyliadau. Mae cyfresi ditectif am lofruddiaethau wedi bod ar S4C yn y gorffennol &#8211; y pryd hynny fe cymharwyd nhw a chyfresi Seisnig neu Americanaidd gan mai rheiny oedd yn boblogaidd ar y pryd.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, beth sydd yma yw drama dditectif Gymreig. Dyw hi ddim yn beth da i adolygiad wneud cymhariaethau gyda unrhyw gyfresi arall ond mae&#8217;r heip marchnata yn gwneud hyn yn anorfod.<\/p>\n<p>Fel arfer mae&#8217;n rhaid i bennod cynta unrhyw gyfres newydd gyflwyno llawer o gymeriadau mewn amser byr. Fe lwyddwyd i wneud hynny heb unrhyw esboniadau hir. Roeddwn i&#8217;n meddwl fod ychydig gormod o ddeialog ar rai adegau lle ddylai fod tawelwch yn dweud mwy.<\/p>\n<p>Am rhyw reswm mae&#8217;n anodd i ddrama gyfleu gwaith yr heddlu yn digwydd yn naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae sgript Y Gwyll yn rhoi Cymraeg cywir iawn yng nghenau&#8217;r cymeriadau. Yn y bennod gynta dyw&#8217;r deialog o fewn yr heddlu ddim yn rhedeg yn gwbl llyfn a naturiol i fy nghlust i.<\/p>\n<p>I fi, roedd y ddrama yn gwella wrth weld golygfeydd rhwng rhai o&#8217;r cymeriadau ymylol gyda actorion anghyfarwydd, lle roedd cyfathrebu mwy realistig rhywsut.<\/p>\n<p>Er hyn doedd y bennod ddim wedi gwneud i mi falio llawer am unrhyw gymeriad, hyd yn oed y wraig a lofruddiwyd. Mae&#8217;n rhaid i ddrama wneud i rywun deimlo\u00a0<em>rhywbeth<\/em> am gymeriad &#8211; teimlo tosturi, edmygedd neu gasineb.<\/p>\n<p>Un o nodweddion y cyfresi Sgandinafiaidd yw cynildeb y deialog, actio a&#8217;r golygfeydd. Dwi ddim yn credu fod hyn yn nodwedd yn y bennod gynta o&#8217;r Gwyll. Roeddwn i&#8217;n teimlo fel fod yna ruthr i symud rhwng golygfeydd a roedd gormod o doriadau camera o fewn y golygfeydd hynny. Doedd gen i ddim teimlad o densiwn wrth wylio yr awr gynta.<\/p>\n<p>Fe ddaeth y cyffro yn y pum munud ola, gyda Mathias yn cwrso Hywel Maybury allan o&#8217;r hen gartref. Mae nhw wedi llwyddo i wneud un peth felly &#8211; creu <em>cliffhanger<\/em>.<\/p>\n<p>I grynhoi mae&#8217;n edrych fel drama safonol nid campwaith. Mae gan S4C broblem wrth greu heip eu hunain o gwmpas y gyfres. Mewn byd gyda fideo-ar-alw a&#8217;r cyfryngau cymdeithasol mi fyddai&#8217;n well gadael i&#8217;r gynulleidfa eu hunain greu <em>buzz<\/em> am unrhyw raglen ond fydd hynny ddim yn digwydd heblaw fod y rhaglen yn un da. Dyna sut ydw i wedi darganfod pob rhaglen drama dwi wedi wylio yn y blynyddoedd diwetha &#8211; o The Killing i Breaking Bad.<\/p>\n<p>Mae gan y Cymry Cymraeg dueddiad o or-glodfori unrhyw gynhyrchiad sydd ychydig bach yn well na&#8217;r cyffredin &#8211; efallai am fod hynny yn rhywbeth mor brin. Fe fydd hi&#8217;n ddiddorol gweld ymateb i&#8217;r gyfres pan ddangosir y fersiwn saesneg.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Felly, fe ddangoswyd pennod cynta Y Gwyll o&#8217;r diwedd ar \u00f4l misoedd o heip. Mae&#8217;r ymgyrch farchnata wedi cynnwys cymhariaethau pendant gyda The Killing a chyfresi eraill yn y genre &#8216;Scandinavian Noir&#8216;. Roedd hyn yn ff\u00f4l iawn, iawn &#8211; yn &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2013\/10\/30\/adolygiad-y-gwyll\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[15],"tags":[],"class_list":["post-665","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/665","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=665"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/665\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":668,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/665\/revisions\/668"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=665"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=665"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=665"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}