{"id":468,"date":"2010-09-06T19:50:11","date_gmt":"2010-09-06T18:50:11","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=468"},"modified":"2010-09-06T22:37:42","modified_gmt":"2010-09-06T21:37:42","slug":"bocsys-digidol-freeview-hd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2010\/09\/06\/bocsys-digidol-freeview-hd\/","title":{"rendered":"Bocsys digidol Freeview HD"},"content":{"rendered":"<p>Mae hwn yn gofnod reit hir am focsys digidol Freeview a fy ymchwil i wrth drio prynu un newydd!<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n gwylio teledu digidol ar <strong>Freeview<\/strong>, gyda recordydd fideo personol (<em>Personal Video Recorder<\/em> neu PVR). Mae&#8217;r bocs sydd gen i &#8211; y Topfield 5800 &#8211; tua 5 mlwydd oed erbyn hyn ond dal yn ddigon defnyddiol. Mae ganddo system weithredu weddol agored felly mae datblygwyr wedi gallu cynhyrchu cadarnwedd (<em>firmware<\/em>) amgen i&#8217;r peiriant sy&#8217;n cynnig llawer o welliannau dros feddalwedd y gwneuthuriwr gwreiddiol.<\/p>\n<p>Ers 2005, mae pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol. Mae darllediadau Cymru nawr yn gwbl ddigidol a mae system ddarlledu newydd wedi ei gyflwyno ar Freeview (<a href=\"http:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/DVB-T2\">DVB-T2<\/a>) sydd yn gwneud defnydd gwell o&#8217;r gofod a drwy gywasgiad MPEG-4 mae&#8217;n bosib darlledu sianeli HD.<\/p>\n<p>Felly dwi wedi bod yn chwilio am galedwedd newydd i&#8217;w brynu sy&#8217;n gallu derbyn Freeview HD. Dwi&#8217;n awyddus i allu gwylio <strong>S4C Clirlun<\/strong> am fod ansawdd lluniau S4C dal yn wael ar Freeview. Mi fydd <strong>BBC One HD<\/strong> yn lansio cyn bo hir hefyd, felly mi fydd e&#8217;n gyfle gr\u00eat i weld yr holl ddarpariaeth newydd fydd ar gael bryd hynny. Dwi ddim yn gweld fy hun yn gwylio <strong>ITV HD<\/strong> rhyw lawer. Yr unig ddewis arall yw <strong>Channel 4 HD<\/strong>. Dyw hwn ddim yn cael ei ddarlledu yng Nghymru ond os dwi&#8217;n lwcus iawn mae&#8217;n bosib fyddai&#8217;n gallu derbyn y sianel o drosglwyddydd y Mendip.<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n hapus iawn gyda&#8217;r nodweddion ar y PVR sydd gen i ar hyn o bryd felly os ydw i am brynu peiriant newydd, rhaid iddo wneud popeth oedd yr hen un yn wneud. Yn anffodus o fy ymchwil i, mae&#8217;n ddyddiau cynnar iawn o ran dewis y peiriant &#8216;perffaith&#8217;. Er fod digon o ddewis ar gael, mae rhai wedi eu cynhyrchu yn rhad iawn a mae nifer o gwynion amdanynt. Mae rhai bocsys da ar gael gan gwmniau safonol fel <strong><a href=\"http:\/\/www.humaxdigital.com\/uk\/\">Humax<\/a><\/strong> a <strong><a href=\"http:\/\/www.philips.co.uk\/c\/digital-tv-receiver\/24258\/cat\/\">Philips<\/a><\/strong> ond eto mae nifer o wallau neu nodweddion ar goll a felly mae defnyddwyr yn disgwyl am gadarnwedd newydd.<\/p>\n<p>Mae peiriant diddorol arall ar gael gan <strong>3View<\/strong>, sydd yn ceisio bod yn fwy o &#8216;ganolfan adloniant&#8217; sy&#8217;n gallu chwarae ffeiliau fideo\/sain\/lluniau oddi ar gyfrifiadur neu storfa ar eich rhwydwaith cartref. Yn anffodus nid yw&#8217;r cwmni yma eisiau cefnogi holl safonau Freeview HD (gwasanaethau botwm coch er enghraifft).<\/p>\n<p>Mae peiriant arall i&#8217;w lansio o dan yr enw <a href=\"http:\/\/www.icecrypt.com\/index.php\">Icecrypt<\/a>, fel mae&#8217;n digwydd gan yr un bobl oedd yn dosbarthu peiriant Topfield ym Mhrydain. Mae hwn yn swnio&#8217;n addawol ond dyw e ddim ar gael eto a dwi heb weld unrhyw adolygiadau ohono.<\/p>\n<p>Felly dwi wedi penderfynu gohirio prynu PVR newydd am nawr &#8211; mewn chwe mis dwi&#8217;n gobeithio bydd y dewis ychydig yn fwy amlwg, y gwallau wedi datrys a&#8217;r prisiau ychydig yn fwy rhesymol.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, dwi dal eisiau gwylio Freeview HD, felly dwi penderfynu prynu bocs digidol heb ddisg galed gan Humax. Fel mae&#8217;n digwydd mi fydd y bocs yn gallu recordio rhaglenni i ddisg USB allanol ond falle ddim mor hyblyg a PVR. Pan ddaw&#8217;r peiriant, fe wna&#8217;i adolygiad ohono.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae hwn yn gofnod reit hir am focsys digidol Freeview a fy ymchwil i wrth drio prynu un newydd! Dwi&#8217;n gwylio teledu digidol ar Freeview, gyda recordydd fideo personol (Personal Video Recorder neu PVR). Mae&#8217;r bocs sydd gen i &#8211; &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2010\/09\/06\/bocsys-digidol-freeview-hd\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5,15],"tags":[],"class_list":["post-468","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-technoleg","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/468","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=468"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/468\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":470,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/468\/revisions\/470"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=468"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=468"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=468"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}