{"id":383,"date":"2009-09-30T22:53:43","date_gmt":"2009-09-30T21:53:43","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/30\/symud-sianeli\/"},"modified":"2009-10-01T14:27:21","modified_gmt":"2009-10-01T13:27:21","slug":"symud-sianeli","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/30\/symud-sianeli\/","title":{"rendered":"Symud sianeli"},"content":{"rendered":"<p>Dwi&#8217;n parhau i sgrifennu am sefyllfa S4C ar Freeview (a pam lai, sneb arall yn gwneud) ond mae gen i ychydig fwy o wybodaeth nawr. Mae&#8217;r newid yn un technegol iawn a rhywbeth na fyddai rhan fwyaf o wylwyr yn sylwi arno efallai ond mae&#8217;n werth codi&#8217;r pwnc yr un fath.<\/p>\n<p>Heddiw roedd angen i bawb ar draws gwledydd Prydain ail-diwnio eu offer Freeview. Pwrpas y symud oedd sicrhau fod y prif sianeli (yn ystyriaeth Ofcom) ar gael i bawb, a roedd hynny yn golygu naill ai amlblecs &#8216;Mux 1&#8217; (sy&#8217;n llawn o sianeli&#8217;r BBC) neu &#8216;Mux 2&#8217;.<\/p>\n<p>Fel rhan o hyn, roedd sianel Five yn symud i amlblecs Mux 2 (sef yr union yr un peth a wnaeth S4C ar y 9fed o Fedi). Mae ansawdd llun Five wedi dirywio yr un fath a S4C, a mae llawer mwy o gwyno am hynny fel y fyddech chi&#8217;n disgwyl. Yr ateb yw fod cydraniad (resolution) y darllediad wedi newid.<\/p>\n<p>Y safon darlledu ar gyfer teledu digidol cyffredin ym Mhrydain yw PAL D1 sef 720&#215;576 picsel mewn ffurf anamorffig (delwedd 16:9 sy&#8217;n cael ei recordio ar ffurf 4:3). Mae hyn yn cael ei ehangu ar y teledu yn \u00f4l i&#8217;w faint llawn ar sgr\u00een lydan.<\/p>\n<p>Am rhyw reswm mae&#8217;r lluniau ar Mux 2 yn cael eu darlledu gyda cydraniad o 544&#215;576 picsel. Er fod hyn yn dderbyniol ar gyfer rhai sianeli mae&#8217;n debyg fod hyn yn erbyn safonau technegol Ofcom ar gyfer y prif sianeli cyhoeddus. Mae&#8217;r llun isod yn dangos y gwahaniaeth mewn maint y llun cyn ac ar \u00f4l y newid, sy&#8217;n esbonio pam fod llawer llai o fanylder yn y llun presennol.<\/p>\n<p><a href=\"\/storfa\/2009\/09\/cymharu-cydran.png\" title=\"Cliciwch am lun llawn\"><img decoding=\"async\" src=\"\/storfa\/2009\/09\/cymharu-cydran-b.jpg\" alt=\"Newid cydraniad lluniau S4C\" \/><\/a><\/p>\n<p>Ie, dwi wedi dewis Angharad Mair fel y llun esiampl er mwyn dangos un o &#8216;wynebau S4C&#8217; yn cael ei gwasgu.<\/p>\n<p>Nawr mae&#8217;n debyg y bydd y sefyllfa yn cywiro ei hun dros amser, efallai erbyn 2010, wrth i&#8217;r newid digidol barhau a bod ychydig fwy o ofod yn cael ei ryddhau. Gobeithio y bydd S4C a Five n\u00f4l i&#8217;w ansawdd llawn erbyn hynny ond mae&#8217;n rhywbeth fydd rhaid cadw golwg arno.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwi&#8217;n parhau i sgrifennu am sefyllfa S4C ar Freeview (a pam lai, sneb arall yn gwneud) ond mae gen i ychydig fwy o wybodaeth nawr. Mae&#8217;r newid yn un technegol iawn a rhywbeth na fyddai rhan fwyaf o wylwyr yn &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/30\/symud-sianeli\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5,15],"tags":[],"class_list":["post-383","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-technoleg","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/383","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=383"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/383\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":384,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/383\/revisions\/384"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=383"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=383"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=383"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}