{"id":365,"date":"2009-06-23T14:51:03","date_gmt":"2009-06-23T13:51:03","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=365"},"modified":"2009-10-08T18:51:09","modified_gmt":"2009-10-08T17:51:09","slug":"ymateb-y-cynulliad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/06\/23\/ymateb-y-cynulliad\/","title":{"rendered":"Ymateb y Cynulliad"},"content":{"rendered":"<p>Ydych chi, fel fi, wedi syrffedu ar drafod fethiannau Golwg 360 a wedi cael llond bol o ddisgwyl iddo weithio&#8217;n &#8220;iawn&#8221;? Wel mae gen i un pwt bach arall i&#8217;w bostio, nid fod gen i lawer o newyddion da i&#8217;w gynnig i chi.<\/p>\n<p>Deg diwrnod ar \u00f4l lansiad (cynta) Golwg 360 ar Fai 15fed wnes i ddanfon llythyr ebost at Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Treftadaeth yn y Cynulliad. Roedd yr ebost yn mynegi fy mhryderon yngl\u0177n a safon y gwaith ar y wefan a&#8217;r ffaith fod tipyn o niwl dros bwy yn union ddatblygodd y wefan ac i le aeth yr arian. Erbyn hyn mae&#8217;r niwl wedi clirio cryn dipyn.<\/p>\n<p>Fe ges i ymateb i&#8217;r ebost ar Fehefin 16eg gan swyddog ar ran y Gweinidog. Dwi am gyhoeddi (gyda chaniatad) darnau o&#8217;r ymateb gyda rhai sylwadau pellach gen i.<\/p>\n<blockquote><p>Rwy\u2019n gwerthfawrogi eich pryder am y wefan newydd ond rydym yn gobeithio y caiff Golwg360 gyfle i ddangos ei photensial dros yr wythnosau a\u2019r misoedd nesaf.<\/p><\/blockquote>\n<p>Dyma sydd wedi cael ei ddweud o hyd &#8211; arhoswch am ychydig wythnosau a misoedd (ar \u00f4l aros am 12 mis ers i Golwg ennill yr arian). Os oedd y wefan wedi diwallu yr anghenion sylfaenol (h.y. dangos erthyglau newyddion mewn ffordd syml, deniadol a hawdd i&#8217;w ddefnyddio) fyddai neb wedi cwyno. Fe fyddai unrhyw ddatblygiadau pellach yn fonws. Os ydych chi&#8217;n ceisio creu gwefan &#8216;chwyldroadol&#8217; (heb yr arian na&#8217;r arbenigedd) mi fyddwch chi&#8217;n siwr o syrthio&#8217;n fflat ar eich gwyneb. Gwell o lawer yw creu sylfaen cadarn a adeiladu wrth i&#8217;r gynulleidfa dyfu.<\/p>\n<blockquote><p>Mae cwmni Tinopolis (oedd yn rhan greiddiol o gais cwmni Golwg Cyf. a enillodd y tendr i ddarparu\u2019r gwasanaeth \u2013 a hynny mewn cystadleuaeth agored) yn gweithio i gywiro\u2019r problemau technegol ac mae\u2019n dda gweld bod y gwasanaeth sylfaenol yn gweithio i bwrpas profi cychwynnol erbyn hyn, a bod Golwg Newydd a\u2019i isgontractwyr yn glir yngl\u0177n \u00e2\u2019r camau datblygu nesaf.<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae&#8217;n wir fod Tinopolis yn gweithio i gywiro&#8217;r wefan ond y rheswm am hyn yw mai nid nhw ddatblygodd y wefan yn y lle cynta (er mai ei henw nhw oedd ar y tendr) a ni chafodd y wefan ei brofi yn ddigon da yn y lle cynta. 6 wythnos ar \u00f4l lansio fasen i&#8217;n disgwyl iddyn nhw fod wedi cywiro y problemau sylfaenol o leia. Mae&#8217;n amlwg nad yw hi&#8217;n hawdd gwneud hyn oherwydd safonau isel y wefan i gychwyn.<\/p>\n<blockquote><p>Ni fyddai cwmni Golwg Newydd yn honni arbenigedd mewn adeiladu gwefannau, ond roedd gan TV Everywhere brofiad o redeg a datblygu cynlluniau o\u2019r math hwn ac mae gan Tinopolis Interactive adran gref yn arbenigo yn y maes.  Mae\u2019r ddau gwmni hyn, y mae gan Golwg gytundeb \u00e2 nhw, yn gwmn\u00efau Cymreig.<\/p><\/blockquote>\n<p>Yn sicr mae Tinopolis wedi datblygu rhai gwefannau yn y gorffennol ond nid dyna eu cymhwyster craidd. Mae yna nifer o gwmn\u00efau bach yng Nghymru sydd yn llawer mwy adnabyddus am adeiladu gwefannau, gyda llond llaw yng Nghymru yn cyflogi rhwng 15-40 o staff ers bron i bymtheg mlynedd. Mae TV Everywhere yn gwmni un-dyn sydd yn arbenigo mewn rhoi fideo ar y we ond &#8216;sdim golwg o bortffolio ehangach o ddatblygu gwefannau aml-bwrpas.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l cyfarwyddwr TV Everywhere, Iolo Jones, doedd gan Tinopolis ddim yr amser ac adnoddau i adeiladu&#8217;r wefan a felly fe ddaeth ei gwmni e i&#8217;r adwy drwy all-ffynonnellu&#8217;r gwaith i gwmni o India. Nid oedd gan TV Everywhere unrhyw r\u00f4l wrth ddatblygu&#8217;r wefan felly &#8211; heblaw &#8220;rheoli&#8217;r prosiect&#8221;. Fe dalwyd \u00a38,400 am y gwaith yma ond nid arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd yn \u00f4l Mr Jones.<\/p>\n<p>Mae datblygwyr yn India yn gallu gweithio am gost o tua $5-20 yr awr (wnawn ni fod yn geidwadol a dweud $15). Mae cost datblygwyr ym Mhrydain yn gallu amrywio cryn dipyn yn dibynnu ar faint a phrofiad y cwmni. Mi fyddai $75 yr awr yn gyfradd dda iawn os oeddech chi am gael gwaith safonol gyda rhywfaint o ddisgownt &#8216;noddiant&#8217;. Felly i gwmni yn ynysoedd Prydain mi fyddai&#8217;r cyllid ar gyfer y gwaith o leia 5 gwaith yn fwy &#8211; \u00a340,000+<\/p>\n<p>Mae \u00a38,400 yn swnio fel bargen felly? Yn sicr mi fyddai&#8217;n fargen os oedd y wefan o safon uchel ac yn gyfatebol i&#8217;r gwaith allai fod wedi ei wneud gan gwmni Cymreig. Mewn ffordd &#8211; fyddai neb ddim callach a fyddai gan neb unrhyw reswm i ymchwilio i pwy adeiladodd y wefan.<\/p>\n<blockquote><p>Fe fydd y wefan yn cydymffurfio \u00e2\u2019r ddeddfwriaeth ac mae darpariaeth ar gyfer gwasanaeth RSS, er bod Golwg Newydd hefyd yn gorfod ystyried yr agweddau masnachol sy\u2019n rhan bwysig o gynllun busnes y cwmni.  O ran dylunio, fe effeithiodd y problemau technegol ar y diwyg cychwynnol ond y mae gwelliannau wedi digwydd ers y lansio, a rhagor i ddod.<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae ganddyn nhw gynllun busnes? Sut mae darparu RSS yn effeithio ar yr agwedd masnachol? Mae&#8217;r gwasanaeth RSS\/Twitter gan <a href=\"http:\/\/golwg.rhwyd.org\/\">Golwg Arall<\/a> wedi profi&#8217;n llwyddiannus a ffordd effeithiol o hyrwyddo&#8217;r wefan (er fod pawb wedi syrffedu \u00e2&#8217;r problemau technegol parhaol). Mae&#8217;r ffaith fod y diwyg yn cael ei &#8216;wella&#8217; wrth fynd yn ei flaen yn dangos nad oedd datblygiad y wefan yn un cadarn a safonol o&#8217;r dechrau a felly fe wastraffwyd yr arian wrth ddatblygu&#8217;r wefan.<\/p>\n<blockquote><p>Fe nododd y cwmni\u2019n glir yn y lansio mai cyfnod prawf fyddai\u2019r cyfnod cychwynnol ac y byddent yn falch o dderbyn sylwadau gan ddefnyddwyr.  Yn anffodus, fe amharodd y problemau technegol ar y cyfnod prawf hwnnw, ond mae\u2019n dechrau digwydd o ddifri nawr.<\/p><\/blockquote>\n<p>Oedden nhw ddim o ddifri i ddechrau? Mae&#8217;n edrych i fi fel petai pawb yn trio gwadu fod unrhyw gamgymeriadau mawr wedi&#8217;u gwneud o gwbl (stori debyg i&#8217;r aelodau seneddol a&#8217;u treuliau). Unwaith i&#8217;r Gweinidog dderbyn yr &#8216;<a href=\"http:\/\/news.bbc.co.uk\/welsh\/hi\/newsid_8090000\/newsid_8092100\/8092128.stm\">adroddiad<\/a>&#8216; gan y Cyngor Llyfrau ar y mater yma, gobeithio fe fydd rhywun yn cymeryd y cyfrifoldeb a phenderfynu ail-ddatblygu&#8217;r wefan o&#8217;r cychwyn gyda chynllun cadarn a chyllid addas.<\/p>\n<p>Mi fyddai&#8217;n benderfyniad dewr ond yn un gwbl angenrheidiol os yw Golwg 360 am fod yn wefan newyddion llwyddiannus yn y tymor hir.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ydych chi, fel fi, wedi syrffedu ar drafod fethiannau Golwg 360 a wedi cael llond bol o ddisgwyl iddo weithio&#8217;n &#8220;iawn&#8221;? Wel mae gen i un pwt bach arall i&#8217;w bostio, nid fod gen i lawer o newyddion da i&#8217;w &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/06\/23\/ymateb-y-cynulliad\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[29,21],"tags":[],"class_list":["post-365","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwleidyddiaeth","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/365","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=365"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/365\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":390,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/365\/revisions\/390"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=365"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=365"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=365"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}