{"id":572,"date":"2011-10-16T18:34:39","date_gmt":"2011-10-16T17:34:39","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=572"},"modified":"2011-10-16T18:34:39","modified_gmt":"2011-10-16T17:34:39","slug":"methiant-arriva","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2011\/10\/16\/methiant-arriva\/","title":{"rendered":"Methiant Arriva"},"content":{"rendered":"<p>Mae Trenau Arriva Cymru wedi lansio <a href=\"http:\/\/www.arrivatrainswales.co.uk\/\" title=\"Arriva Trains Wales\">gwefan newydd<\/a> o&#8217;r diwedd, dwy flynedd ar \u00f4l apwyntio cwmni i ail-ddatblygu&#8217;r wefan. Mae yna lawer o bethau allwn i ddweud am ddyluniad y wefan newydd ond wna&#8217;i ddim, dim ond i ddweud nad yw&#8217;n edrych fel gwaith dwy flynedd.<\/p>\n<p>Dwi wedi gweithio ar ddatblygiad gwefannau i gwmn\u00efau tr\u00ean ers degawd nawr a felly mae gen i beth profiad a diddordeb yn y maes. Fe wnaethon ni ddatblygu tri gwefan i gwmni &#8216;Wales and Borders&#8217; yn 2002 (mewn llai na dwy fis fel mae&#8217;n digwydd!), gwefannau cafodd eu llyncu wedyn i fewn i gwmni Arriva yn 2005, pan wnaethon nhw &#8211; yn eu doethineb &#8211; apwyntio asiantaeth o Lundain i ail-ddatblygu&#8217;r wefan &#8211; dyma&#8217;r fersiwn oedd yn bodoli o 2006 hyd heddiw. Dwi&#8217;n dal i weithio ar wefannau i rai o&#8217;r cwmn\u00efau trenau mawr yn Lloegr. Mae ganddyn nhw fwy o arian yn sicr, ond mae yna hefyd ymdrech galed i wneud ei gwefannau yn ddefnyddiol ac o safon uchel.<\/p>\n<p>Mae cwynion wedi bod dros y blynyddoedd am ddiffyg darpariaeth Gymraeg ar wefan Trenau Arriva, yn bennaf yr adrannau sy&#8217;n defnyddio neu dderbyn gwybodaeth oddi wrth systemau craidd y system rheilffordd ym Mhrydain (adran wybodaeth National Rail sy&#8217;n cyflenwi rhestr o orsafoedd, amserlenni ac ati).<\/p>\n<p>Does dim dwywaith amdani &#8211; mae hi&#8217;n her anferth i gyfuno&#8217;r holl systemau hyn mewn i un gwefan &#8211; dyna sy&#8217;n cymeryd rhan fwyaf o&#8217;n amser ni, a dim ond mewn un iaith mae hynny. Er hyn, does dim ymdrech o gwbl wedi bod gan Arriva i geisio datrys hyn dros 9 mlynedd. Mae tudalen yn nodi <a href=\"http:\/\/www.arrivatrainswales.co.uk\/Cymraeg\/\">Polisi Dwyieithog<\/a> y cwmni yn nodi pa wasanaethau sydd ddim ar gael yn Gymraeg:<\/p>\n<blockquote><p>Nid yw&#8217;r gwasanaethau canlynol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg:<\/p>\n<p>    Gwasanaeth Prynu Tocynnau Ar-lein<br \/>\n    Journey Check &#8211; gwasanaeth gwybodaeth fyw<br \/>\n    Rainbow Boards &#8211; gwasanaeth gwybodaeth fyw<br \/>\n    Cyfrifiannell Tocyn Tymor<br \/>\n    Argraffu Amserlen Personol<br \/>\n    Gwaith Peirianyddol<br \/>\n    Bwrdd Ymadawiadau\/Cyraeddiadau<br \/>\n    Chwilio am Orsaf\n<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae hyn yn gyfaddefiad reit warthus. Os ewch chi i adran &#8216;wybodaeth fyw&#8217; y wefan, does dim hyd yn oed ymdrech i gyfieithu tudalennau fel <a href=\"http:\/\/www.arrivatrainswales.co.uk\/BwrddYmadawiadau\/\">Bwrdd Ymadawiadau<\/a>. Hyd yn oed yn waeth, ar dudalennau <a href=\"http:\/\/www.arrivatrainswales.co.uk\/GwaithPeirianyddol\/\">Gwaith Peirianyddol<\/a> a <a href=\"http:\/\/www.arrivatrainswales.co.uk\/NewidGwasanaethau\/\">Newid Gwasanaethau<\/a>, does dim gwybodaeth o gwbl na dim yn eich cyfeirio at y fersiwn Saesneg lle mae&#8217;r wybodaeth i&#8217;w weld.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n wir i ddweud fod yr holl wybodaeth &#8216;fyw&#8217; yn cael ei gyflenwi gan un cwmni canolog sydd ddim yn gallu darparu testun Cymraeg. Er fod angen ateb tymor hir i hynny, mae yna rhai ffyrdd o gwmpas y broblem hyn hefyd.<\/p>\n<p>Ar ein fersiwn dwyieithog o&#8217;r wefan yn 2002, fe wnaethon ni ymdrech i gyfieithu peth o&#8217;r wybodaeth. Er enghraifft, mae&#8217;n hawdd iawn i god y wefan amnewid testun o&#8217;r ffynhonnell; pethau fel &#8216;Good Service&#8217;, &#8216;Expected Departure&#8217;, &#8216;To&#8217;, &#8216;From&#8217; ac yn y blaen. Mae&#8217;n hawdd cyfieithu enwau y gorsafoedd hefyd. Ymgais fach oedd hyn i weithio o gwmpas y system a roedd ymhell o fod yn foddhaol.<\/p>\n<p>Mae gan Arriva &#8216;esgusion&#8217; dros beidio cyflenwi peth o&#8217;r wybodaeth ar ei gwefan. Does ganddyn nhw ddim esgus o gwbl am rhai adrannau. Mae&#8217;r gwasanaeth archebu tocynnau yn cael eu gyflenwi gan the &#8216;thetrainline&#8217; &#8211; does dim rheswm pam na allai Arriva fod wedi comisiynu&#8217;r cwmni i ymestyn ei systemau i gynnig fersiwn Cymraeg.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth &#8216;argraffu amserlen&#8217; yn cael ei gyflenwi gan gwmni Hafas o&#8217;r Almaen (mae&#8217;n system amlieithog yn barod, ond ddim Cymraeg). Mae&#8217;r cwmni hefyd yn cyflenwi amserlennau tr\u00ean ar draws Ewrop (yn cynnwys gwledydd Prydain) ac yn gallu cynnig hynny mewn nifer o ieithoedd. Pam felly nad yw Arriva, sy&#8217;n rhan o gwmni Almaenig arall &#8211; Deutsche Bahn &#8211; yn gallu defnyddio&#8217;r dechnoleg sydd ar gael iddyn nhw?<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Trenau Arriva Cymru wedi lansio gwefan newydd o&#8217;r diwedd, dwy flynedd ar \u00f4l apwyntio cwmni i ail-ddatblygu&#8217;r wefan. Mae yna lawer o bethau allwn i ddweud am ddyluniad y wefan newydd ond wna&#8217;i ddim, dim ond i ddweud nad &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2011\/10\/16\/methiant-arriva\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[25,28,21],"tags":[],"class_list":["post-572","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymraeg","category-gwaith","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/572","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=572"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/572\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":574,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/572\/revisions\/574"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=572"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=572"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=572"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}