{"id":155,"date":"2006-10-24T14:02:20","date_gmt":"2006-10-24T13:02:20","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/10\/24\/scarlets-yn-y-coch\/"},"modified":"2006-10-24T14:08:54","modified_gmt":"2006-10-24T13:08:54","slug":"scarlets-yn-y-coch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/10\/24\/scarlets-yn-y-coch\/","title":{"rendered":"Scarlets yn y coch"},"content":{"rendered":"<p>Mi rydych chi&#8217;n glwb rygbi mewn trafferthion ariannol &#8211; beth yw eich blaenoriaeth? Creu gwefan newydd wrth gwrs! Fe lansiwyd gwefan newydd y Scarlets wythnos diwethaf &#8211; mae&#8217;r cwmni a&#8217;i gynhyrchodd yn noddi&#8217;r Scarlets yn barod felly dwi&#8217;n amau fod hwn yn ffribi.<\/p>\n<p>Felly dyma adolygiad o&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.scarlets.co.uk\/\">wefan newydd<\/a> (ymwadiad: roeddwn i rywbeth i wneud a&#8217;r hen wefan, ond ddim y dylunio, nodweddion na&#8217;r gwaith technegol).<br \/>\n<!--more--><br \/>\nMae&#8217;r dylunio yn eitha amrwd ond yn amlwg yn ticio llawer o focsus ar gyfer gwefan fasnachol yn 2006 &#8211; hafan &#8216;brysur&#8217;, lliwiau cryf a graddiannau lliw ymhobman. Ar y dudalen flaen mae yna adran &#8216;cyfryngau&#8217; gyda sgr&icirc;n llawn statig sy&#8217;n tynnu&#8217;r sylw, yn ormodol &#8211; er hyn mae&#8217;r defnydd o fideo yn dda iawn. Mae gweddill y dudalen yn llawn crynodebau o newyddion, canlyniadau a dolenni i adrannau o fewn y dudalen.<\/p>\n<p>Ar y rhan fwyaf o dudalennau cynnwys, mae llun baner ar draws ben y dudalen. Mae&#8217;r lluniau yn gwneud defnydd da o&#8217;r techneg o ynysu lliw coch crysau rygbi o fewn cefndir du-a-gwyn. Am fod y dudalen yn cynnwys pennawd mawr, bwydlen a wedyn y llun, dyw&#8217;r cynnwys ei hunan ddim yn dechrau tan tua hanner ffordd lawr y dudalen ar fy sgr&icirc;n i. Mi fyddai defnydd o fwydlen ar un ochr o&#8217;r dudalen yn ryddhau fwy o le i&#8217;r cynnwys.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Scarlets wedi bod yn eitha cefnogol i ddwyieithrwydd fel rhan o farchnata&#8217;r clwb, ond mae&#8217;r wefan newydd yn siomedig o ran ei chyfieithiad ac am gynnwys heb ei gyfieithu. Mae 4 stori newyddion yn Gymraeg a tua 83 yn Saesneg &#8211; roedd yr hen wefan wedi bod fel hyn ers tipyn felly mae&#8217;n amlwg fod pwy bynnag oedd yn cyfieithu&#8217;r cynnwys wedi gadael. Mae yna wallau amlwg fel &#8220;CANOLBWYNT MEDIA&#8221;, &#8220;golyg holl media fideo&#8221;, &#8220;GOLYG TIM G\u00caM NESAF>>&#8221; a mae &#8220;perthyn i&#8217;r angerdd&#8221; yn gyfieithiad slafaidd gwael hefyd. Heblaw am y newyddion, ychydig iawn o weddill y safle sydd wedi ei gyfieithu ar hyn o bryd. O be alla&#8217;i weld does dim fideos Cymraeg chwaith, yn anffodus.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hawdd i drwsio gwallau cyfieithu, ond mae technoleg y wefan yn rhywbeth mwy sylfaenol, felly beth am ansawdd technegol y wefan? Y gwall mwya amlwg i mi yw&#8217;r defnydd o Javascript a cwcis i newid iaith ac i ddangos llawer o gynnwys y wefan. Mae hyn yn golygu nad yw&#8217;r wefan yn hygyrch i beiriannau chwilio fel Google &#8211; gall peiriant ddim &#8216;dilyn&#8217; dolenni sy&#8217;n defnyddio sgript Javascript. Yn bwysicach nid yw&#8217;n hygyrch i ddarllenwyr sgr&icirc;n, meddalwedd a ddefnyddir gan bobl sy&#8217;n ddall neu sydd a nam ar ei golwg.<\/p>\n<p>Felly mae rhan fwyaf o&#8217;r wefan wedi ei guddio, yn cynnwys yr holl gynnwys Cymraeg. Dyw hi ddim chwaith yn bosib creu dolen sy&#8217;n arwain yn uniongyrchol at dudalen Cymraeg yn y wefan. Mae problem fach arall hefyd &#8211; edrychwch ar fanylion un o&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.scarlets.co.uk\/the-region\/playerdetails.aspx?ID=134295\">chwaraewyr<\/a> a newidiwch iaith &#8211; mae&#8217;r cynnwys yn diflannu!<\/p>\n<p>Yn &ocirc;l cod HTML y wefan mae&#8217;n defnyddio &#8216;XHTML 1.0 Transitional&#8217;, ond wrth ei redeg drwy <a href=\"http:\/\/validator.w3.org\/\">ddilysydd y W3C<\/a>, mae&#8217;n dangos 44 o wallau, yn cynnwys pethau sylfaenol fel: dim defnydd o&#8217;r nodwedd &#8216;alt&#8217;; defnydd annilys o&#8217;r doler mewn ids; ac erchyllbeth yn 2006, defnydd o dagiau &#8220;<font>&#8220;. Ond o leia mae&#8217;r wefan wedi ei adeiladu, ar y cyfan, drwy ddefnyddio CSS.<\/p>\n<p>Cais eitha da felly ond wnaethon nhw ddim llwyddo trosi, y tro yma.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mi rydych chi&#8217;n glwb rygbi mewn trafferthion ariannol &#8211; beth yw eich blaenoriaeth? Creu gwefan newydd wrth gwrs! Fe lansiwyd gwefan newydd y Scarlets wythnos diwethaf &#8211; mae&#8217;r cwmni a&#8217;i gynhyrchodd yn noddi&#8217;r Scarlets yn barod felly dwi&#8217;n amau fod &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/10\/24\/scarlets-yn-y-coch\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[25,21],"tags":[],"class_list":["post-155","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymraeg","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/155","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=155"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/155\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=155"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=155"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=155"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}