{"id":378,"date":"2009-09-14T15:21:04","date_gmt":"2009-09-14T14:21:04","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/14\/ansawdd-lluniau-s4c-yn-dirywio\/"},"modified":"2009-09-14T15:21:04","modified_gmt":"2009-09-14T14:21:04","slug":"ansawdd-lluniau-s4c-yn-dirywio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/14\/ansawdd-lluniau-s4c-yn-dirywio\/","title":{"rendered":"Ansawdd lluniau S4C yn dirywio"},"content":{"rendered":"<p>Wythnos ddiwethaf fe wnaeth sianel S4C Digidol symud lleoliad ar wasanaeth Freeview. Yr esboniad technegol yw fod y sianel wedi symud o amlblecs masnachol &#8216;Mux A&#8217; i amlblecs &#8216;Mux 2&#8217; sydd ar gyfer sianeli <a href=\"http:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Public_service_broadcasting_in_the_United_Kingdom\">PSB<\/a>. Mae&#8217;n rhaid cario Mux1\/2 ar bob trosglwyddydd yn cynnwys y &#8216;relays&#8217; llai, ond does dim rheidrwydd i wneud hynny ar gyfer yr amlblecs masnachol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r newid i weld yn beth da felly, gan ei fod yn cynyddu cyrhaeddiad y sianel i wylwyr ym mannau anghysbell Cymru. Yn anffodus mae S4C nawr yn rhannu lle gyda holl sianeli ITV a Channel 4, a mae&#8217;n ymddangos fod ganddo llai o ofod nag o&#8217;r blaen.<\/p>\n<p>Canlyniad hyn yw fod ansawdd y llun wedi dirywio yn amlwg, gyda llun llawer mwy &#8216;meddal&#8217; a mwy o &#8216;blocio&#8217; gyda sg\u00eel-effeithiau cywasgiad <a href=\"http:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/MPEG-2\">MPEG-2<\/a> yn digwydd yn aml.<\/p>\n<p>Mae ansawdd yr unig sianel Gymraeg nawr yn ddim gwell na rhai o&#8217;r sianeli siopa neu sianeli &#8220;+1&#8221;. Felly dwi&#8217;n gweld S4C yn cael ei drin fel sianel israddol ar draul sianeli gweddol di-bwynt sydd ar yr un amlblecs fel Channel 4+1 neu ITV2\/3\/4.<\/p>\n<p>Fe wnes i gwyno am hyn i Wifren Gwylwyr S4C a fe ges i ymateb prydlon gan aelod o adran beirianneg S4C. Mae ganddyn nhw bryderon hefyd yngl\u0177n a ansawdd y llun a fe fyddant yn &#8220;medru man-diwnio yr MPEG encoding dros y misoedd nesaf&#8221;. Mae&#8217;n wir ei fod yn bosib gwneud tipyn o welliannau drwy ddefnyddio caledwedd amgodi newydd a tiwnio y proffil ar cyfer cywasgu y lluniau i MPEG-2.<\/p>\n<p>Yn anffodus, mae hyn yn esiampl o nodweddiadol o sut mae&#8217;r diwydiant darlledu yn datblygu yn sg\u00eel technolegau digidol &#8211; mae pwysau ar bawb i wasgu fwy a fwy o sianeli i&#8217;r un gofod ar draul ansawdd. Er fod &#8216;Mux 2&#8217; ar gyfer sianeli &#8216;darlledu cyhoeddus&#8217;, sianeli masnachol ydyn nhw gyd sydd yn dibynnu ar hysbysebion &#8211; pob un heblaw am S4C wrth gwrs. Mae lle i ddadlau y dylai S4C fod ar amlblecs y BBC ond mae&#8217;n siwr fod rhesymau technegol\/gwleidyddol dros beidio gwneud hynny.<\/p>\n<p>Mi fydd S4C HD yn lansio mis Mawrth nesaf ar Freeview (unwaith i Cymru gyfan newid i ddigidol) a mi fydd hynny yn cynnig llun o ansawdd uchel iawn unwaith eto. Dwi&#8217;n edrych ymlaen at hynny, ond wrth gwrs ni fydd S4C HD ar gael i bawb yng Nghymru ar Freeview a fe fydd angen prynu cyfarpar newydd (eto) i&#8217;w wylio.<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n gobeithio y bydd rhyw ffordd o wella lluniau S4C yn \u00f4l i&#8217;r ansawdd gwreiddiol a wnai drio rhoi enghreifftiau ar y blog cyn bo hir i ddangos y newid.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wythnos ddiwethaf fe wnaeth sianel S4C Digidol symud lleoliad ar wasanaeth Freeview. Yr esboniad technegol yw fod y sianel wedi symud o amlblecs masnachol &#8216;Mux A&#8217; i amlblecs &#8216;Mux 2&#8217; sydd ar gyfer sianeli PSB. Mae&#8217;n rhaid cario Mux1\/2 ar &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/09\/14\/ansawdd-lluniau-s4c-yn-dirywio\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5,15],"tags":[],"class_list":["post-378","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-technoleg","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/378","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=378"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/378\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=378"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=378"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=378"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}