{"id":540,"date":"2011-08-30T21:38:32","date_gmt":"2011-08-30T20:38:32","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=540"},"modified":"2011-08-30T21:38:32","modified_gmt":"2011-08-30T20:38:32","slug":"oes-y-cyfrifiaduron","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2011\/08\/30\/oes-y-cyfrifiaduron\/","title":{"rendered":"Oes y Cyfrifiaduron"},"content":{"rendered":"<p>Roedd <strong>Ffenestri<\/strong> yn fand synthpop Cymraeg ar ddechrau&#8217;r 80au. Aelodau&#8217;r band oedd Geraint James a Martyn Geraint (a ddaeth yn enwog wedyn fel diddanwr a cyflwynydd rhaglenni plant). Fe wnes i brynu eu albwm <em>Tymhorau<\/em> yn 1986 neu 87 a&#8217;i chwarae drosodd a throsodd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r albwm yn cynnwys c\u00e2n &#8216;Oes y Cyfrifiaduron&#8217; wnaeth argraff arna&#8217;i ar y pryd mae dal yn ffefryn. Fe es i ati i wneud fideo ar gyfer y g\u00e2n. Roeddwn am ddefnyddio fideo a lluniau dan drwydded Creative Commons ond roedd e&#8217;n gythreulig o anodd i ganfod deunydd addas, yn enwedig o wledydd Prydain. Dyna pam mae&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r deunydd yn tarddu o America.<\/p>\n<p>Rwy&#8217; am drafod y g\u00e2n nes ymlaen ond dyma&#8217;r fideo i ddechrau (cliciwch y botwm sgr\u00een llawn i gael fersiwn HD).<\/p>\n<div class=\"epyt-video-wrapper\"><iframe loading=\"lazy\"  id=\"_ytid_46183\"  width=\"480\" height=\"270\"  data-origwidth=\"480\" data-origheight=\"270\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/3PESYigMYds?enablejsapi=1&#038;autoplay=0&#038;cc_load_policy=0&#038;cc_lang_pref=&#038;iv_load_policy=1&#038;loop=0&#038;rel=1&#038;fs=1&#038;playsinline=0&#038;autohide=2&#038;theme=dark&#038;color=red&#038;controls=1&#038;disablekb=0&#038;\" class=\"__youtube_prefs__  epyt-is-override  no-lazyload\" title=\"YouTube player\"  allow=\"fullscreen; accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen data-no-lazy=\"1\" data-skipgform_ajax_framebjll=\"\"><\/iframe><\/div>\n<p>Ar yr olwg gynta mae&#8217;n g\u00e2n ysgafn am fyw yn oes y cyfrifiaduron. Mae&#8217;r geiriau ar y llaw arall yn s\u00f4n am fyd lle mae &#8216;cyfrifiaduron&#8217; yn rheoli bywyd a dwyn swyddi. Cafodd y g\u00e2n ei sgrifennu ynghanol diweithdra mawr yr 80au &#8211; &#8220;Y&#8217;ni eisiau&#8217;n gwaith yn \u00f4l, mae&#8217;n ddiflas ar y d\u00f4l&#8221;. Oedd yna fai ar gyfrifiaduron?<\/p>\n<hr>\n<p>Yng Nghymru, fe gollwyd y rhan fwyaf o&#8217;r swyddi yn y diwydiant glo a gweithgynhyrchu. Roedd y diwydiant electroneg a chyfrifiaduron yn un o&#8217;r meysydd prin lle roedd swyddi yn cael eu creu. Fe wnaeth y cwmni <strong>AB Electronics<\/strong> o Abercynon gynhyrchu nifer o gyfrifiaduron cynnar fel mae Amgueddfa Cymru yn <a href=\"http:\/\/www.amgueddfacymru.ac.uk\/cy\/rhagor\/erthygl\/1976\/\">esbonio<\/a>.<\/p>\n<p>Efallai roedd pethau&#8217;n edrych yn ddu yn nirwasgiad yr 80au ond roedd y math o broffwydo ar <strong>Tomorrow&#8217;s World<\/strong> yn eitha pell ohoni. Roedd yna deimlad y byddai cyfrifiaduron a&#8217;r robotiaid yn gwneud popeth drosto ni a fydde ni&#8217;n rhydd i fyw bywyd o hamdden mewn dinasoedd glan modern. Yn sicr mae robotiaid wedi disodli nifer o swyddi diflas mewn ffatr\u00efoedd. Mae&#8217;n bosib dadlau hefyd mai gwarchod swyddi mae nhw&#8217;n wneud drwy wneud cynhyrchu nwyddau yn fwy effeithiol a felly&#8217;n gwneud hi&#8217;n bosib i gadw cwmn\u00efau cynhyrchu mewn gwledydd fel Cymru lle mae cyflogau yn gymharol uchel.<\/p>\n<p>Erbyn hyn dwi&#8217;n meddwl fod cyfrifiaduron wedi creu mwy o waith mewn meysydd cwbl newydd tra&#8217;n lleihau&#8217;r baich o weinyddu mewn meysydd eraill. Hyd at y 90au cynnar roedd swyddfeydd mawr yn arfer cyflogi stafelloedd llawn o bobl (menywod i fod yn gywir) oedd a&#8217;r gwaith penodol o deipio dogfennau a llythyrau. Doedden nhw ddim mwy na cyfrifiaduron dynol gyda gwirydd sillafu a geiriadur. Erbyn hyn mae pawb yn teipio &#8211; yn paratoi dogfennau a delio gyda&#8217;u gohebiaeth eu hunain, a hynny ar gyfrifiadur.<\/p>\n<p>Doedd y swydd dwi&#8217;n wneud nawr ddim yn bodoli yn 1985. Roedd yna swyddi tebyg ar gael wrth gwrs mewn banciau, cwmni cyfrifydd neu yswiriant. Yr unig le arall fase swydd tebyg oedd mewn prifysgolion lle roedd sylfaen y dechnoleg dwi&#8217;n ddefnyddio nawr yn cael ei ddyfeisio a&#8217;i ddatblygu.<\/p>\n<p>Felly ydi&#8217;r cyfrifiaduron wedi cymryd ein swyddi neu ydyn nhw wedi creu byd lle mae&#8217;n bosib creu swyddi gwbl newydd? Mae&#8217;n g\u00e2n bop gwych ond hir oes i&#8217;r cyfrifiaduron.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Roedd Ffenestri yn fand synthpop Cymraeg ar ddechrau&#8217;r 80au. Aelodau&#8217;r band oedd Geraint James a Martyn Geraint (a ddaeth yn enwog wedyn fel diddanwr a cyflwynydd rhaglenni plant). Fe wnes i brynu eu albwm Tymhorau yn 1986 neu 87 a&#8217;i &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2011\/08\/30\/oes-y-cyfrifiaduron\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[2,31,5],"tags":[],"class_list":["post-540","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cerddoriaeth","category-fideo","category-technoleg"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/540","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=540"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/540\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":549,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/540\/revisions\/549"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=540"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=540"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=540"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}