{"id":156,"date":"2006-11-03T17:06:50","date_gmt":"2006-11-03T16:06:50","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/11\/03\/gwefannau-pleidiau-gwleidyddol-cymru\/"},"modified":"2006-11-03T17:06:50","modified_gmt":"2006-11-03T16:06:50","slug":"gwefannau-pleidiau-gwleidyddol-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/11\/03\/gwefannau-pleidiau-gwleidyddol-cymru\/","title":{"rendered":"Gwefannau pleidiau gwleidyddol Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Fel mae Rhys <a href=\"http:\/\/gwenudanfysiau.blogspot.com\/2006\/11\/adolygu-gwefannau-pleidiau-yn-y.html\">wedi nodi<\/a> yn barod, roedd <a href=\"http:\/\/icwales.icnetwork.co.uk\/0100news\/features\/tm_method=full%26objectid=18030656%26siteid=50082-name_page.html\">erthygl <\/a>yn y Western Mule ddoe yn adolygu gwefan newydd Plaid Cymru a&#8217;i gymharu gyda&#8217;r prif bleidiau arall yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n adolygiad annheg, anwybodus a chamarweiniol. Dwi am fanylu ymhellach ac yn faith am y mater.<br \/>\n<!--more--><br \/>\nMae Mr Jon Ingram yn &#8216;weinyddwr gwe&#8217; ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd a mae&#8217;r papur newydd wedi gofyn iddo adolygu&#8217;r gwefannau. Dwi ddim yn gwybod beth yw ei gymhwysterau ar y mater (ffrind i&#8217;r newyddiadurwr?) ond mae&#8217;n gyfrifol am <a href=\"http:\/\/www3.newport.ac.uk\/\">wefan<\/a> y brifysgol, wneith ddim ennill unrhyw wobrau am ddylunio.<\/p>\n<p><strong>Y Gwefannau dan sylw:<\/strong><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.conservatives.com\/wales\">Ceidwadwyr Cymreig<\/a><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.welshlibdems.org.uk\/\">Democratiaid Rhyddfrydol Cymru<\/a><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.plaidcymru.org\/\">Plaid Cymru<\/a><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.welshlabour.org.uk\/\">Plaid Lafur Cymru<\/a> (sydd ddim hyd yn oed yn gweithio ar hyn o bryd)<\/p>\n<p><strong>Cyllid ac arbenigedd<\/strong><br \/>\nY peth cyntaf rhaid crybwyll wrth gwrs yw cyllid. Mae pob plaid heblaw Plaid Cymru yn bleidiau sy&#8217;n gweithredu ar draws Prydain a felly mae mwy o arian ganddyn nhw i wario ar gysylltiadau cyhoeddus yn gyffredinol. Mae ganddynt staff llawn-amser sydd yn gweithio ar gyfathrebu electronig a felly yn gallu cyflogi arbennigwyr yn y maes yn fewnol &#8211; wrth gwrs mae&#8217;r staff yma yn gallu gwasanaethu Cymru yn ogystal a anghenion Llundain.<\/p>\n<p>Mae gwefan y Ceidwadwyr Cymreig yn rhan o brif wefan y Ceidwadwyr felly does dim angen talu am wefan ar wahan &#8211; mae&#8217;r system reoli cynnwys yno&#8217;n barod a dyna gyd sydd angen gwneud yw ychwanegu&#8217;r cynnwys perthnasol. Mae gwefan Llafur Cymru yn un ar wahan ond yn defnyddio cynllun a thechnoleg eu prif wefan. Mae gwefan y Rhyddfrydwyr ar wahan hefyd ac yn hynach na&#8217;u prif wefan, sydd yn llawer gwell.<\/p>\n<p><strong>Buddsoddiad<\/strong><\/p>\n<p>Roedd hen wefan Plaid Cymru yn un &#8216;statig&#8217;, sef casgliad o dudalennau sefydlog. Mae&#8217;r wefan newydd yn buddsoddi mewn system reoli cynnwys (SRC) a fydd yn caniatau adeiladu nifer penagored o wefannau arall, ar gyfer ymgeiswyr, aelodau etholedig ac ymgyrchoedd y blaid.<\/p>\n<p>Gan mai ychydig ddiwrnodau sydd ers lansio y wefan newydd dyw hyn ddim i&#8217;w weld eto &#8211; ond y fantais i&#8217;r blaid yn y tymor hir yw na fydd rhaid gwastraffu arian ar ofyn i&#8217;r darparwr ychwanegu unrhyw gynnwys newydd, mi all unrhyw wariant yn y dyfodol fynd ar ychwanegu fwy o nodweddion diddorol a defnyddiol.<\/p>\n<p><strong>Dylunio<\/strong><br \/>\nMae cyllid yn ffactor yn y gwaith dylunio hefyd. Fe all rhai prosiectau wario wythnosau a degau o filoedd o bunnoedd yn creu y gwaith dylunio, yn mynd trwy sawl fersiwn cyn dod i&#8217;r cynllun terfynol. Nid dyna a wnaed gyda gwefan PC ond creu cynllun fyddai&#8217;n syml ond yn effeithiol ac aml-bwrpas. Fe gynlluniwyd un strwythur cyson a 5 arddull CSS &#8211; un i&#8217;r brif wefan a 4 ar gyfer yr is-wefannau fydd yn bodoli yn y dyfodol agos.<\/p>\n<p>Mae gwefan y Ceidwadwyr Cymreig yn dda iawn o ran dylunio ond eto mae&#8217;n defnyddio yr un cynllun a&#8217;r brif wefan, a mae&#8217;r baneri graffeg yn cyfeirio at faterion Prydeinig nid rhai Cymreig. Mae dylunio y Rhyddfrydwyr yn un eitha gwael yn gyffredinol &#8211; mae&#8217;n defnyddio gormod o destun graffeg, sy&#8217;n golygu fod y wefan yn llai hygyrch ac yn llai hyblyg os oes angen ychwanegu neu ail-enwi adrannau. Dwi ddim yn gallu edrych ar wefan y Blaid Lafur ar hyn o bryd am ei fod lawr! O be dwi&#8217;n gofio mae&#8217;n defnyddio union yr un arddull a prif wefan Llafur (ac o bosib yn defnyddio yr un SRC).<\/p>\n<p><strong>Hygyrchedd a defnyddioldeb<\/strong><br \/>\nMae Mr Ingram wedi drysu braidd ynglyn a hyn. Gwefan PC yw&#8217;r unig un sydd yn gwbl hygyrch gan ddilyn canllawiau y <a href=\"http:\/\/www.w3.org\/\">W3C<\/a> a mae&#8217;r lleill yn torri&#8217;r <em>Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1999<\/em>. Mae &#8216;defnyddioldeb&#8217; yn fater gwahanol, ac yn dibynnu&#8217;n llwyr ar be sy&#8217;n ddefnyddiol i ymwelydd newydd i&#8217;r wefan &#8211; er enghraifft, pa mor hawdd yw hi i lywio drwy&#8217;r safle a dod o hyd i wybodaeth?<\/p>\n<p><strong>Canfod eich cynrychiolydd<\/strong><br \/>\nMae&#8217;n wir nad oes ffordd syml o weld pwy yw eich aelod drwy chwilio am enw tref, sir neu god post. Er mwyn gwneud unrhyw un o rhain fe fyddai angen adeiladu cronfa ddata eitha sylweddol er mwyn sicrhau fod eich chwiliad yn mapio i&#8217;r aelod(au) cywir. Yn wahanol i restrau o aelodau etholedig ym Mhrydain, nifer weddol fach sydd o aelodau PC wrth gwrs felly ar hyn o bryd does dim pwynt gwario arian ar gronfa ddata neu fap i chwilio amdanynt.<\/p>\n<p>Pan fydd yr ymgeiswyr ar gyfer etholiad Mai 2007 yn cael ei cyhoeddi ar y wefan dwi&#8217;n siwr fydd yna ffordd syml o ddangos rhain mewn rhestr wedi ei drefnu yn \u00f4l etholaeth.<\/p>\n<p><strong>Nodweddion arbennig<\/strong><br \/>\nDwi&#8217;n amau os yw Mr Ingram wedi edrych o gwbl ar wefan PC am rhain. Mae Llafur yn cael 3 pwynt am adran i aelodau, y Ceidwadwyr yn cael 7 pwynt am lle i fewngofnodi, fideos a blogiau a&#8217;r Rhyddfrydwyr yn cael 2 bwynt am RSS.<\/p>\n<p>Reit ar dudalen flaen gwefan PC mae dolen i gofrestru am gylchlythyron ebost, dolenni i&#8217;r fideos yn y ganolfan gyfryngol a porthiant RSS union yr un fath a&#8217;r tri safle arall (ym mhorwyr Firefox a IE 7 mi fyddwch chi&#8217;n gweld botwm i ddangos y wybodaeth RSS yn eich porwr). Yn adran newyddion gwefan PC mae yna fotwm RSS hefyd.<\/p>\n<p>Yn fy mhrofiad i, os yw defnyddwyr yn gwybod beth yw pwrpas RSS, mi fyddan nhw yn chwilio amdano. Fel arall, mi fydd y porwyr diweddara yn dechrau poblogeiddio defnydd o&#8217;r dechnoleg drwy&#8217;r gefnogaeth sydd yn rhan craidd o&#8217;r meddalwedd newydd.<\/p>\n<p><strong>Rhy c\u0175l i&#8217;r (brif)ysgol<\/strong><br \/>\nMae hon yn adran ryfedd iawn, sy&#8217;n adlewyrchu rhagfarnau unigolyn am y pleidiau yn hytrach na&#8217;r wefan. Fe wnaeth nifer o gyd-weithwyr i fi (sydd ddim yn gefnogwyr naturiol i PC) ofyn y cwestiwn amlwg &#8211; sut ydych chi&#8217;n creu meini-prawf di-duedd i fesur pa mor &#8216;c\u0175l&#8217; yw gwefan?<\/p>\n<p>Dyna ni &#8216;te. Flin am y llith, ond roedd rhaid rhoi rhywfaint o ymateb i un o&#8217;r erthyglau gwan hynny sydd yn hynod nodweddiadol o&#8217;r Western Mail.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel mae Rhys wedi nodi yn barod, roedd erthygl yn y Western Mule ddoe yn adolygu gwefan newydd Plaid Cymru a&#8217;i gymharu gyda&#8217;r prif bleidiau arall yng Nghymru. Mae&#8217;n adolygiad annheg, anwybodus a chamarweiniol. Dwi am fanylu ymhellach ac yn &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/11\/03\/gwefannau-pleidiau-gwleidyddol-cymru\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[5,21],"tags":[],"class_list":["post-156","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-technoleg","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/156","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=156"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/156\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=156"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=156"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=156"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}