{"id":608,"date":"2012-11-02T22:20:09","date_gmt":"2012-11-02T22:20:09","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=608"},"modified":"2012-11-02T22:20:09","modified_gmt":"2012-11-02T22:20:09","slug":"s4c-a-trosleisio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2012\/11\/02\/s4c-a-trosleisio\/","title":{"rendered":"S4C a trosleisio"},"content":{"rendered":"<p>Mae S4C yn 30 oed a felly mae&#8217;r prif weithredwr newydd wedi mentro allan o&#8217;r swyddfa ym Mharc T\u0177 Glas i wneud cyfweliadau di-ri yn esbonio ei weledigaeth ar gyfer y sianel. Mae y &#8216;dyn tawel&#8217;, Ian Jones, bob amser yn siarad yn bwyllog, rhesymol a synhwyrol.<\/p>\n<p>Er hyn mae ei sylwadau mor belled yn dueddol o ategu&#8217;r hyn sy&#8217;n amlwg ac yn disgrifio strategaeth y ddylai S4C fod wedi dechrau dilyn pum mlynedd os nad degawd yn \u00f4l &#8211; pan oedd yr arian ar gael. Dyw e ddim fel petai&#8217;r chwyldro digidol wedi cyrraedd dros nos.<\/p>\n<p>O wrando ar rhai o gyfweliadau hirach Ian Jones ar y radio mae&#8217;n amlwg ei fod wedi gwneud tipyn o waith paratoi yn barod i lusgo S4C yn agosach i 2012, er fod dileu eu gwasanaeth HD ar Freeview yn gam yn \u00f4l i&#8217;r gorffennol. Yn anffodus, pan cyhoeddwyd diwedd Clirlun ni ddatgelodd y sianel unrhyw syniadau ar sut oedden nhw&#8217;n bwriadu darparu cynnwys S4C HD ar blatfformau amgen, os o gwbl.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r syniadau sy&#8217;n codi yn eu gyfweliadau yw rhoi troslais saesneg ar rai rhaglenni. Mae&#8217;n anodd gwybod o le ddaeth y syniad. Yng <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-20159902\">nghyfweliad Huw Thomas<\/a> gyda Ian Jones, Huw sy&#8217;n codi&#8217;r mater gynta ond efallai daw hynny o ddogfen briffio o flaen llaw.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r sylwadau <a href=\"http:\/\/www.golwg360.com\/newyddion\/cymru\/90426-gwrthwynebu-troslais-saesneg-ar-raglenni-s4c\">erthygl am y syniad ar Golwg 360 <\/a>yn dangos nad yw&#8217;r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn cytuno gyda&#8217;r syniad, er dwi ddim wedi clywed barn siaradwyr uniaith saesneg (yng Nghymru a thu hwnt). Mi wnes i ddechrau sgrifennu ymateb ond fe dechreuodd fynd yn draethawd, felly dyma hi isod.<\/p>\n<p>Y peth cynta i nodi yw fod Ian Jones yn dweud yn glir mai arian masnachol S4C fyddai&#8217;n ariannu unrhyw arbrofion fel hyn, nid y cyllid cyhoeddus.<\/p>\n<p>Er hyn mae hi&#8217;n syniad rhyfedd. Mae&#8217;n un o&#8217;r syniadau hynny sy&#8217;n cael eu cynnig gan wleidyddion heb ddealltwriaeth o gynhyrchu rhaglenni teledu nac o anghenion cynulleidfa. Yn ymarferol, dwi&#8217;n amau os y byddai gwylwyr di-Gymraeg yn mwynhau&#8217;r profiad. Mae cynnig sylwebaeth ar chwaraeon yn un peth ond pa raglenni arall sy&#8217;n addas i&#8217;w trosleisio?<\/p>\n<p>Mae trosleisio cartwnau neu animeiddio yn gwbl addas ynghyd a rhai rhaglenni plant. Does dim synnwyr i drosleisio perfformiadau cerddorol, heblaw am y pytiau bach o gyflwyniad. Mae&#8217;n anodd meddwl am unrhyw fanteision chwaith o drosleisio adloniant ysgafn neu gomedi, lle mae gymaint yn dibynnu ar y perfformiad gwreiddiol heb s\u00f4n am gyd-destun ieithyddol a chymdeithasol.<\/p>\n<p>Beth am raglenni cylchgrawn, newyddion a materion cyfoes? A fyddai&#8217;n cyflawni unrhyw beth yn well na is-deitlau? Yn ogystal, mae&#8217;r rhaglenni yma naill ai yn fyw neu yn cael eu paratoi ar frys, felly fe fyddai angen &#8216;cyfieithu ar y pryd&#8217; &#8211; ateb annigonol iawn.<\/p>\n<p>Mae hyn yn gadael dramau a rhaglenni dogfen.<\/p>\n<p>Mae Cymry Cymraeg mor gyfarwydd a&#8217;r iaith saesneg a diwylliant eingl-sacsonaidd fel fod y syniad o drosleisio rhaglenni i&#8217;r Gymraeg yn un hurt i ni. Mae profiad S4C o drosleisio i&#8217;r Gymraeg (nid o saesneg) yn dangos ei fod yn gweithio ar gyfer cartwns, ond dim byd difrifol. Mae trosleisio yn un ffordd sicr o wneud comedi allan o ddrama.<\/p>\n<p>Ond mae trosleisio dramau a ffilmiau poblogaidd o&#8217;r saesneg i iaith leol yn gyffredin ar gyfandir Ewrop a mae traddodiad hir o wneud hyn. Mae&#8217;n debyg fod pobl yn derbyn hyn yn enwedig os nad ydyn nhw&#8217;n rhugl yn saesneg a nid dyna ei iaith bob dydd.<\/p>\n<p>Os nad ydych chi&#8217;n deall iaith o gwbl, mae&#8217;n hawdd gwylio rhaglen gyda is-deitlau. Mae&#8217;r trac sain yn gallu toddi i&#8217;r cefndir a mae&#8217;r ymennydd yn canolbwyntio ar ddarllen a gwylio&#8217;r lluniau. Os ydych chi&#8217;n deall rhywfaint o&#8217;r iaith mi fyddwch chi&#8217;n gwrando am eiriau cyfarwydd ac yn darllen yr is-deitlau i drio lenwi&#8217;r bylchau. Mae&#8217;n bosib ei fod yn ffordd dda o ddysgu iaith ond dwi&#8217;n amau y byddai yn amharu ar y boddhad o wylio hefyd.<\/p>\n<p>Does dim traddodiad o drosleisio (heblaw animeiddio) ar deledu gwledydd Prydain a dim tystiolaeth y byddai&#8217;n gweithio. Mae yna leiafrif o siaradwyr saesneg sy&#8217;n mwynhau gwylio ffilmiau neu raglenni mewn ieithoedd eraill drwy is-deitlau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n werth dweud hefyd fod rhaid i&#8217;r cynnwys fod yn gythreulig o dda i ddenu siaradwyr saesneg at gynnwys &#8216;o dramor&#8217;, fel mae The Killing a Borgen yn dangos. Mae yna nifer o Gymry di-Gymraeg sydd yn ddigon parod i wylio rhaglenni ar S4C ond dwi&#8217;n credu eu bod nhw&#8217;n fwy tebygol o wylio os yw&#8217;r cynnwys am Gymru (rhaglenni natur, hanes ac ati) neu ddramau safonol.<\/p>\n<p>Os mai denu cynulleidfa mewn byd aml-sianel, aml-blatfform yw&#8217;r nod, efallai mai nid trosleisio yw&#8217;r ateb, ond codi ymwybyddiaeth o gynnwys S4C a&#8217;r gallu i wylio gyda is-deitlau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae S4C yn 30 oed a felly mae&#8217;r prif weithredwr newydd wedi mentro allan o&#8217;r swyddfa ym Mharc T\u0177 Glas i wneud cyfweliadau di-ri yn esbonio ei weledigaeth ar gyfer y sianel. Mae y &#8216;dyn tawel&#8217;, Ian Jones, bob amser &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2012\/11\/02\/s4c-a-trosleisio\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[25,18,15],"tags":[],"class_list":["post-608","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymraeg","category-iaith","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/608","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=608"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/608\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":621,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/608\/revisions\/621"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=608"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=608"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=608"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}