{"id":398,"date":"2009-11-03T23:25:10","date_gmt":"2009-11-03T23:25:10","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/11\/03\/llywodraeth-y-cynulliad-ar-youtube\/"},"modified":"2009-11-03T23:27:02","modified_gmt":"2009-11-03T23:27:02","slug":"llywodraeth-y-cynulliad-ar-youtube","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/11\/03\/llywodraeth-y-cynulliad-ar-youtube\/","title":{"rendered":"Llywodraeth y Cynulliad ar YouTube"},"content":{"rendered":"<p>Fe wnaeth Vaughan Roderick s\u00f4n rhai diwrnodau n\u00f4l fod <a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/user\/GovernmentofWales\">sianel YouTube newydd<\/a> ar gael o dan yr enw &#8216;Government of Wales&#8217; ac yn wir mae&#8217;n ymddangos ar yr olwg gynta i fod yn sianel swyddogol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r sianel yn dweud ei fod yn cynnig &#8220;information about Government News a <em>(sic)<\/em> general information about how the WAG and the National Assembly for Wales works&#8221;.<\/p>\n<p>Ond mae yna rywbeth od iawn am y fideos sydd arno &#8211; dyw e ddim yn teimlo i fi fel rywbeth swyddogol o gwbl. Gyda llaw fe gafodd sianel &#8216;LlywodraethCymru&#8217; ei greu hefyd n\u00f4l ym mis Mawrth 2009, ond does dim byd arno. Fe gafodd y sianel &#8216;GovernmentofWales&#8217; ei greu ar y 30ain Hydref 2009 a dwi ddim yn meddwl fod unrhyw gysylltiad rhwng y ddau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r fideos i weld yn slic ar yr wyneb am eu bod nhw yn defnyddio yr holl driciau a&#8217;r traciau sain sydd ar gael yn iMovie. O ran y cynnwys mae nhw&#8217;n amatur ac yn weddol ddi-bwynt. Mae yna fideo un munud o hyd a&#8217;i unig bwrpas yw dangos dau baragraff am gyfarfod y pwyllgor cyllid sydd wedi ei dynnu o stori gan y BBC! Os ydi hwn yn sianel swyddogol na fyddech chi&#8217;n disgwyl cyfweliad bach byr gan y gweinidog dan sylw &#8211; hynny yw rhywbeth gwerth ei roi ar ffurf fideo? Does dim byd yn y fideos yma na fyddech chi&#8217;n gallu darllen mewn 10 eiliad yn lle eistedd drwy fideo 60 eiliad.<\/p>\n<p>Mae nifer o fideos arall yn dangos achlysuron &#8216;dadleuol&#8217; a ddigwyddodd flynyddoedd yn \u00f4l &#8211; &#8216;Dafydd Wigley storms out&#8217; (yn 1999) er enghraifft. Mae rhain yn cael eu cyflwyno heb esboniad na&#8217;r cyd-destun. Nawr mae hwn yn honni bod yn sianel y &#8216;Llywodraeth&#8217; yn hytrach na&#8217;r Cynulliad fel corff, felly mi fydden i&#8217;n disgwyl ambell gic tuag at yr wrth-bleidiau, ond ai dyma y ffordd y mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno eu hun? Ydi hwn yn helpu ein dealltwriaeth o Lywodraeth y Cynulliad a sut mae&#8217;n gweithredu?<\/p>\n<p>Mae fideo rhyfedd arall yn s\u00f4n am app Cymraeg i&#8217;r iPhone. Nawr fe gyhoeddwyd rhywbeth am hynny ym mis Awst, ond dwi ddim yn defnyddio iPhone felly dwi ddim yn siwr os unrhyw ddatblygiadau arall (does dim byd newydd i&#8217;w weld ar y we). Mae&#8217;r testun yn y fideo yn cloi gyda&#8217;r sylw &#8220;The Minister for Heritage and Welsh Language made not <em>(sic)<\/em> comment&#8221; &#8211; a nid hynny yw ei deitl iawn &#8216;ta beth.<\/p>\n<div class=\"epyt-video-wrapper\"><iframe loading=\"lazy\"  id=\"_ytid_49942\"  width=\"480\" height=\"270\"  data-origwidth=\"480\" data-origheight=\"270\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/NodPojakaZQ?enablejsapi=1&#038;autoplay=0&#038;cc_load_policy=0&#038;cc_lang_pref=&#038;iv_load_policy=1&#038;loop=0&#038;rel=1&#038;fs=1&#038;playsinline=0&#038;autohide=2&#038;theme=dark&#038;color=red&#038;controls=1&#038;disablekb=0&#038;\" class=\"__youtube_prefs__  epyt-is-override  no-lazyload\" title=\"YouTube player\"  allow=\"fullscreen; accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen data-no-lazy=\"1\" data-skipgform_ajax_framebjll=\"\"><\/iframe><\/div>\n<p>Fy nghwestiwn yw felly &#8211; ydi hwn wir yn sianel &#8216;swyddogol&#8217; gan y Llywodraeth neu yn beiriant propaganda gan y boi &#8216;na sy&#8217;n &#8216;ymchwilydd&#8217; i aelod Llafur? Os y cynta, mae&#8217;r sianel yn tipyn o j\u00f4c fel ffynhonell &#8216;swyddogol&#8217; o wybodaeth gan y Llywodraeth. Os yr ail beth sy&#8217;n wir, yna dwi&#8217;n synnu dim a mae&#8217;n dweud i mi nad yw hon yn sianel i&#8217;w gymryd o ddifri.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, efallai fod y sianel yn adlewyrchiad perffaith o Lywodraeth y Cynulliad &#8211; amaturiaid anaeddfed sydd ddim wedi deall sut i gyflwyno gwybodaeth i&#8217;r cyhoedd, yn enwedig yn y cyfryngau newydd?<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fe wnaeth Vaughan Roderick s\u00f4n rhai diwrnodau n\u00f4l fod sianel YouTube newydd ar gael o dan yr enw &#8216;Government of Wales&#8217; ac yn wir mae&#8217;n ymddangos ar yr olwg gynta i fod yn sianel swyddogol. Mae&#8217;r sianel yn dweud ei &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/11\/03\/llywodraeth-y-cynulliad-ar-youtube\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[31,29],"tags":[],"class_list":["post-398","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-fideo","category-gwleidyddiaeth"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/398","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=398"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/398\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":400,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/398\/revisions\/400"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=398"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=398"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=398"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}