{"id":218,"date":"2008-03-18T18:17:14","date_gmt":"2008-03-18T17:17:14","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/18\/rhwydwaith-treftadaeth\/"},"modified":"2008-03-18T18:24:09","modified_gmt":"2008-03-18T17:24:09","slug":"rhwydwaith-treftadaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/18\/rhwydwaith-treftadaeth\/","title":{"rendered":"Rhwydwaith treftadaeth"},"content":{"rendered":"<p>Dros y flwyddyn diwetha&#8217; rwy&#8217; wedi bod yn gweithio ar brosiect sy&#8217;n darparu mannau gwybodaeth rhyngweithiol ar draws hen ardaloedd diwydiannol De Cymru. A heddiw roeddwn i yn y lansiad swyddogol o brosiect <a href=\"http:\/\/www.herian.org\/home.html?languageID=Cym\">Herian<\/a> ym <strong>Mharc Treftadaeth y Rhondda<\/strong>. Mae&#8217;r ciosgs yn darparu gwybodaeth am hanes y lleoliad, yn dangos beth arall sydd i&#8217;w wneud yn yr ardal a llefydd i aros.<\/p>\n<p>R\u00f4l fach oedd gen i yn yr holl beth &#8211; rwy wedi bod yn helpu gosod pob ciosg yn y gwahanol leoliadau a&#8217;u cysylltu i&#8217;r we. Gan mai y cynghorau lleol sy&#8217;n darparu&#8217;r cysylltiad rhyngrwyd fel arfer, mae hynny wedi bod yn dipyn o sialens a dweud y lleia. O ran technoleg, mae&#8217;r ciosg wedi ei wneud o ddur gloyw a gwydr a mae cyfrifiadur bach twt wedi ei guddio tu fewn iddo. Mae&#8217;r cyfrifiadur yn rhedeg dim byd mwy clyfar na Windows XP a porwr arbennigol sy&#8217;n atal pobl (wel, plant) rhag ffidlan gyda&#8217;r peth. O leia dyna&#8217;r theori.<\/p>\n<p>Roedd y teulu Griffiths o gyfres teledu&#8217;r <strong>Coal House<\/strong> yno yn eu dillad o&#8217;r cyfnod oedd yn helpu&#8217;r awyrgylch. Wnaethon nhw grybwyll y ffaith fod <a href=\"http:\/\/news.bbc.co.uk\/1\/hi\/wales\/7301187.stm\">cyfres newydd<\/a> o&#8217;r Coal House ar y gweill. Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Rhodri Glyn, araith fer gan gyfaddef nad oedd wedi gweld y Coal House a pl\u00ees allai&#8217;r BBC ddanfon &#8220;CDs&#8221; ato. Dechrau da.<\/p>\n<p>Heblaw am y lansiad, y peth pwysig oedd y &#8216;cyfleon lluniau&#8217; i bob un o&#8217;r partneriaid sy&#8217; wedi cyfrannu i&#8217;r prosiect. Roedd y teulu yn amyneddgar iawn wrth dynnu lluniau am hanner awr ond mae nhw&#8217;n edrych fel petai nhw&#8217;n mwynhau y sylw. Wrth sefyll gyda nhw yn y &#8216;bwffe&#8217; nes ymlaen mae&#8217;n amlwg nad ydyn nhw wedi blino am siarad am eu profiad 5 mis yn ddiweddarach!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y flwyddyn diwetha&#8217; rwy&#8217; wedi bod yn gweithio ar brosiect sy&#8217;n darparu mannau gwybodaeth rhyngweithiol ar draws hen ardaloedd diwydiannol De Cymru. A heddiw roeddwn i yn y lansiad swyddogol o brosiect Herian ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae&#8217;r &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/18\/rhwydwaith-treftadaeth\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[28,35],"tags":[],"class_list":["post-218","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwaith","category-hanes"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/218","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=218"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/218\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=218"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=218"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=218"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}