{"id":212,"date":"2008-03-07T17:09:31","date_gmt":"2008-03-07T16:09:31","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/07\/s4c-ac-aitsh-di\/"},"modified":"2008-03-07T17:09:31","modified_gmt":"2008-03-07T16:09:31","slug":"s4c-ac-aitsh-di","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/07\/s4c-ac-aitsh-di\/","title":{"rendered":"S4C ac aitsh di"},"content":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r defnydd o ffurf HD (manylder uwch yw&#8217;r term safonol sydd gan S4C) wrth ffilmio rhaglenni yn dod yn fwy cyffredin er fod y costau yn uwch. Mae rhai pobl yn dilorni&#8217;r dechnoleg (fel arfer y bobl hynny sydd ddim yn gallu fforddio teledu HD) gan ddweud nad yw&#8217;r llun yn well na DVD cyffredin.<\/p>\n<p>Fe brynais i deledu HD 37&#8243; yr haf diwethaf a doedd dim rhaid gwario ffortiwn, ond does gen i ddim ffynhonnell o raglenni HD heblaw o&#8217;r cyfrifiadur. Felly dwi wedi bod yn islwytho rhaglenni HD o&#8217;r rhyngrwyd a mae&#8217;n hawdd gweld ansawdd uchel y llun. Prynu chwaraewr Blu-ray fydd y cam nesa nawr fod y fformat hwnnw wedi ennill y frwydr.<\/p>\n<p>Sylwais i fod y gyfres newydd Natur Cymru ar S4C wedi ei ffilmio mewn HD. Ar hyn o bryd does gan S4C ddim modd i ddarlledu rhaglenni HD yn eu gogoniant llawn, felly wnes i ddanfon ebost at wifren gwylwyr y sianel:<\/p>\n<blockquote><p>Mae&#8217;r gyfres newydd yma yn edrych yn wych, o ran cynnwys a diwyg. Mae llawer o ffys wedi wneud am y ffaith fod y gyfres wedi ei recordio mewn HD.<\/p>\n<p>Ond ni fydd hi&#8217;n bosib i unrhyw yn weld y cynnwys ar ei ansawdd uchaf ar sianeli S4C, nawr neu yn y dyfodol agos &#8211; os byth.<\/p>\n<p>A oes unrhyw gynlluniau i wneud peth o&#8217;r deunydd ar gael drwy ddulliau amgen e.e. ar y we, yn yr un modd a wnaeth y BBC gyda <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/nature\/animals\/planetearth\/hd\/\">Planet Earth<\/a>.<\/p><\/blockquote>\n<p>Dyma&#8217;r ymateb ges i:<\/p>\n<blockquote><p>Mae&#8217;r gyfres Natur Cymru wedi ei saethu ar ffurf HD, er, ni fydd hi&#8217;n bosib i wylio&#8217;r fersiwn HD ar hyn o bryd.<\/p><\/blockquote>\n<p>Ie, dyna pam o&#8217;n i&#8217;n gofyn y cwestiwn.<\/p>\n<blockquote><p>Ymhen rhai blynyddoedd &#8211; 2012 yw&#8217;r flwyddyn dan sylw, bwriedir medru darlledu rhai rhaglenni S4C mewn HD<\/p><\/blockquote>\n<p>O reit. Does dim rheswm technegol pam na allai sianel S4C HD fodoli ar system <a href=\"http:\/\/www.freesat.co.uk\/\">Freesat<\/a> pan fydd yn lansio nes ymlaen eleni (mi fydd y gost i&#8217;r sianel yr un fath nawr ac yn 2012).<\/p>\n<blockquote><p>Fe fydd modd gwylio&#8217;r gyfres hon ar-lein &#8211; s4c.co.uk\/gwylioyma &#8211; ac mae gwefan gynhwysfawr, s4c.co.uk\/naturcymru i gyd-fynd \u00e2 hi<\/p><\/blockquote>\n<p>Ie, dwi&#8217;n gwybod. Mae&#8217;n wefan da iawn hefyd, ond clipiau ansawdd isel sydd yno, yn wahanol i wefan Planet Earth fel wnes i s\u00f4n amdano.<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n meddwl mai&#8217;r unig obaith o weld y rhaglen HD y ddegawd hon yw os fydd S4C yn llwyddo gwerthu&#8217;r gyfres i sianel ryngwladol fel Discovery HD neu rhywle tebyg.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r defnydd o ffurf HD (manylder uwch yw&#8217;r term safonol sydd gan S4C) wrth ffilmio rhaglenni yn dod yn fwy cyffredin er fod y costau yn uwch. Mae rhai pobl yn dilorni&#8217;r dechnoleg (fel arfer y bobl hynny sydd ddim &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/07\/s4c-ac-aitsh-di\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5,15],"tags":[],"class_list":["post-212","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-technoleg","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/212","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=212"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/212\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=212"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=212"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=212"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}