{"id":316,"date":"2009-04-22T17:25:11","date_gmt":"2009-04-22T16:25:11","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=316"},"modified":"2009-05-25T19:14:25","modified_gmt":"2009-05-25T18:14:25","slug":"be-nesa-rhan-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/04\/22\/be-nesa-rhan-2\/","title":{"rendered":"Be nesa? Rhan 2"},"content":{"rendered":"<p>Mi wnes i s\u00f4n yn <a href=\"\/blog\/2009\/04\/02\/be-nesa-rhan-1\/\">rhan 1<\/a> mod i wedi archebu cysylltiad band llydan newydd gyda Be. Felly dyma ail ran yr antur.<\/p>\n<p>Mae cwmni Be yn darparu caledwedd eu hunain sy&#8217;n cael ei fenthyg i&#8217;r cwsmer (mae&#8217;n rhaid ei ddanfon yn \u00f4l os ydych chi&#8217;n canslo&#8217;r gwasanaeth). Ychydig yn od efallai, ond roedd y cwmni yn un o&#8217;r rhai cynta i ddarparu gwasanaeth ADSL2+ ac ar y pryd doedd dim llawer o galedwedd ar gael oedd yn cefnogi&#8217;r safon yna. Erbyn hyn mae yna ddigon, felly does dim angen defnyddio caledwedd y Be mewn gwirionedd.<\/p>\n<p>Mewn llai na wythnos ar \u00f4l archebu mi ges i becyn yn y post yn cynnwys yr holl offer oedd angen:<\/p>\n<p><a href=\"\/storfa\/2009\/04\/bebox1m.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"\/storfa\/2009\/04\/bebox1b.jpg\" alt=\"Offer Be\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r pecyn yn cynnwys modem\/llwybrydd Be Box, dau hidlydd ADSL, gwifren i gysylltu&#8217;r bocs a&#8217;r ff\u00f4n, gwifren ethernet i gysylltu a chyfrifiadur a CD yn cynnwys meddalwedd.<\/p>\n<p>Fel ddwedes i does dim angen defnyddio y caledwedd yma ond mae&#8217;n gwerth cael pethau i&#8217;w weithio gyda&#8217;r offer yma gynta am mai dyma mae Be yn gefnogi&#8217;n &#8216;swyddogol&#8217;. Mae&#8217;n bosib cysylltu&#8217;ch cyfrifiadur i&#8217;r &#8216;Box&#8217; drwy wifren Ethernet neu yn ddi-wifr.<\/p>\n<p>I esbonio&#8217;r cefndir &#8211; mae dau llinell ff\u00f4n yn y t\u0177 (ar ddau rif ff\u00f4n gwahanol) ers dyddiau y perchennog gwreiddiol oedd yn rhedeg busnes o&#8217;r t\u0177. Cyn 2002 roeddwn i&#8217;n ddefnyddio yr ail linell ar gyfer cysylltiad deialu-fyny fel mod i&#8217;n gallu cysylltu am oriau maith heb amharu ar y prif linell. Wedyn fe newidiwyd y lein yna i ADSL.<\/p>\n<p>Dwi wedi gosod y bocs eu hunan nesa at y brif llinell ff\u00f4n, felly er mwyn hwylustod, wnes i ddefnyddio y cysylltiad di-wifr ar gyfrifiadur fyny llofft.<\/p>\n<p><a href=\"\/storfa\/2009\/04\/bebox2m.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"\/storfa\/2009\/04\/bebox2b.jpg\" alt=\"Offer Be\" \/><\/a><\/p>\n<p>I ddechrau roedd angen cysylltu a&#8217;r bocs er mwyn gosod y manylion cysylltu. Er mwyn gwneud hynny roedd rhaid newid cyfeiriad IP y cyfrifiadur er mwyn bod yn yr un rhwydwaith a&#8217;r bocs. Mae gen i gysylltiad band llydan yn barod ar linell ff\u00f4n arall, wedi ei gysylltu drwy rwydwaith Ethernet, felly roedd hynny yn cymlethu pethe.<\/p>\n<p>Yn y diwedd wnes i benderfynu cadw&#8217;r cysylltiad Ethernet fel yr oedd e a chysylltu yn uniongyrchol i focs Be yn ddi-wifr. Roedd hi&#8217;n bosib gallu gweld y ddau gysylltiad o&#8217;r un cyfrifiadur ond dim ond un sy&#8217;n cael blaenoriaeth (ar y cyfrifiadur penodol yma yn rhedeg Windows XP mae&#8217;n weddol hawdd i newid y blaenoriaeth).<\/p>\n<p>Y peth nesa felly oedd rhoi fy manylion i fewn i&#8217;r bocs oedd yn broses weddol syml ac yna cysylltu! A dyna lle ddechreuodd y problemau.<\/p>\n<p>I ddechrau fe ges i gysylltiad o tua 1Mb\/4Mb. O ran cyflymder &#8216;fyny&#8217; mae hynny&#8217;n wych ond dyw&#8217;r cyflymder lawr ddim llawer gwell na&#8217;r cysylltiad presennol o tua 5Mb. Yn yr oriau nesa fe wnaeth y cysylltiad i Be dorri llawer gwaith ac ar adegau roeddwn i&#8217;n un cael cyflymder o llai na 0.5Mb y ddau ffordd. Beth oedd o&#8217;i le? Cofiwch mai dyma&#8217;r tro cynta i&#8217;r linell ff\u00f4n yma gael ei ddefnyddio ar gyfer cysylltiad ADSL.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l archwilio y prif soced ff\u00f4n, wnes i sylwi fod y &#8216;faceplate&#8217; ddim cweit yn gafael yn sownd yn y brif soced. Fe wnes i dynnu&#8217;r peth i ffwrdd a tynhau&#8217;r sgriws i gyd a fe aeth popeth n\u00f4l i&#8217;w le yn dwt. Ar \u00f4l hynny fe ges i gysylltiad o tua 7Mb. Eitha da ond ddim cweit y 10Mb yr oedd Be wedi amcangyfrif.<\/p>\n<p>Ers hynny mae&#8217;r cysylltiad wedi parhau i fod yn ansefydlog a dyw e byth yn cadw 7Mb &#8211; mae&#8217;n disgyn lawr i 1Mb neu lai yn aml. Felly y cam nesaf oedd cysylltu a Be i weld os oes unrhyw broblem ar y lein. Mae nhw wrthi yn profi&#8217;r cysylltiad nawr ac yn y rhan nesa dwi&#8217;n gobeithio rhannu&#8217;r canlyniadau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mi wnes i s\u00f4n yn rhan 1 mod i wedi archebu cysylltiad band llydan newydd gyda Be. Felly dyma ail ran yr antur. Mae cwmni Be yn darparu caledwedd eu hunain sy&#8217;n cael ei fenthyg i&#8217;r cwsmer (mae&#8217;n rhaid ei &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/04\/22\/be-nesa-rhan-2\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[],"class_list":["post-316","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-technoleg"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/316","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=316"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/316\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":339,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/316\/revisions\/339"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=316"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=316"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=316"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}