{"id":211,"date":"2008-03-07T00:47:14","date_gmt":"2008-03-06T23:47:14","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/07\/cysylltiadau-cyflym\/"},"modified":"2008-03-07T00:50:14","modified_gmt":"2008-03-06T23:50:14","slug":"cysylltiadau-cyflym","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/07\/cysylltiadau-cyflym\/","title":{"rendered":"Cysylltiadau cyflym?"},"content":{"rendered":"<p>Darllenais i <a href=\"http:\/\/icwales.icnetwork.co.uk\/news\/wales-news\/2008\/03\/06\/cheaper-and-100-times-faster-broadband-in-the-pipeline-91466-20565194\/\">stori<\/a> yn y Western Mail heddiw (a nifer o bapurau eraill) am ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn datblygu dyfais sydd &#8216;100 gwaith cyflymach na band llydan&#8217;. Mae&#8217;n amlwg fod yr erthygl wedi dod yn syth allan o ddatganiad gwasg, fyddai wedi ei sgrifennu gan rhywun yn yr adran farchnata, am fod yr erthyglau ymhob papur reit debyg. Ychydig iawn o newyddiadurwyr sy&#8217;n trafferthu deall yr hyn mae nhw&#8217;n sgrifennu amdano, fel sy&#8217;n amlwg wrth ddarllen papurau y dyddiau yma neu gwefan newyddion y BBC er enghraifft.<\/p>\n<p>Ychydig iawn o fanylion technegol pendant sydd yn yr erthygl. Fel ddwedodd Scotty, <em>&#8220;ye cannae change the laws of physics&#8221;<\/em>, felly sut mae&#8217;r ddyfais anhygoel yma&#8217;n gweithio? Ar \u00f4l ychydig o gwglo fe ddes i ar draws disgrifiad byr ar wefan y <a href=\"http:\/\/royalsociety.org\/news.asp?id=7464\">Royal Society<\/a>, a mae&#8217;r gwirionedd yn dechrau dod i&#8217;r amlwg.<\/p>\n<p><em>&#8220;project will look to demonstrate&#8221;<\/em> &#8211; dyw&#8217;r ddyfais ddim yn bodoli eto. <em>&#8220;low cost, advanced optical modems&#8221;<\/em> &#8211; mae&#8217;r dechnoleg yma ar gael yn barod, ond ar gyfer cysylltiadau o fewn rhwydweithiau sy&#8217;n rhedeg yn llwyr ar dechnoleg ffibr-optig; o fewn cwmn\u00efau cyfathrebu mawr neu ganolfannau data. Mae&#8217;n bosib cael rhwydweithiau ffibr optig o un pen y wlad i&#8217;r llall &#8211; mae gan y cwmni (llawer mwy cyfoethog) sydd drws nesa i ni gysylltiad ffibr-optig 100Mb rhwng eu swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain.<\/p>\n<p>Mae defnyddio&#8217;r dechnoleg yn y cartref yn swnio&#8217;n ardderchog, ond nad yw hyn yn rhoi&#8217;r cart o flaen y ceffyl? Mae pob cartref yn y wlad wedi eu cysylltu i&#8217;r gyfnewidfa drwy wifren gopr, felly ychydig iawn o ddefnydd yw modem optig i&#8217;r cartref os nad oes yw&#8217;r wifren yn cael ei newid am un ffibr-optig hefyd.<\/p>\n<p>Mae nifer o wledydd yn datblygu gwasanaethau &#8220;ffibr i&#8217;r cartref&#8221; ar gyfer y rhai gyda pocedi dwfn iawn. Ym Mhrydain amcangyfrir y byddai hi&#8217;n costio o leia&#8217; \u00a315biliwn i newid rhwydwaith BT o gopr i ffibr. Yn y dinasoedd mawr, mi fydd y &#8216;farchnad&#8217; yn cyflymu&#8217;r datblygiad yma gyda nifer o gwmn\u00efau yn edrych ar ddatblygu rhwydweithiau o&#8217;r fath. Mae cwmni a ddechreuodd yng Nghymru &#8211; <a href=\"http:\/\/www.h2onetworksdarkfibre.com\/\">H<sub>2<\/sub>0<\/a> yn gwneud hyn ar gyfer busnesau ond sylwch nad yw&#8217;n gwneud synnwyr iddyn nhw weithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>O ran sefyllfa Cymru &#8211; ychydig iawn o gystadleuaeth sydd yma&#8217;n barod a felly BT yw&#8217;r unig gwmni mewn sefyllfa i ddarparu&#8217;r dechnoleg newydd. Fel gyda ADSL rhai blynyddoedd yn \u00f4l ni fydd y cwmni yn buddsoddi heb ryw sicrwydd o adennill y gost. Dwi&#8217;n credu fyddwn ni&#8217;n parhau i weld stor\u00efau ffantasiol yn y wasg am rhai blynyddoedd i ddod.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Darllenais i stori yn y Western Mail heddiw (a nifer o bapurau eraill) am ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn datblygu dyfais sydd &#8216;100 gwaith cyflymach na band llydan&#8217;. Mae&#8217;n amlwg fod yr erthygl wedi dod yn syth allan o ddatganiad &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2008\/03\/07\/cysylltiadau-cyflym\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[7,5],"tags":[],"class_list":["post-211","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","category-technoleg"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/211","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=211"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/211\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=211"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=211"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=211"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}