{"id":197,"date":"2007-10-29T17:37:42","date_gmt":"2007-10-29T16:37:42","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/10\/29\/dathlu-deg\/"},"modified":"2007-10-29T17:46:16","modified_gmt":"2007-10-29T16:46:16","slug":"dathlu-deg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/10\/29\/dathlu-deg\/","title":{"rendered":"Dathlu deg"},"content":{"rendered":"<p>Mae gwefan newyddion y BBC yn <a href=\"http:\/\/news.bbc.co.uk\/1\/hi\/in_depth\/629\/629\/7057140.stm\">ddeg mlwydd<\/a> oed. Yr wythnos dwetha wnes i hefyd dathlu deg mlynedd yn gweithio i un cwmni (a felly dwi wedi bod yn darllen gwefan y BBC bob amser cinio ers hynny).<\/p>\n<p><!--more--><\/p>\n<p>Roeddwn i wedi bod yn gweithio&#8217;n ffrilans am tua 18 mis cyn dechrau gweithio&#8217;n llawn amser, ar \u00f4l bod yn arbrofi gyda gwefannau ers diwedd 1994 tra&#8217;n osgoi gwneud gwaith coleg. Wnes i sylweddoli yn reit gyflym fod hi&#8217;n anodd cael digon o waith fel unigolyn (yn enwedig yn y cyfnod cynnar hynny), a nad oedd gen i&#8217;r sgiliau llawn oedd angen. Felly wnes i chwilio am gwmni lle allwn i ganolbwyntio ar raglennu a chyd-weithio gyda pobl mwy dawnus a chymwys i ddylunio, gwerthu a marchnata. Ychydig iawn o ddewis oedd ar y pryd, a wnes i lunio rhestr o&#8217;r 4 neu 5 asiantaethau mwya nodedig yng Nghaerdydd, yn cynnwys adran rhyngweithiol y Western Mail.<\/p>\n<p>Ddanfonais i lythyr at Imaginet yn gynta, oherwydd eu bod yn amlwg yn ffan o Linux a Perl a roeddwn i eisiau gweithio ar systemau &#8216;agored&#8217;. Ces i alwad ff\u00f4n y diwrnod wedyn, cyfweliad ar ddydd Iau, a wnes i ddechrau gweithio ar y dydd Llun. Yn eironig, y wefan gynta wnes i weithio arno gyda Imaginet oedd &#8216;Total Cardiff&#8217;, sef prosiect y Western Mail i roi cynnwys eu papurau newydd ar lein. Dyma sgr\u00een-lun o&#8217;r wefan ar y pryd:<\/p>\n<p><a href=\"\/storfa\/2007\/10\/totalcardiff-1997.png\"><img decoding=\"async\" src=\"\/storfa\/2007\/10\/totalcardiff-1997-b.jpg\" alt=\"Total Cardiff 1997\" \/><\/a><\/p>\n<p>Yn 1999 fe wnaeth Trinity gyfuno a gr\u0175p y Mirror, a fe lyncwyd Total Wales i anghenfil &#8216;rhwydwaith IC&#8217; yn fuan wedyn. Gwefannau &#8216;IC&#8217; oedd yr enghraifft orau o hen gyfrwng yn ceisio datblygu rhywbeth &#8216;cyfrwng newydd&#8217; ac yn methu&#8217;n llwyr &#8211; dim ond yn y misoedd dwetha y mae <a href=\"http:\/\/icwales.icnetwork.co.uk\/\">icwales<\/a>wedi ail-lansio gyda chynllun synhwyrol.<\/p>\n<p>Ond n\u00f4l at y gwaith &#8211; dwi wedi gwneud amrywiaeth o swyddi yn ystod y ddeg mlynedd. Ar rhai adegau dwi wedi bod yn gwneud 3 neu 4 swydd ar unwaith, sydd yn beth arferol mewn cwmni bach wrth gwrs. Wnes i ddechrau fel rhaglennwr Perl, yna datblygydd gwe (teitl mwy cyffredinol oedd yn cynnwys creu cronfeydd data, rhaglennu yn Perl, PHP a ASP). Am chwe mis ro&#8217;n i&#8217;n raglennwr teledu rhyngweithiol ac am gyfnod roeddwn i&#8217;n helpu gyda sgriptio Flash.<\/p>\n<p>Wnes i hyd yn oed ychydig o waith &#8216;gwerthu&#8217; fel cymorth i&#8217;r staff gwerthiant am nad oedden nhw&#8217;n deall y dechnoleg! Wedyn daeth cyfnod lle roeddwn i&#8217;n gofalu am gr\u0175p o raglennwyr a gweinyddu systemau a cynorthwyo y broses werthiant. Erbyn hyn dwi wedi setlo lawr i fod yn reolwr TGCh, sy&#8217;n golygu mod i&#8217;n goruwchwylio &#8216;pob un o&#8217;r uchod&#8217;, ond gadael y gwaith budr i rywun arall.<\/p>\n<p>Dwi ddim yn gwybod lle fydd y we mewn deg mlynedd arall, ond mae&#8217;n siwr y bydd y broses o gyfuno y gwahanol gyfryngau yn parhau. Fel llawer o bobl sydd wedi gweithio yn y byd TG cyn dianc, efallai erbyn hynny fydda&#8217;i wedi dod o hyd i yrfa ychydig mwy hamddenol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gwefan newyddion y BBC yn ddeg mlwydd oed. Yr wythnos dwetha wnes i hefyd dathlu deg mlynedd yn gweithio i un cwmni (a felly dwi wedi bod yn darllen gwefan y BBC bob amser cinio ers hynny).<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[27,28],"tags":[],"class_list":["post-197","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-bywyd","category-gwaith"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/197","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=197"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/197\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=197"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=197"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=197"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}