{"id":415,"date":"2010-01-29T10:20:08","date_gmt":"2010-01-29T10:20:08","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=415"},"modified":"2010-01-29T12:07:43","modified_gmt":"2010-01-29T12:07:43","slug":"fideo-9-0","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2010\/01\/29\/fideo-9-0\/","title":{"rendered":"Fideo 9.0"},"content":{"rendered":"<p>Dwi wedi bod yn casglu gwybodaeth am fideos Cymraeg ar <strong>YouTube<\/strong> ers tipyn ac eisiau gwneud rhywbeth gyda nhw yn defnyddio API YouTube. Dwi am esbonio sut wnes i hyn isod ond os ydych chi yn ddi-amynedd neu ddim eisiau gwybod y manylion technegol, ewch draw i <a href=\"http:\/\/curiad.org\/fideo\/\">wylio&#8217;r fideos<\/a>.<\/p>\n<p>Y bwriad oedd creu &#8216;jiwcbocs&#8217; o fideos fyddai&#8217;n chwarae&#8217;n ddi-dor. Mae yna lawer o fideos gan fandiau Cymraeg ar YouTube &#8211; rhai wedi eu cymeryd o fideos &#8216;swyddogol&#8217; a wnaed ar gyfer rhaglenni teledu fel <strong>Fideo 9<\/strong>, <strong>Y Bocs<\/strong>, <strong>Syth <\/strong>a <strong>Bandit<\/strong>. Mae eraill yn fideos amatur o gigs neu rhai wedi eu creu gan y defnyddwyr. Dwi wedi dewis defnyddio y fideos swyddogol wnaed ar gyfer y teledu (sy&#8217;n cynnwys perfformiadau byw mewn stiwdio) am mai rheina ar y cyfan sydd o&#8217;r ansawdd orau ac yn ddiddorol i&#8217;w gwylio.<\/p>\n<p>Wnes i ddarganfod cod <strong>JavaScript<\/strong> ar y we gan rhywun oedd wedi sgrifennu sgript i ddangos &#8216;playlist&#8217; o fideos a defnyddiais hwnnw fel sail. Roedd y sgript yn defnyddio rhestr o fideos wedi ei cofnodi yn y cod eu hunan, ond roeddwn i eisiau rhywbeth oedd yn gofyn i&#8217;r gweinydd am fideo newydd ar hap. Roedd angen tipyn o newidiadau felly i ychwanegu galwad i&#8217;r gweinydd drwy <strong>Ajax<\/strong>. Wedyn wnes i sgrifennu ychydig o god <strong>PHP<\/strong> ar y gweinydd er mwyn rheoli pa fideos oedd yn cael eu chwarae.<\/p>\n<p>Unwaith mae fideo yn gorffen chwarae, mae&#8217;r cod yn danfon yr hen ID i&#8217;r gweinydd er mwyn cofnodi sawl gwaith mae&#8217;r fideo wedi ei ddangos. A mae&#8217;n danfon ID newydd yn \u00f4l (wedi ei ddewis ar hap ond <strong>ddim<\/strong> yr un ID ac o&#8217;r blaen). Mae gwybodaeth am y g\u00e2n yn cael ei ddanfon hefyd er mwyn dangos yn yr adran &#8216;Yn Chwarae&#8217;.<\/p>\n<p>I orffen, wnes i adeiladu ffurflen bach syml er mwyn derbyn cynigion am fideos newydd &#8211; mae&#8217;r ffurflen yn chwilio os yw&#8217;r fideo ar gael yn barod. Ac yn olaf &#8211; enw. Dewisiais i &#8216;<strong>Fideo 9.0<\/strong>&#8216; mewn teyrnged i&#8217;r gyfres arloesol Fideo 9 (lle daw llawer o&#8217;r fideos ar y rhestr).<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"\/storfa\/2010\/01\/fideo9.0.jpg\" alt=\"Fideo 9.0\" \/><\/p>\n<p>Dwi wedi treulio tua 3 noson ar adeiladu y system mor belled felly beth allwn i wella ac ychwanegu?<\/p>\n<ul>\n<li>Gwneud y fideos i chwarae gefn wrth gefn yn fwy llyfn (ond dwi&#8217;n credu mai cyfyngiad gyda&#8217;r ffordd mae YouTube yn gweithio yw hyn)<\/li>\n<li>Dangos jingl neu hysbyseb bob 30 munud<\/li>\n<li>Cadw cofnod o&#8217;r fideos sydd wedi eu gwylio fel nad yw c\u00e2n yn cael ei ail-ddangos o fewn yr un sesiwn<\/li>\n<li>Creu tudalen sy&#8217;n rhestru&#8217;r caneuon sydd ar gael yn y gronfa ddata, i&#8217;w wneud yn haws i bobl gynnig fideos newydd<\/li>\n<li>Cyfyngu y rhestr chwarae i ganeuon o gyfnodau arbennig (80au, 90au, 00au) neu math o berfformiad (fideo ar ffilm, gig byw, fideo amatur)<\/li>\n<li>Rhoi mwy o wybodaeth am ffynhonnell y fideo. Dwi&#8217;n cofnodi peth o hwn yn barod, ond dyw pob fideo ar YouTube ddim yn rhoi&#8217;r wybodaeth<\/li>\n<li>Mae llawer o&#8217;r fideos wedi eu recordio o&#8217;r darllediad teledu ac yn cynnwys cyflwyniadau o&#8217;r rhaglen neu ddarnau o&#8217;r g\u00e2n flaenorol neu&#8217;r un dilynol. Er fod hyn yn ddiddorol yng nghyd-destun hanesyddol, dwi eisiau dechrau\/gorffen y fideo yn y man cywir. Dwi wedi ceisio gwneud hyn yn barod ond fe fydd angen gwella&#8217;r dechneg.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ar hyn o bryd mae 76 o draciau yn y gronfa sydd yn 5 neu 6 awr o gerddoriaeth. Mi fasen i&#8217;n falch o gael ymateb, cwestiynau neu unrhyw welliannau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwi wedi bod yn casglu gwybodaeth am fideos Cymraeg ar YouTube ers tipyn ac eisiau gwneud rhywbeth gyda nhw yn defnyddio API YouTube. Dwi am esbonio sut wnes i hyn isod ond os ydych chi yn ddi-amynedd neu ddim eisiau &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2010\/01\/29\/fideo-9-0\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[25,31,21],"tags":[],"class_list":["post-415","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymraeg","category-fideo","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/415","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=415"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/415\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":420,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/415\/revisions\/420"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=415"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=415"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=415"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}