{"id":343,"date":"2009-06-10T16:22:53","date_gmt":"2009-06-10T15:22:53","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=343"},"modified":"2009-06-10T16:32:00","modified_gmt":"2009-06-10T15:32:00","slug":"golwg-nol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/06\/10\/golwg-nol\/","title":{"rendered":"Golwg n\u00f4l"},"content":{"rendered":"<p>Dwi ddim wedi gwneud unrhyw sylw am wasanaeth <strong>Golwg 360<\/strong> ers tipyn am mod i&#8217;n disgwyl i weld sut y fyddai&#8217;r gwasanaeth yn datblygu, ond mae&#8217;n werth edrych n\u00f4l ar beth sydd wedi digwydd ers y &#8216;lansiad&#8217; (yr un cynta ar 15 Fai 2009, nid yr ail yn y Senedd a nid y trydydd pan fydd y wefan yn lansio go-iawn, rhywbryd cyn diwedd 2011?).<\/p>\n<p>Yn fuan iawn ar \u00f4l lansio fe welwyd y problemau technegol a fe gafwyd rhain eu trafod yn helaeth ar <a href=\"http:\/\/maes-e.com\/viewtopic.php?f=3&#038;t=27367\">Faes-e<\/a>, <a href=\"http:\/\/search.twitter.com\/search?q=%22golwg+360%22+OR+%22golwg360%22+OR+%23golwg360\">Twitter<\/a> ac amryw o <a href=\"http:\/\/blogsearch.google.com\/blogsearch?q=golwg+360\">flogiau<\/a> ynghyd a llefydd eraill siwr o fod nad ydw i&#8217;n ymwybodol ohonynt.<\/p>\n<p>Fe roedd tri elfen i&#8217;r trafodaethau yma:<\/p>\n<ol>\n<li>Rhwystredigaeth gyda problemau technegol y wefan<\/li>\n<li>Sylwadau am ansawdd y gwaith dylunio a technegol ar y wefan<\/li>\n<li>Beirniadaeth am natur yr erthyglau, safon y newyddiaduraeth a&#8217;r gwaith golygu<\/li>\n<\/ol>\n<p>Fe roedd 1 yn deillio yn uniongyrchol o 2, ond fe drwsiwyd y broblem yn yr wythnos neu ddau gynta. Er hyn mae&#8217;r problemau technegol sylfaenol yn y wefan yn dal i achosi problemau i bobl ar adegau, yn enwedig os yw rhywun yn dilyn dolen i&#8217;r wefan wedi eu gop\u00efo o &#8216;sesiwn&#8217; rhywun arall (er enghraifft, dilynwch y <a href=\"http:\/\/www.golwg360.com\/UI\/Users\/HomeView.aspx?navigationID=1&#038;domainID=20\">ddolen yma<\/a>). O ran rhif 3, mae&#8217;n hawdd addasu arddull y testun ar \u00f4l derbyn adborth &#8211; dyw hi ddim mor hawdd trwsio problemau sylfaenol o fewn gwefan heb ei ail-ddatblygu o&#8217;r dechrau.<\/p>\n<p>Ychydig iawn o sylw roddwyd i&#8217;r problemau yma gan y cyfryngau torfol yn gyffredinol a roedd y <strong>BBC<\/strong> yn amlwg yn petruso dros grybwyll y stori am resymau golygyddol\/gwleidyddol. Roedd y rhithfro yn llawer mwy &#8216;rhydd&#8217; i roi sylwebaeth di-duedd ac eitha manwl o ffaeleddau technegol y wefan a felly yn wasanaeth gwerthfawr ar adeg lle&#8217;r oedd cyfryngau torfol yn anwybyddu neu osgoi y stori.<\/p>\n<p>Er hyn fe gafwyd <a href=\"http:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/2009\/05\/19\/golwg-welsh-language-website-beset-by-problems-55578-23658155\/\">un stori<\/a> yn y <strong>Daily Post<\/strong> yn s\u00f4n am y problemau technegol. Rhaid hefyd diolch i <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/blogs\/thereporters\/vaughanroderick\/\">Vaughan Roderick<\/a> am rhoi <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/blogs\/thereporters\/vaughanroderick\/2009\/05\/glyg.html\">sylw<\/a> i&#8217;r mater ar ei flog er y &#8216;sensitifrwydd&#8217; o wneud hynny.<\/p>\n<p>Gyda llaw, mae&#8217;n werth edrych n\u00f4l ar <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/blogs\/thereporters\/vaughanroderick\/2008\/02\/y_gwir_yn_erbyn_y_byd.html\">gofnod<\/a> Vaughan am y datganiad gwreiddiol lle roedd llywodraeth y Cynulliad yn datgan faint o arian fyddai ar gael ar gyfer datblygu gwasanaeth newyddion dyddiol yn Gymraeg. Mae&#8217;n bosib gweld lle ddechreuodd trafferthion Golwg yn y lle cynta. Mae&#8217;n cynnwys sylwadau perthnasol fel &#8220;Ydy&#8217;r \u00a3600,000 yn seiliedig ar unrhyw gynllun busnes?&#8221; (nac oedd yn amlwg) a &#8220;Pwy arall tybed? Mae Golwg yn gwadu&#8221;. Ie wir?<\/p>\n<p>Tra roedd y cyfryngau yn anwybyddu&#8217;r mater, fe wnaeth gwefan <a href=\"http:\/\/cachu360.rhwyd.org\/\">cachu360<\/a> ymchwilio i ddatblygiad y wefan a dod o hyd i&#8217;r cysylltiad gyda cwmni datblygu gwefannau o India. Gyda chaniatad, fe wnes i wneud copi statig o&#8217;r wefan am fod y wefan ei hun am gau lawr.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, roeddwn i wedi mynd ati i greu <a href=\"http:\/\/golwg.rhwyd.org\/\">porthiant RSS<\/a> a chyfrif <a href=\"http:\/\/twitter.com\/golwgarall\">Twitter<\/a> ar gyfer lledu&#8217;r erthyglau o Golwg 360 a mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn.<\/p>\n<p>Ar ddiwrnod y &#8216;lansiad&#8217; y wefan yn y Senedd (3 Mehefin 2009), fe gafwyd adroddiad gan Aled Scourfield ar newyddion <strong>S4C<\/strong> yn s\u00f4n fod y gwaith wedi ei wneud gan &#8216;gwmni arall&#8217; heb ddatgelu unrhyw fanylion. Er hyn, roedd yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad wedi defnyddio canfyddiadau cachu360 a chyfraniadau eraill o&#8217;r we. Fe godwyd nifer o gwestiynau hefyd gan Alun Cairns ar y diwrnod yma sydd wedi ei nodi yn y <a href=\"http:\/\/news.bbc.co.uk\/welsh\/hi\/newsid_8080000\/newsid_8081700\/8081721.stm\">stori<\/a> yma.<\/p>\n<p>Gyda&#8217;r cwestiynau wedi eu codi yn y Senedd, fe wnaeth <strong>Alun Ffred<\/strong> <a href=\"http:\/\/news.bbc.co.uk\/welsh\/hi\/newsid_8090000\/newsid_8092100\/8092128.stm\">gyhoeddi ddoe<\/a> ei fod wedi gofyn i&#8217;r Cyngor Llyfrau am adroddiad ynglyn a&#8217;r problemau. Dwi&#8217;n gobeithio y fydd yr adroddiad yn ystyried mwy na dim ond y problemau technegol cychwynnol. Mae yna nifer o gwestiynau pwysicach i ofyn o ran sut aeth Golwg ati i ddatblygu&#8217;r wefan, sut dyfarnwyd y gwaith ac ati.<\/p>\n<p>A dyna ni wedi cyrraedd heddiw, lle mae <strong>Golwg Newydd Cyf<\/strong> wedi gwneud <a href=\"http:\/\/www.golwg360.com\/UI\/News\/ViewNewsDetails.aspx?ID=3062\">datganiad<\/a> sy&#8217;n codi cwestiynau pellach. Mae Golwg wedi pwysleisio nad oes unrhyw &#8216;arian cyhoeddus&#8217; wedi ei ddefnyddio i greu y wefan, sydd yn swnio fel &#8216;bargen&#8217; i bobl lleyg efallai. Ond mae&#8217;n gysyniad gwbl na\u00eff i unrhyw un sydd wedi datblygu gwefannau ac efallai mai dyma&#8217;r rheswm pam fod datblygiad wedi y wefan wedi cael gymaint o drafferthion. <\/p>\n<p>Does dim un cwmni (yng Nghymru neu India) yn gallu gwneud gwaith safonol &#8216;am ddim&#8217; a fe fyddai wedi bod yn gwell buddsoddiad o arian cyhoeddus i neilltuo cyllid penodol i adeiladu&#8217;r wefan yn broffesiynol. Wedi&#8217;r cyfan, conglfaen y cais am yr arian gan <strong>Golwg Newydd<\/strong> oedd creu gwefan gyda newyddion dyddiol a felly roedd angen cyllido ar gyfer datblygu gwefan gyda cynsail technegol gadarn ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>Yn amlwg, fe gafodd <strong>Tinopolis<\/strong> y bai am y wefan er mai&#8217;n amlwg erbyn hyn nad nhw wnaeth y gwaith datblygu. Dyna&#8217;r siawns mae unrhyw gwmni yn gymryd wrth is-gontractio gwaith ac os oedd Golwg\/Tinopolis wedi bod yn onest o&#8217;r dechrau ynglyn a hyn, mae&#8217;n bosib fe fyddai llai o embaras a pwyntio bysedd wedi digwydd. Er hyn fe wnaeth Tinopolis gymeryd y cyfrifoldeb o lunio manyleb technegol (specification) a nhw hefyd ddylai fod wedi bod yn cadw golwg ar y gwaith datblygu o&#8217;r dechrau i&#8217;r diwedd i wneud yn siwr fod yr is-gontractwr yn gwneud y gwaith yn iawn. Os oedd y wefan wedi ei ddatblygu yn dda &#8211; mae&#8217;n sicr mai Tinopolis fyddai wedi cymeryd y clod er mai is-gontractwr oedd wedi gwneud y gwaith. Mae&#8217;n anodd teimlo rhy&#8217;n flin dros Tinopolis felly.<\/p>\n<p>Fe ddaeth hi hefyd yn amlwg fod cwmni arall &#8211; <strong>TV Everywhere<\/strong> &#8211; wedi cymryd y cyfrifoldeb o &#8216;reoli&#8217; y gwaith o adeiladu&#8217;r wefan a wedi is-gontractio y gwaith datblygu i gwmni Indinfotech o India. Mae&#8217;n anodd credu nad oedd Golwg a Tinopolis yn ymwybodol o hyn. Os nad oedden nhw&#8217;n gwybod neu&#8217;n poeni am bwy oedd yn gwneud y gwaith datblygu, mae&#8217;n dangos tipyn o na\u00effrwydd ar eu rhan nhw.<\/p>\n<p>Roedd cwmni TV Everywhere yn cael eu redeg gan Iolo Jones, er fod y cwmni mewn trafferthion am nad yw wedi cofnodi cyfrifon gyda T\u0177&#8217;r Cwmniau. Erbyn hyn mae Mr Jones wedi gadael ei swydd fel cadeirydd cwmni Telesg\u00f4p, un arall o&#8217;r &#8216;partneriaid&#8217; yng ngwasanaeth Golwg 360.<\/p>\n<p>Un peth sy&#8217;n amlwg i mi o&#8217;r ffars yma yw nad yw rhedeg busnes ar sail rhyw cynghrair llac o &#8216;bartneriaid&#8217; yn gweithio&#8217;n dda iawn. Gwnewch fusnes ar sail cytundebau cadarn rhwng cwmn\u00efau, a mae digon o sg\u00f4p i drafod &#8216;noddiant&#8217; neu dermau ffafriol er mwyn arbed arian h.y. gwneud y gwaith ar sail costau a nid elw.<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n edrych ymlaen i weld beth fydd ymateb y Gweinidog Diwylliant yn y pendraw a hefyd rhaglen <strong>Y Byd Ar Bedwar<\/strong> sydd yn debyg o roi sylw i&#8217;r mater cyn bo hir.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwi ddim wedi gwneud unrhyw sylw am wasanaeth Golwg 360 ers tipyn am mod i&#8217;n disgwyl i weld sut y fyddai&#8217;r gwasanaeth yn datblygu, ond mae&#8217;n werth edrych n\u00f4l ar beth sydd wedi digwydd ers y &#8216;lansiad&#8217; (yr un cynta &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/06\/10\/golwg-nol\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5,21],"tags":[],"class_list":["post-343","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-technoleg","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/343","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=343"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/343\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":353,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/343\/revisions\/353"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=343"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=343"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=343"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}