{"id":321,"date":"2009-05-15T22:45:13","date_gmt":"2009-05-15T21:45:13","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=321"},"modified":"2009-05-25T19:14:35","modified_gmt":"2009-05-25T18:14:35","slug":"golwg-newydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/05\/15\/golwg-newydd\/","title":{"rendered":"Golwg Newydd"},"content":{"rendered":"<p>Pan o&#8217;n i yn fy arddegau cynnar roeddwn i&#8217;n darllen cylchgrawn Golwg yn frwd, ond roeddwn i bob amser yn siomedig gyda ansawdd y dylunio. Roeddwn i&#8217;n cyhoeddi rhyw gylchronnau ffug, tanddaearol fy hunan gan ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi pen-desg (DTP) ar fy Acorn Risc PC.<\/p>\n<p>Roeddwn i&#8217;n siwr y gallwn i wneud yn well na&#8217;r bobl oedd yn gweithio yn Golwg ar y pryd a felly es i ati i ail-ddylunio dau dudalen o Golwg a&#8217;i ddanfon iddyn nhw. Wnes i ddim clywed n\u00f4l.<\/p>\n<p>Fe wnaeth dyluniad Golwg wella (ychydig) dros y blynyddoedd a wnes i sylweddoli mai hoffi&#8217;r dechnoleg ar gyfer dylunio cyfrifiadurol oeddwn i yn bennaf a dyna pam dwi wedi cydweithio gyda dylunwyr print\/gwe ers dros ddegawd yn hytrach na esgus fod gen i ryw dalent artistig fy hunan.<\/p>\n<p>Nawr fod gwefan Golwg 360 wedi lansio dwi unwaith eto yn teimlo&#8217;r siom yna o weld dylunio amaturaidd gan y cwmni o Lambed (er mai Tinopolis sy&#8217;n gyfrifol am y wefan). Dwi wedi twrio i god y wefan a mae&#8217;n eitha amlwg nad oes yna llawer o feddwl wedi mynd mewn i&#8217;r dylunio. Mae yna ddefnydd helaeth o dablau HTML a cymysgedd o CSS mewnlein ac allanol a dewis rhyfedd o steil a maint ffontiau. Does dim dychymyg o ran lliwiau a mae golwg reit salw ar y peth &#8211; nid beth sydd angen ar wefan lle mae rhaid cyflwyno llawer o wybodaeth mewn dull cryno ac effeithiol.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"\/storfa\/2009\/05\/logo-golwg360.jpg\" alt=\"Golwg 360\" \/><\/p>\n<p>Fe es i ati unwaith eto felly i addasu&#8217;r cynllun &#8211; newidiadau bach iawn dwi wedi gwneud fel newid arddull y ffontiau a twtio&#8217;r bylchau. Gan fod y dyluniad yn benthyg rhai syniadau o&#8217;r Guardian, pam ddim mynd amdani yn llwyr a benthyg y lliwiau ar gyfer y prif adrannau? Mi wnes i hefyd ddewis lluniau newydd o ansawdd gwell. Mae&#8217;n anodd iawn gwneud llawer a&#8217;r wefan fel mae hi oherwydd fod y cod HTML\/CSS mor wael. I fi, mae&#8217;n edrych yn llawer mwy &#8216;darllenadwy&#8217; fel hyn.<\/p>\n<p>Felly, mae gen i ddau sgr\u00een-lun &#8216;cyn&#8217; ac &#8216;ar \u00f4l&#8217;. I weld rhain yn iawn gwnewch yn siwr eu bod nhw ar eu maint llawn &#8211; 100%. Dyma&#8217;r <a href=\"\/storfa\/2009\/05\/golwg360-gwreiddiol.png\">dyluniad gwreiddiol<\/a> a dyma&#8217;r <a href=\"\/storfa\/2009\/05\/golwg360-addaswyd.png\">dyluniad newydd<\/a>.<\/p>\n<p>Beth yw eich barn chi?<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pan o&#8217;n i yn fy arddegau cynnar roeddwn i&#8217;n darllen cylchgrawn Golwg yn frwd, ond roeddwn i bob amser yn siomedig gyda ansawdd y dylunio. Roeddwn i&#8217;n cyhoeddi rhyw gylchronnau ffug, tanddaearol fy hunan gan ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi pen-desg (DTP) &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/05\/15\/golwg-newydd\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[25,21],"tags":[],"class_list":["post-321","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymraeg","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/321","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=321"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/321\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":340,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/321\/revisions\/340"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=321"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=321"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=321"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}