{"id":43,"date":"2005-08-17T21:11:28","date_gmt":"2005-08-17T20:11:28","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=43"},"modified":"2005-08-17T21:14:52","modified_gmt":"2005-08-17T20:14:52","slug":"trenau-arafa-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2005\/08\/17\/trenau-arafa-cymru\/","title":{"rendered":"Trenau Arafa Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Yn &ocirc;l eitem newyddion fach <a href=\"http:\/\/news.bbc.co.uk\/welsh\/hi\/newsid_4150000\/newsid_4151200\/4151208.stm\">fan hyn<\/a> mae &#8216;dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Lywodraeth y Cynulliad&#8217; (lle? mae&#8217;n amhosib darganfod unrhywbeth ar gwefan grap y <a href=\"http:\/\/www.cymru.gov.uk\/\">Cynulliad<\/a>) yn dweud y byddai Trenau Arriva yn colli \u00a370,000 (yn flynyddol, dwi&#8217;n tybio) os fyddai teithwyr yn trosglwyddo i&#8217;r cyswllt awyr rhwng y gogledd a&#8217;r de.<\/p>\n<p>Wel bw hw. Os oedd Arriva yn llwyddo i gasglu&#8217;r t&acirc;l dyledus oddi ar bawb sy&#8217;n teithio mi fase&#8217;n nhw&#8217;n ennill y swm hynny yn &ocirc;l mewn ychydig o fisoedd. Ar hyn o bryd dwi&#8217;n cael lifft i&#8217;r gwaith yn y bore a chymryd y tr&ecirc;n nol adre fel arfer. Felly tocyn sengl dwi&#8217;n cael, sydd yn \u00a31.60 &#8211; er dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos dwi&#8217;n talu, pan nad yw&#8217;r peiriant tocynnau wedi torri neu&#8217;r tocynnwyr yn rhy ddiog.<\/p>\n<p>Heddi ddaeth tocynnwr (benywaidd) rownd yn reit fuan ar &ocirc;l cychwyn o&#8217;r orsaf yn y Bae. Wnaeth hi ddim gofyn am weld fy nhocyn, dim ond gofyn fasen i&#8217;n &#8220;hoffi&#8221; prynu un. Fel person gonest, wnes i ofyn am docyn sengl i Landaf (o&#8217;r Bae wrth gwrs gan mai dyna lle roedd y tr&ecirc;n yn cychwyn). Roedd gen i ddarn dwy-bunt yn barod felly dyma roi hynny iddi. Roedd rhywun yn trio sgwrsio &#8216;da fi felly wnes i ddim cymryd llawer o sylw o&#8217;r tocyn a&#8217;r newid m&acirc;n ddaeth n&ocirc;l cyn iddi droi a brysio lawr y tr&ecirc;n er mwyn agor y drysau.<\/p>\n<p>Mi wnes i adael y tr&ecirc;n i groesi draw i blatfform 1 a gymres i olwg ar y tocyn. Roedd e wedi&#8217;i brintio yn anghywir a felly&#8217;n dweud &#8216;ADYR&#8217; i &#8216;ANDAF&#8217; (Radyr i Llandaf) a phris 90c. Edryches i ar y newid a disgwyl cyfri \u00a31.10 (mewn darnau 20 a 10). Ond na, roedd gen i \u00a31.90 o newid!<\/p>\n<p>Os nad yw&#8217;r tocynnwyr yn gallu cyfri arian nac yn trafferthu i werthu tocynnau rhan fwyaf o&#8217;r amser,  fydd hi&#8217;n Arrivederci ar Arriva mae arna&#8217;i ofn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn &ocirc;l eitem newyddion fach fan hyn mae &#8216;dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Lywodraeth y Cynulliad&#8217; (lle? mae&#8217;n amhosib darganfod unrhywbeth ar gwefan grap y Cynulliad) yn dweud y byddai Trenau Arriva yn colli \u00a370,000 (yn flynyddol, dwi&#8217;n tybio) os &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2005\/08\/17\/trenau-arafa-cymru\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[27,7],"tags":[],"class_list":["post-43","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-bywyd","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/43","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=43"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/43\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=43"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=43"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=43"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}