{"id":173,"date":"2007-05-16T14:40:34","date_gmt":"2007-05-16T13:40:34","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/05\/16\/hygyrchedd-a-iaith\/"},"modified":"2007-05-16T14:40:34","modified_gmt":"2007-05-16T13:40:34","slug":"hygyrchedd-a-iaith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/05\/16\/hygyrchedd-a-iaith\/","title":{"rendered":"Hygyrchedd a iaith"},"content":{"rendered":"<p>Fe wnaeth yr <a href=\"http:\/\/itwales.com\/798843.htm\">erthygl yma<\/a> ddal fy sylw. Yn anffodus mae&#8217;r erthyglau yma yn cael ei cyflenwi i&#8217;r wefan gan Adfero, sydd yn eu tro yn golygu a chymysgu stor\u00efau o nifer o ffynonellau. Felly mae&#8217;n anodd dod o hyd i ffynhonnell wreiddiol y dyfyniadau. Dyma y brif <a href=\"http:\/\/www.waterfrontonline.co.uk\/articles\/2007\/05\/08\/web-of-opportunity\">ffynhonnell<\/a>, stori ym mhapur newydd Prifysgol Abertawe.<\/p>\n<p>Ta beth, mae&#8217;r eitem yn crybwyll fod 80,000 o bobl yng Nghymru sy&#8217;n ddall neu rhannol ddall a felly fod hi&#8217;n bwysig meddwl am adeiladu gwefannau sy&#8217;n hygyrch i&#8217;r dall. 80 mil, mae hynny&#8217;n lot ondywe! Wel, dim ond 2% o boblogaeth Cymru. Dychmygwch petai rhywun yn gwneud datganiad fel:<\/p>\n<blockquote><p>[Wales] has some 500,000 fluent or semi-fluent Welsh speakers, so designing websites with Welsh-language content is &#8220;well worth doing&#8221; for companies in the country.<\/p><\/blockquote>\n<p>Y gwahaniaeth rhwng y dall a&#8217;r siaradwyr Cymraeg wrth gwrs fod ni&#8217;n gallu &#8216;dewis&#8217; siarad Saesneg a dyna&#8217;r esgus arferol yn absenoldeb deddfau i sicrhau cydraddoldeb. Dwi wedi clywed pobl yn cwyno am y &#8216;gost&#8217; o ddarparu deunydd dwyieithog ond ddim yn cwyno am y gost (llawer uwch yn aml iawn) o sicrhau hygyrchedd i&#8217;r anabl a cyfleoedd cyfartal ymhob agwedd o redeg busnes.<\/p>\n<p>Mae creu gwefannau hygyrch yn bwysig yn sicr ac yn fwy na hynny yn weddol rhwydd i wneud, drwy ddilyn safonau; mae unrhyw gostau yn rhan o&#8217;r gwaith dylunio\/adeiladu a felly ddim mor amlwg i&#8217;r cwmni sydd wedi comisiynu&#8217;r wefan. Y cwmni sy&#8217;n darparu&#8217;r cynnwys a felly mae costau cyfieithu yn fwy amlwg iddyn nhw. Mae gwefan fasnachol yn cael ei ystyried yn fuddsoddiad er mwyn ennill cwsmeriaid a mewn cynllun busnes synhwyrol mi ddylai fod gwefan ddwyieithog yn gam arall i gynyddu yr ROI hollbwysig.<\/p>\n<p>Beth dwi&#8217;n drio ddweud felly? Wnai ddim enwi nhw ond yn rhinwedd fy swydd dwi wedi dod ar draws nifer o bobl marchnata sy&#8217;n ail-adrodd y ddadl o &#8216;gost&#8217; yn ddi-gwestiwn, nifer ohonyn nhw&#8217;n Gymry Cymraeg yn anffodus. Cyn i ni allu perswadio cwmniau rhyngwladol i gymryd yr Iaith o ddifri efallai ddylen ni ddechrau&#8217;r gwaith yn agosach adre.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fe wnaeth yr erthygl yma ddal fy sylw. Yn anffodus mae&#8217;r erthyglau yma yn cael ei cyflenwi i&#8217;r wefan gan Adfero, sydd yn eu tro yn golygu a chymysgu stor\u00efau o nifer o ffynonellau. Felly mae&#8217;n anodd dod o hyd &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2007\/05\/16\/hygyrchedd-a-iaith\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[25,21],"tags":[],"class_list":["post-173","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymraeg","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/173","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=173"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/173\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=173"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=173"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=173"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}