{"id":592,"date":"2012-07-11T21:13:12","date_gmt":"2012-07-11T20:13:12","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=592"},"modified":"2012-07-11T23:12:28","modified_gmt":"2012-07-11T22:12:28","slug":"cau-clirlun","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2012\/07\/11\/cau-clirlun\/","title":{"rendered":"Cau Clirlun"},"content":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r toriadau sy&#8217;n wynebu S4C yn golygu fod y sianel wedi penderfynu cau y sianel HD &#8216;Clirlun&#8217; ar ddiwedd 2012 er mwyn arbed \u00a31.5 miliwn y flwyddyn. Dyma esboniad prif weithredwr S4C, Ian Jones:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Mae\u2019r penderfyniad yn dod yn sgil y gostyngiad sylweddol yn ein cyllideb gyhoeddus. Does dim modd osgoi penderfyniadau o\u2019r fath sy\u2019n anochel oherwydd gostyngiad o 36% mewn termau real yn ein cyllideb. Mae\u2019n bwysig ein bod yn buddsoddi mwyafrif y gyllideb sydd gennym mewn cynnwys er mwyn sicrhau gwerth am arian a chynnig yr arlwy gorau i\u2019n gwylwyr.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Er mod i&#8217;n deall fod rhaid i&#8217;r sianel wneud arbedion enbyd er mwyn addasu i&#8217;r gostyngiad mawr mewn cyllid, mae cael gwared o&#8217;r gwasanaeth HD yn gam gwag. Mae&#8217;n ddewis hawdd fydd yn cael effeithiau tymor-hir.<\/p>\n<p>Dyma rhai rhesymau pan na ddylid cau sianel S4C Clirlun:<\/p>\n<ol>\n<li>HD yw&#8217;r fformat safonol ar gyfer pob darlledwr teledu o hyn ymlaen. Lansio mwy o sianeli HD fydd patrwm y dyfodol. Mae rhai gwledydd fel Sbaen am ddarlledu sianeli daearol mewn HD yn unig.<\/li>\n<li>Dros y blynyddoedd diwethaf mae&#8217;r sianel wedi sicrhau fod y rhan fwyaf o rhaglenni&#8217;r sianel yn cael eu cynhyrchu i safon HD. Fe wnaeth y cynhyrchwyr a S4C ei hunain fuddsoddiad mawr yn y dechnoleg. Y sefyllfa nawr yw fydd pawb yn dal i gynhyrchu rhaglenni HD ond fod dim modd gwylio&#8217;r sianel ar ei orau.<\/li>\n<li>Fe wnaeth S4C ymladd yn galed i gael slot ar Freeview HD yng Nghymru er mai gofod cyfyngedig iawn sydd i gael ar gyfer y sianeli yma (5 ar y mwya). Mae&#8217;n debygol y bydd Ofcom yn ail-wobrwyo y gofod yng Nghymru i Channel 4 HD. Unwaith iddo fynd ni fydd y gofod yma ar gael fyth eto i S4C.<\/li>\n<li>Ers 2009 mae ansawdd darlledu sianel arferol S4C (SD) wedi ei israddio yn ddirfawr. Fe wasgwyd y sianel i amlbleth heb ofod ddigonol. Mae&#8217;r sianel yn darlledu gyda cydraniad 544&#215;576 yn hytrach na 720&#215;576 er fod hyn yn groes i ofynion technegol Ofcom ar gyfer darlledwyr cyhoeddus. Clirlun yw&#8217;r unig ffordd o wylio rhaglenni S4C mewn ansawdd derbyniol.<\/li>\n<li>Un o amcanion S4C yn y dyfodol yw chwilio am gyfleoedd i gyd-cynhyrchu rhaglenni gyda darlledwyr eraill ym Mhrydain neu o gwmpas y byd. Fe allai S4C fod yn y sefyllfa chwithig lle mae rhaglen yn cael ei ddarlledu mewn HD ar sianel arall ond ddim ar S4C ei hunan.<\/li>\n<li>Nid yw darlledu ar y we neu ar loeren yn ateb digonol fel rwy&#8217;n esbonio isod.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae Ian Jones yn parhau wrth ddweud:<\/p>\n<blockquote><p>\u201cRydym yn gobeithio y bydd modd ystyried gwahanol opsiynau i ddefnyddio manylder uwch ar sawl platfform digidol yn y dyfodol.\u201d <\/p><\/blockquote>\n<p>Addewid niwlog iawn yw hwn. Yn y gorffennol nid yw S4C wedi dangos unrhyw ymdrech i ddarparu cynnwys ar blatfformau digidol amgen fel YouTube, Netflix, Lovefilm ac ati. Mae&#8217;n bosib darparu rhaglenni safon HD ar y we ond mae&#8217;n ddyddiau cynnar iawn yn y maes hwn. <\/p>\n<p>Os mai dim ond 5% o&#8217;r gynulleidfa sy&#8217;n gallu gwylio Clirlun, canran fechan iawn fyddai&#8217;n fodlon neu yn gallu gwylio Clirlun drwy gysylltiad rhyngrwyd. Nid oes gan y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru y cysylltiadau band-eang cyflym sy&#8217;n anghenrheidiol ar gyfer ffrydio darllediad HD. (er enghraifft mae cyfradd Freeview HD yn amrywio o 3 i 17Mbps)<\/p>\n<p>Mae darlledwyr gyda adnoddau anferth fel y BBC yn darparu rhaglenni HD ar yr iPlayer. Ond nid fformat HD llawn ydi hwn, ond fersiwn cywasgedig iawn er mwyn iddo weithio ar gysylltiadau rhyngrwyd arferol. (cyfradd o 3.2Mbps). Fe roedd gwefan y BBC i lawr am dros awr heno &#8211; mae hyn yn dangos nad yw gwe-ddarlledu yn ddibynadwy i gymharu a darlledu dros yr awyr.<\/p>\n<p>Mi fydd yna fwlch o rai blynyddoedd nes i gysylltiadau rhyngrwyd digon cyflym fod ar gael drwy Gymru gyfan i ddarparu gwasanaeth gwe-ddarlledu dibynnadwy. Yn ogystal a hyn mae nifer o ddarparwyr rhyngrwyd yn cyfyngu ar faint o ddata gellir ei lawrlwytho bob mis. Felly mi allai ffrydio fideo HD fod yn ddrud iawn. Ar \u00f4l prynu&#8217;r offer, mae Freeview HD yn rhad ac am ddim.<\/p>\n<p>Dyw rhoi Clirlun ar loeren ddim yn ateb chwaith (a nid yw&#8217;n llawer rhatach). Fel darlledwr cyhoeddus fe ddylai gwasanaethau S4C fod ar gael ar blatfformau agored &#8211; mae hynny&#8217;n golygu teledu daearol. Mae&#8217;r BBC wedi ymrwymo i fod yn &#8216;blatfform-niwtral&#8217; a sicrhau y gynulleidfa ehangaf posib. Fel sianel sy&#8217;n derbyn rhan fwyaf o&#8217;i gyllid o&#8217;r BBC, fe ddylai S4C ddilyn yr un egwyddor.<\/p>\n<p>Os mai cynllun cyfrwys yw&#8217;r bwriad i ddiddymu Clirlun er mwyn i&#8217;r BBC gymeryd y baich o&#8217;r gost darlledu, mae&#8217;n glyfar. Yn anffodus dwi ddim yn ffyddiog mai hynny fydd yn digwydd. Mae angen i S4C arloesi o ran technoleg ac o ran cynnwys. Mi fyddai diddymu Clirlun yn gam i&#8217;r cyfeiriad anghywir.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r toriadau sy&#8217;n wynebu S4C yn golygu fod y sianel wedi penderfynu cau y sianel HD &#8216;Clirlun&#8217; ar ddiwedd 2012 er mwyn arbed \u00a31.5 miliwn y flwyddyn. Dyma esboniad prif weithredwr S4C, Ian Jones: &#8220;Mae\u2019r penderfyniad yn dod yn sgil &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2012\/07\/11\/cau-clirlun\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[24,15],"tags":[],"class_list":["post-592","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cyfryngau","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/592","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=592"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/592\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":597,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/592\/revisions\/597"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=592"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=592"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=592"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}