{"id":307,"date":"2009-04-02T17:21:42","date_gmt":"2009-04-02T16:21:42","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=307"},"modified":"2009-05-25T19:13:34","modified_gmt":"2009-05-25T18:13:34","slug":"be-nesa-rhan-1","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/04\/02\/be-nesa-rhan-1\/","title":{"rendered":"Be nesa? Rhan 1"},"content":{"rendered":"<p>Dwi wedi bod yn defnyddio cysylltiad ADSL gartre ers Ionawr 2002 a mae tipyn o newidiadau wedi digwydd ers hynny o ran y dechnoleg. Wnes i ddechrau gyda cysylltiad hynod o gyflym o 512Kb\/s gan gwmni <a href=\"http:\/\/www.eclipse.net.uk\/\">Eclipse<\/a> cyn uwchraddio i 1Mb\/s yn Hydref 2003 pan wellodd y dechnoleg. Y flwyddyn wedyn roedd gwasanaeth 2Mb ar gael ac yn 2006 roedd datblygiad pellach lle roedd hi&#8217;n bosib cael &#8216;fyny at 8Mb&#8217;, ond dim ond tua 5Mb dwi&#8217;n gael.<\/p>\n<p>Beth sydd wedi digwydd ers 2006 &#8216;te? Un datblygiad yw LLU (Local Loop Unbundling). Mae&#8217;r polisi yma yn golygu fod BT yn gorfod agor eu cyfnewidfeydd fel y gall cwmn\u00efau arall osod eu offer nhw ynddo. Oherwydd y gost o wneud hynny, ychydig iawn o gwmn\u00efau sydd yn gallu gwneud hyn a mae nhw&#8217;n dueddol o ddewis mannau poblog. Mae 7 cwmni heblaw BT wedi gosod offer yn fy nghyfnewidfa lleol yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>Dyw Eclipse fel darparwr ddim yn ddigon mawr i osod offer LLU ond mae nhw yn defnyddio cwmniau arall er mwyn arbed arian &#8211; Tiscali mae&#8217;n debyg. Felly dwi&#8217;n defnyddio&#8217;r dechnoleg yn anuniongyrchol. Oherwydd hyn mi fyddai&#8217;n bosib i mi uwchraddio y cyflymder ymhellach i dechnoleg ADSL2+ sy&#8217;n cynnig &#8216;fyny at 24Mb&#8217;.<\/p>\n<p>Gan fod y dewis o ddarparwyr wedi ehangu gymaint wnes i ail-ystyried eleni be oeddwn i am wneud. Dyma&#8217;r dewis:<\/p>\n<ul>\n<li>Aros gyda Eclipse a uwchraddio i 24Mb<\/li>\n<li>Newid i ddarparwr ADSL arall sy&#8217;n cynnig &#8216;fyny at 24Mb&#8217;<\/li>\n<li>Newid i Virgin Media sy&#8217;n cynnig &#8216;fyny at 20Mb&#8217; gyda addewid o &#8216;fyny at 50Mb&#8217; cyn bo hir<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae Eclipse wedi bod yn ddarparwr reit dda, ond mae nhw wedi gwaethygu dros y blynyddoedd o ran gwasanaeth a chyfyngiadau ar y cysylltiad. Mae&#8217;r cynnig gan Virgin yn atyniadol ond does dim llinell cebl yn y t\u0177 yn barod, felly fe fyddai angen gosod llinell newydd. Dyw Virgin ddim yn cynnig cyfeiriad IP &#8216;statig&#8217; chwaith sy&#8217;n bwysig i fy nghwaith er mwyn gallu gwneud cysylltiadau trwy waliau t\u00e2n er enghraifft.<\/p>\n<p>Felly wnes i benderfynu newid darparwr ADSL a wnes i fynd am gwmni <a href=\"http:\/\/www.bethere.co.uk\/\">Be<\/a> sy&#8217;n ddarparwr LLU (yn rhan o O2) a mae ganddo enw reit dda ymysg g\u00eecs. Un peth diddorol iawn mae nhw&#8217;n cynnig yw &#8216;upload plus&#8217; sef ffordd o gael cyflymder uwch wrth lwytho fyny drwy &#8216;ddwyn&#8217; ychydig o&#8217;r signal ar gyfer llwytho lawr. Mi fyddai hyn yn ddefnyddiol iawn i mi yn enwedig ar gyfer gweithio o gartre a danfon ffeiliau mawr lan y lein.<\/p>\n<p>Dwi wedi cymryd y cam cyntaf sef gosod yr archeb gyda Be, a felly mi fyddai&#8217;n blogio ymhellach wrth i bethau ddatblygu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwi wedi bod yn defnyddio cysylltiad ADSL gartre ers Ionawr 2002 a mae tipyn o newidiadau wedi digwydd ers hynny o ran y dechnoleg. Wnes i ddechrau gyda cysylltiad hynod o gyflym o 512Kb\/s gan gwmni Eclipse cyn uwchraddio i &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2009\/04\/02\/be-nesa-rhan-1\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5],"tags":[],"class_list":["post-307","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-technoleg"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/307","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=307"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/307\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":336,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/307\/revisions\/336"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=307"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=307"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=307"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}