{"id":190,"date":"2007-09-12T20:46:57","date_gmt":"2007-09-12T19:46:57","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/09\/12\/archif-rhaglennir-bbc\/"},"modified":"2007-09-12T20:51:44","modified_gmt":"2007-09-12T19:51:44","slug":"archif-rhaglennir-bbc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/09\/12\/archif-rhaglennir-bbc\/","title":{"rendered":"Archif rhaglenni&#8217;r BBC"},"content":{"rendered":"<p>Dwi wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfnod prawf <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/archive\/\">Archif y BBC<\/a>, lle mae&#8217;n bosib gwylio rhaglenni o archif helaeth y BBC. Cyfyng iawn yw&#8217;r dewis sydd ar gael, nid yn unig oherwydd y gwaith o drosglwyddo&#8217;r rhaglenni i fformat ddigidol ond oherwydd y broblem o glirio hawliau. Mae fwy o bwyslais ar rhaglenni dogfen a newyddion oherwydd hynny ond mae esiamplau o bob math o raglenni teledu a radio o&#8217;r 1930au hyd heddiw.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhaglenni teledu yn ymddangos mewn sgw\u00e2r maint 320&#215;240 picsel (fel Youtube) felly er fod hi&#8217;n ffordd ddifyr o gael cipolwg ar hen rhaglenni, nid yw mor addas ar gyfer profiad gwylio &#8216;trymach&#8217; fel dramau. Nid dyna bwriad yr archif wrth gwrs ond mae&#8217;n debyg y bydd yr archif yn ddefnyddiol i fesur ac ymchwilio i pa bynciau sy&#8217;n boblogaidd &#8211; a efallai creu cyfle i ail-ddarlledu y rhaglenni ar sianeli teledu arferol.<\/p>\n<p>Ychydig iawn o ddeunydd Cymreig penodol sydd yno. Mae 6 rhaglen yng nghasgliad &#8216;Cymru&#8217; (allan o 780 rhaglen yn yr archif) yn cynnwys cyngerdd Max Boyce o&#8217;r 70au a rhaglen Joan Bakewell o&#8217;r 80au yn trafod mewnfudo i Gymru. Mi wnes i ofyn am gynnyrch yn Gymraeg a mae nhw wedi ychwanegu un rhaglen, sef rhaglen ddogfen gan Ifor ap Glyn yn edrych ar hanes cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Fel mae&#8217;n digwydd, mae gen i&#8217;r rhaglen hwn ar d\u00e2p fideo, mewn gwell cyflwr na&#8217;r fideo ar lein.<\/p>\n<p>Mi allwch chi helpu cael deunydd Cymraeg i&#8217;r archif drwy chwilio <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/\">catalog<\/a> enfawr y BBC a phleidleisio am raglenni. Beth am y rhaglenni addysg wnes i wylio yn yr 80au fel <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/series\/HWNT+AC+YMA\">Hwnt ac Yma<\/a> a <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/series\/HYN+O+FYD\">Hyn o Fyd<\/a>?<\/p>\n<p>Neu rhaglenni plant fel <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/series\/YR+AWR+FAWR\">Yr Awr Fawr<\/a> a <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/series\/BILIDOWCAR\">Bilidowcar<\/a>?<\/p>\n<p>Beth am bennod cynnar o <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/series\/POBOL+Y+CWM\">Bobol y Cwm<\/a> neu drama dditectif <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/series\/BOWEN+A%27I+BARTNER\">Bowen a&#8217;i Bartner<\/a>?<\/p>\n<p>Beth am Beti George ar <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/programme\/PCA7216K\">Heddiw<\/a> o 1976 neu cyfweliad o sioe siarad <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/series\/RHAGLEN+HYWEL+GWYNFRYN\">Hywel Gwynfryn<\/a>?<\/p>\n<p>Efallai rhywbeth o Radio Cymru fel sesiwn Datblygu o 1992 ar <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/programme\/8K+34010\">Heno Bydd Yr Adar yn Canu<\/a> neu rhaglen o <a href=\"http:\/\/catalogue.bbc.co.uk\/catalogue\/infax\/programme\/2C+11127\">Pesda Roc 1984<\/a>?<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n meddwl fod ni&#8217;n haeddu cael mwy na un rhaglen fach unig yn yr archif ac yn sicr yn rhywbeth cynharach na 1992 (os nad yw BBC Cymru wedi ailgylchu&#8217;r tapiau wrth gwrs).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwi wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfnod prawf Archif y BBC, lle mae&#8217;n bosib gwylio rhaglenni o archif helaeth y BBC. Cyfyng iawn yw&#8217;r dewis sydd ar gael, nid yn unig oherwydd y gwaith o drosglwyddo&#8217;r rhaglenni i fformat &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/09\/12\/archif-rhaglennir-bbc\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[15,21],"tags":[],"class_list":["post-190","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-teledu","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/190","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=190"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/190\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=190"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=190"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=190"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}