{"id":497,"date":"2010-10-25T16:31:28","date_gmt":"2010-10-25T15:31:28","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=497"},"modified":"2010-10-25T16:31:28","modified_gmt":"2010-10-25T15:31:28","slug":"noson-gwylwyr-s4c","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2010\/10\/25\/noson-gwylwyr-s4c\/","title":{"rendered":"Noson Gwylwyr S4C"},"content":{"rendered":"<p>Mae yna lawer o drafodaeth ynglyn a dyfodol S4C yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ond dwi&#8217;n credu fod peryg nawr o ddrysu dau fater wahanol, sef cyllido&#8217;r sianel a&#8217;i chynnwys.<\/p>\n<p>Fe drefnwyd rhaglen arbennig &#8216;Noson Gwylwyr&#8217; (sydd <a href=\"http:\/\/www.s4c.co.uk\/c_gwylwyr.shtml\">ymlaen heno<\/a>) gan S4C ymhell cyn y cynlluniau presennol i gyllido S4C drwy&#8217;r drwydded teledu.<\/p>\n<p>Mae ffynhonnell a maint cyllid y sianel yn fater gwleidyddol a mae angen trafodaeth ar wahan ar gyfer hynny, mewn cyd-destun ehangach a phenderfyniad ar bwy sy&#8217;n rheoli materion darlledu yng Nghymru. Dwi wedi ebostio S4C i ofyn iddyn nhw beidio trafod y cyllid heno neu o leia gyfyngu ar y drafodaeth hynny.<\/p>\n<p>Beth sy&#8217;n bwysig i&#8217;r gwylwyr yw beth sydd yn ymddangos ar y sgr\u00een ac os oes rhaglenni atyniadol sy&#8217;n ddifyr a gafaelgar. Pwy bynnag sy&#8217;n ariannu S4C mi fydd toriadau yn digwydd beth bynnag a dwi&#8217;n sicr fod posib arbed arian mewn nifer o feysydd (mae nifer o fewn y diwydiant wedi s\u00f4n am y gwastraff arian sydd wedi bod dros y blynyddoedd).<\/p>\n<p>Mae angen i&#8217;r sianel ail-edrych ar sut mae nhw&#8217;n comisiynu rhaglenni. Dwi&#8217;n credu fod comisiynwyr y sianel a rhai cynhyrchwyr wedi mynd yn ddiog a hunan-foddhaol. Mae hyn yn ddatblygiad naturiol mewn unrhyw gorff sydd yn fonopoli. Does gan S4C ddim cystadleuaeth na chymhelliad allanol i wasanaethu&#8217;r gynulleidfa yn well &#8211; efallai fod angen edrych am ffyrdd y gall syniadau am raglenni Cymraeg gael eu cynhyrchu tu allan i S4C.<\/p>\n<p>Does dim rheswm o gwbl pam na allai&#8217;r Cynulliad ei hun ddechrau sianel deledu ei hunain (heblaw arian a&#8217;r cymhelliad gwleidyddol wrth gwrs). Mi fyddai&#8217;n ddrud darlledu sianel yn y ffordd draddodiadol (ar Freeview\/Sky) ond mae digon o ffyrdd eraill i ddosbarthu cynnwys ar lein fyddai&#8217;n cyrraedd cynulleidfa byd-eang gyda mwy o wylwyr potensial na S4C. Does dim rhaid trio creu sianel llinol o 7am-12am, ond yn hytrach rhoi cyfle ysgrifennwyr, cyfarwyddwyr, perfformwyr a phobl greadigol eraill i arbrofi.<\/p>\n<p>Un o fy hoff gyfresi yn y 90au oedd sioe &#8216;Adam &#038; Joe&#8217; a gafodd ei wneud ar gyllid bach iawn a&#8217;i ddarlledu mewn slot &#8216;arbrofol&#8217; ar Channel 4. Roedd y gyfres yn dibynnu ar greadigrwydd dau unigolyn, syniadau gwych, golygu slic a dim byd mwy na hynny. Oes yna bobl yr un mor greadigol yng Nghymru? Dwi ddim yn gwybod &#8211; mae yna rai enghreifftiau prin iawn ar YouTube ond os oedd hi&#8217;n bosib rhoi cyngor, arweiniad ac ychydig bach o gymorth technegol mae&#8217;n bosib fydden ni&#8217;n gwybod yr ateb.<\/p>\n<p>Beth bynnag, fe gawn ni weld heno os ydi S4C wir wedi ei &#8216;deall hi&#8217; neu a fyddan nhw&#8217;n parhau yn yr un rhigol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae yna lawer o drafodaeth ynglyn a dyfodol S4C yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ond dwi&#8217;n credu fod peryg nawr o ddrysu dau fater wahanol, sef cyllido&#8217;r sianel a&#8217;i chynnwys. Fe drefnwyd rhaglen arbennig &#8216;Noson Gwylwyr&#8217; &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2010\/10\/25\/noson-gwylwyr-s4c\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[7,15],"tags":[],"class_list":["post-497","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/497","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=497"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/497\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":499,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/497\/revisions\/499"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=497"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=497"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=497"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}