{"id":380,"date":"2009-09-27T00:31:12","date_gmt":"2009-09-26T23:31:12","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/27\/pasio-dwr-yn-y-gofod\/"},"modified":"2009-09-27T00:31:12","modified_gmt":"2009-09-26T23:31:12","slug":"pasio-dwr-yn-y-gofod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/27\/pasio-dwr-yn-y-gofod\/","title":{"rendered":"Pasio d\u0175r yn y gofod"},"content":{"rendered":"<p>Ar wefan Golwg 360, mae Ifan Morgan Jones yn <a href=\"http:\/\/www.golwg360.com\/ui\/News\/ViewNewsDetails.aspx?ID=6020\">gofyn y cwestiwn<\/a>:<\/p>\n<blockquote><p>Pam bod India yn chwilio am dd\u0175r gl\u00e2n ar y lleuad pam nad oes digon i\u2019w gael ar gyfer ei phobol ei hun?<\/p><\/blockquote>\n<p>Cwestiwn digon teg, ond mae&#8217;n gwestiwn sy&#8217;n cael ei ofyn yn aml allan o anwybodaeth. Does dim angen dewis rhwng gwario ar un peth neu&#8217;r llall ond yn hytrach mi fydd llywodraethau yn blaenoriaethu eu gwariant yn y gwahanol feysydd. Rhaid edrych ar ffrwyth y buddsoddiad mewn unrhyw faes a sut mae&#8217;n gallu elwa y wlad a&#8217;r gymdeithas yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Mae India yn gwario tua 0.1% o&#8217;i GDP ar ei rhaglen ofod (asiantaeth <a href=\"http:\/\/www.isro.org\/\">ISRO<\/a>), sy&#8217;n rhan bitw iawn mewn gwirionedd. Beth mae hyn yn gyflawni? Rhaid gwneud yn glir mai nid danfon lloerennau i&#8217;r lleuad yw prif bwrpas yr asiantaeth. Mae&#8217;n cyflogi gwyddonwyr yn India sy&#8217;n datblygu arbenigedd cynhenid ymhob maes technolegol sydd angen ar gyfer rhaglen ofod. Mae&#8217;n golygu fod India yn gallu lansio lloerennau eu hunain, sydd yn helpu gwyddonwyr i gadw llygad barcud ar pob math o newidiadau amgylcheddol o&#8217;r gofod &#8211; yn cynnwys rhewlifau yr Himalayas, defnydd y tir a newid tirwedd oherwydd tywydd garw neu ddaeargrynfeydd. Mae hyn yn hynod o bwysig i wlad fydd yn gorfod cyfyngu ar ei allbwn carbon deuocsid tra&#8217;n ceisio datblygu ei economi a safon byw eu phobl.<\/p>\n<p>Mae buddsoddiad mewn gwyddoniaeth a technoleg yn gaffaeliad mawr i unrhyw wlad fodern a mae India yn iawn i wneud hynny. Ers llawer blwyddyn mae gan India enw da ym myd meddygaeth a technoleg gwybodaeth. Dyw hi ddim yn gam mawr i fynd o ddatblygu lloeren sy&#8217;n cylchdroi&#8217;r ddaear i ddatblygu lloeren sy&#8217;n gallu archwilio&#8217;r lleuad neu ymhellach. Mae e&#8217;n gyfrifol hefyd am gefnogi ymchwil wyddonol sylfaenol sy&#8217;n aml yn gymorth i ddatblygu technoleg sy&#8217;n gwella ein safonau byw ar y ddaear hefyd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n wir i ddweud y bydd cyflenwi d\u0175r glan yn broblem sy&#8217;n mynd i gynyddu yn enbyd yn y dyfodol. Ond mae&#8217;r ymladd dros dd\u0175r yn digwydd yn barod rhwng India a Phacistan. Dyma ddau wlad sy wedi buddsoddi biliynau mewn byddinoedd ac arfau niwclear er mwyn amddiffyn eu ffiniau a felly hefyd eu hadnoddau naturiol.<\/p>\n<p>Mae gwariant milwrol India nawr yn 3% o&#8217;i GDP, 30 gwaith yn fwy na&#8217;i gwariant ar y rhaglen ofod. Sut mae&#8217;r wlad yn elwa o hynny? Wel, mae nhw&#8217;n datblygu arbenigedd mewn pob math o ffyrdd o ladd pobl yn sicr. Os oes angen cwestiynu sut mae llywodraeth India yn gwario ei incwm, mae&#8217;n well edrych fan hyn gynta.<\/p>\n<p>Mae llawer hefyd wedi beirniadu yr arian mae America, Rwsia a nifer o wledydd eraill wedi gwario ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (<a href=\"http:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/International_Space_Station\">ISS<\/a>). Cwpl o ystadegau &#8211; mae gwariant milwrol America tua 4.7% o&#8217;i GDP yn 2009, sef $965 biliwn. Cyllid NASA am 2009 yw $17.6 biliwn.<\/p>\n<p>Felly, un sylw i gloi. Mae&#8217;r ymchwil mae NASA wedi ei wneud dros y blynyddoedd wedi dod a pob math o fuddiannau i&#8217;n bywyd bob dydd &#8211; mae nifer o <a href=\"http:\/\/www.thespaceplace.com\/nasa\/spinoffs.html\">restrau ohonynt<\/a> ar gael ar y we. Yn ddiweddar ar yr orsaf ofod mae nhw datblygu technoleg i ail-gylchu d\u0175r gwastraff yr orsaf ac o biso&#8217;r gofodwyr eu hunain. Y canlyniad yw d\u0175r gl\u00e2n sy&#8217;n ddigon da i&#8217;w yfed unwaith eto.<\/p>\n<p>Mae technolegau o&#8217;r fath wedi eu datblygu ar raddfa fychan iawn ar gyfer defnydd &#8216;daearol&#8217; hefyd, ond mae ymchwil NASA yn hollbwysig ar gyfer dangos fod hi&#8217;n bosib creu system ail-gylchu cynhwysfawr a&#8217;i fod yn gwbl ymarferol. Mae hynny&#8217;n hwb mawr a fe allai arwain at un o&#8217;r datblygiadau pwysicaf ar gyfer gwledydd tlotaf y byd &#8211; sicrhau cyflenwad dibynadwy o dd\u0175r gl\u00e2n mewn modd cynaladwy.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar wefan Golwg 360, mae Ifan Morgan Jones yn gofyn y cwestiwn: Pam bod India yn chwilio am dd\u0175r gl\u00e2n ar y lleuad pam nad oes digon i\u2019w gael ar gyfer ei phobol ei hun? Cwestiwn digon teg, ond mae&#8217;n &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/27\/pasio-dwr-yn-y-gofod\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[29,8],"tags":[],"class_list":["post-380","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwleidyddiaeth","category-gwyddoniaeth"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/380","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=380"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/380\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=380"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=380"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=380"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}