{"id":623,"date":"2013-03-01T01:08:03","date_gmt":"2013-03-01T01:08:03","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=623"},"modified":"2013-03-01T01:10:34","modified_gmt":"2013-03-01T01:10:34","slug":"ydir-camera-yn-caru-carwyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2013\/03\/01\/ydir-camera-yn-caru-carwyn\/","title":{"rendered":"Ydi&#8217;r camera yn caru Carwyn?"},"content":{"rendered":"<p>Ers 2009 mae gan Llywodraeth Cymru <a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/user\/welshgovernment\">sianel ar YouTube<\/a> sy&#8217;n cyhoeddi pigion achlysurol am waith y llywodraeth a datganiadau gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones. Dyw e ddim yn arbennig o boblogaidd a pwy all feio pobl am hynny?<\/p>\n<p>Ddoe, ddiwrnod yn gynnar, fe gyhoeddwyd <a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=dg22k4QHbUg\">cyfarchiad Dydd G\u0175yl Dewi<\/a> gan Carwyn Jones, yn saesneg yn unig. Dwi&#8217;n siwr y bydd fersiwn Cymraeg yn dilyn, unrhyw flwyddyn nawr. Ond nid dyna pwynt y cofnod hwn &#8211; fy nghwestiwn i yw pam fod cysylltiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru mor ddiawledig o amaturaidd? Mae&#8217;n debyg fod y fideo yma wedi ei gynhyrchu gan ac ar gyfer &#8216;Croeso Cymru&#8217; sy&#8217;n rhan o&#8217;r llywodraeth ers diddymu Bwrdd Croeso Cymru.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" alignnone\" title=\"Cyfarchiad Carwyn Jones\" alt=\"\" src=\"\/storfa\/2013\/03\/carwyn-jones-gwyl-dewi-2013.jpg\" width=\"665\" height=\"442\" \/><\/p>\n<p>Anghofiwn am y cynnwys am nawr. Dyma fy sylwadau ar agweddau technegol y fideo:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae&#8217;r fideo yn y safon isaf posib ar YouTube (240p)<\/li>\n<li>Mae&#8217;r gymhareb agwedd yn anghywir felly mae&#8217;r llun wedi ei gywasgu (efallai mewn ymgais i leihau bloneg y prif weinidog)<\/li>\n<li>Mae&#8217;r sain ar y sianel chwith yn unig ac yn ddistaw.<\/li>\n<li>Ydi Carwyn yn eistedd mewn cwpwrdd? Sdim angen ffurfioldeb desg ond nag oes cefndir fwy addas ar gael? Beth am olygfa i sefydlu&#8217;r lleoliad cyn yr olygfa agos? Beth am sioe o gennin pedr neu faner Dewi Sant?<\/li>\n<li>Mae&#8217;r goleuo yn wael a ddim yn ffafriol iawn i bryd a gwedd Carwyn.<\/li>\n<li>Efallai fod colur yn mynd dros ben llestri ond feddyliodd neb am gribo&#8217;r gwallt &#8216;na?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae sgript y cyfarchiad yn weddol er ychydig yn sych ac yn cael ei ddarllen yn dda fel mae Carwyn Jones yn arfer ei wneud. Ond mae amaturiaeth y cynhyrchiad yn embaras. Fel dywedodd Dewi Sant &#8211; gwnewch y pethau bychain.<\/p>\n<p>Does dim angen mynd yn rhy wlatgarol ac Americanaidd ond fe fyddai meddwl am y pethau bychain yn y fideo uchod wedi gallu gwneud cymaint fwy i gyflwyno Cymru i&#8217;r byd gyda delwedd modern a hyderus.<\/p>\n<p>Dydd G\u0175yl Dewi Sant Hapus i bawb.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ers 2009 mae gan Llywodraeth Cymru sianel ar YouTube sy&#8217;n cyhoeddi pigion achlysurol am waith y llywodraeth a datganiadau gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones. Dyw e ddim yn arbennig o boblogaidd a pwy all feio pobl am hynny? Ddoe, &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2013\/03\/01\/ydir-camera-yn-caru-carwyn\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[31,29],"tags":[],"class_list":["post-623","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-fideo","category-gwleidyddiaeth"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/623","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=623"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/623\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":628,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/623\/revisions\/628"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=623"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=623"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=623"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}