{"id":188,"date":"2007-09-17T19:05:27","date_gmt":"2007-09-17T18:05:27","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/09\/17\/sgriniaur-senedd\/"},"modified":"2007-09-17T19:05:43","modified_gmt":"2007-09-17T18:05:43","slug":"sgriniaur-senedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/09\/17\/sgriniaur-senedd\/","title":{"rendered":"Sgriniau&#8217;r Senedd"},"content":{"rendered":"<p>Es i am dro o gwmpas adeilad y <a href=\"http:\/\/www.cynulliadcymru.org\/sen-home.htm\">Senedd<\/a> ym Mae Caerdydd cwpl o wythnosau yn \u00f4l, lle tawel iawn ar y pryd, er fod tipyn o waith atgyweirio yn mynd ymlaen ar yr adeilad sydd ddim ond yn 18 mis oed. Mi fase chi&#8217;n meddwl hefyd bod modd glanhau staens coffi oddi ar y soffas lledr drud.<\/p>\n<p>Ond fel g\u00eec be o&#8217;n i eisiau drafod oedd y mannau gwybodaeth &#8216;rhyngweithiol&#8217; sydd o gwmpas yr adeilad. Mae&#8217;r sgriniau yn sefyll fel monolithiau gwyn ar ochr y Neuadd a&#8217;r Oriel (mae o leia 8 ac efallai mwy). Dwi wedi gweithio ar fannau gwybodaeth (neu ciosg) o&#8217;r math yma yn ystod y flwyddyn ddiwetha, felly mae gen i rhyw ddealltwriaeth o beth sy&#8217;n bosib ei wneud gyda&#8217;r dechnoleg. Mae&#8217;r rhan fwyaf o giosgs yn gweithio drwy gyffwrdd y sgr\u00een, i arbed cael llygoden, ac yn aml mae bysellfwrdd syml. Sgr\u00een yn unig (wel dau i ddweud y gwir) sydd yn rhai&#8217;r Cynulliad.<\/p>\n<p>I ddechrau does dim byd arnyn nhw i ddweud fod hi&#8217;n bosib eu defnyddio i gael gwybodaeth a fod rhaid cyffwrdd y sgr\u00een i wneud hynny. Fe bwyses i sgr\u00een cwpl ohonyn nhw a wnaeth ddim byd ddigwydd, felly o&#8217;n i&#8217;n meddwl i ddechrau nad oedden nhw&#8217;n sgr\u00eeniau cyffwrdd. Dwi&#8217;n amau fod y ddau beiriant yna wedi &#8216;rhewi&#8217;, er mai peth syml mewn ciosg da yw gwneud yn siwr fod peiriant yn ail-ddechrau os yw&#8217;r system yn cloi lan.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l dod o hyd i beiriant oedd yn gweithio, roedd tudalen ar y sgr\u00een yn barod. Hynny yw, er fod neb o gwmpas a fod y sgr\u00een wedi bod yn segur am beth amser, doedd y system ddim wedi dychwelyd i dudalen flaen a fyddai&#8217;n gallu rhoi cyflwyniad i ddefnyddwyr newydd, ynghyd a dewis iaith.<\/p>\n<p>Wedi dechrau defnyddio&#8217;r man gwybodaeth fe sylweddolais yn gyflym iawn mai dim ond un pwrpas oedd ganddo, sef dangos lle roedd pob aelod yn eistedd yn y siambr (er, roedd e&#8217;n dal i ddangos hen aelodau&#8217;r Cynulliad o etholiad 2003). Does dim byd am gefndir yr adeilad a&#8217;r gwaith adeiladu na&#8217;r sefydliad eu hunan.<\/p>\n<p>Ar gyfer defnydd arferol mae ciosg o&#8217;r fath yn defnyddio technolegau safonol fel PC yn rhedeg Windows a porwr gwe sy&#8217;n dangos gwefan yn dod o weinydd mewnol (neu o&#8217;r rhyngrwyd o bosib). Er bod angen cynllunio&#8217;n ofalus i wneud yn siwr fod y testun i&#8217;w weld yn glir ar faint penodol y sgr\u00een, dyw e ddim yn rhywbeth hynod o gymleth i&#8217;w adeiladu. Dim rheswm felly pam na allai&#8217;r sgr\u00een gael dolen drwy i wefan y Cynulliad (mae nhw wedi talu digon amdani).<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n dal i ddisgwyl am wybodaeth gan y Cynulliad am faint wariwyd ar y system yma ac os oes unrhyw fwriad ei ddefnyddio mewn dull mwy effeithiol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Es i am dro o gwmpas adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd cwpl o wythnosau yn \u00f4l, lle tawel iawn ar y pryd, er fod tipyn o waith atgyweirio yn mynd ymlaen ar yr adeilad sydd ddim ond yn 18 &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/09\/17\/sgriniaur-senedd\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[29,5],"tags":[],"class_list":["post-188","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwleidyddiaeth","category-technoleg"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/188","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=188"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/188\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=188"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=188"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=188"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}