{"id":138,"date":"2006-06-11T22:08:13","date_gmt":"2006-06-11T21:08:13","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/06\/11\/syrffior-internet-1995-stylee\/"},"modified":"2006-06-15T23:50:54","modified_gmt":"2006-06-15T22:50:54","slug":"syrffior-internet-1995-stylee","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/06\/11\/syrffior-internet-1995-stylee\/","title":{"rendered":"Syrffio&#8217;r internet, 1995 stylee"},"content":{"rendered":"<p>Ganwyd y We Gymraeg yn 1995. Cyn hynny roedd nifer o Gymry Cymraeg yn cyfathrebu ar rhestrau ebost fel <a href=\"https:\/\/listserv.heanet.ie\/welsh-l.html\">welsh-l<\/a>, ar gr\u0175p Usenet <a href=\"http:\/\/groups.google.co.uk\/group\/soc.culture.welsh\">soc.culture.welsh<\/a> (a nes ymlaen <a href=\"http:\/\/groups.google.co.uk\/group\/wales.cymraeg\">wales.cymraeg<\/a>) a&#8217;r sianeli sgwrsio byw IRC. Y lle rhwydda i gael mynediad i&#8217;r rhyngrwyd oedd yn y prifysgolion neu&#8217;r prif lyfrgelloedd a felly cymuned academaidd wnaeth ddatblygu a chynnal rhan fwyaf o&#8217;r gwasanethau a&#8217;r wybodaeth yn y cychwyn. <!--more--><\/p>\n<p>Yn 1994 roedd myfyriwr o Gymru yn astudio am PhD ar &#8216;fywyd artiffisial&#8217; yng ngholeg Manceinion. Gan fod ei gyfrifiadur gwaith yn y coleg yn rhedeg Linux a wedi ei gysylltu a&#8217;r rhwyd fe wnaeth sefydlu y porth cynta ar gyfer y we Gymraeg &#8211; Gwe Aw\u00ea. Roedd hwn yn cynnig dolenni tudalennau Cymraeg arall ar y we a llety i rai gwefannau arall yn Gymraeg. Yn ogystal a hyn fe roedd yn cynnal cyfeiriadur &#8216;Cymuned Gymraeg Rhithwir&#8217; oedd yn caniat\u00e1u defnyddiwr i greu &#8216;tudalen cartref&#8217; iddyn nhw eu hunain yn cynnwys ychydig o wybodaeth amdanynt. Fe roedd &#8216;llyfr gwesteion&#8217; syml yno hefyd, rhagflaenydd y negesfwrdd.<\/p>\n<p>Enw&#8217;r myfyriwr oedd Rhys Jones a fe aeth ymlaen i fod yn un o&#8217;r <em>technopreneurs<\/em> prin sydd yng Nghymru, gan sefydlu cwmn\u00efau Technoleg Gwe, <a href=\"http:\/\/www.securetrading.com\/\">Secure Trading<\/a> a <a href=\"http:\/\/www.accountis.com\/\">Accountis<\/a>.<\/p>\n<p>Erbyn 1995, er mai rhestrau ebost oedd y prif gyfrwng trafod o hyd, roedd nifer o wefannau Cymraeg wedi dechrau &#8211; rhai gan unigolion yn cynnig gwybodaeth ac eraill gan gwmn\u00efau yn cynnig gwasanaethau neu gynnyrch. Doedd y cyfryngau ddim yn siwr sut i bortreadu y cyfrwng newydd bygythiol hwn a felly fe gafwyd cymysgedd rhyfedd o eitemau a rhaglenni dogfen &#8211; rhai yn portreadu ryw utopia technolegol ac eraill yn canolbwyntio ar &#8216;beryglon&#8217; fel pornograffi a diffyg rheolaeth neu sensoriaeth. Fe roedd rhaglenni plant fel Uned 5 yn llawer fwy rhesymol a diffwdan.<\/p>\n<p>Fel archif bach o&#8217;r hyn a fu, dyma glip o Uned 5, a ddarlledwyd ar Fehefin 20fed 1995, bron 11 mlynedd yn \u00f4l. Mae Nia Elin yn cyflwyno&#8217;r &#8216;uwchdraffordd wybodaeth&#8217; gyda chymorth <a href=\"http:\/\/www.red-snapper.co.uk\/\">Keith Morris<\/a>.<\/p>\n<p><object width=\"425\" height=\"350\"><param name=\"movie\" value=\"http:\/\/www.youtube.com\/v\/7myp3hVokkA\"><\/param><embed src=\"http:\/\/www.youtube.com\/v\/7myp3hVokkA\" type=\"application\/x-shockwave-flash\" width=\"425\" height=\"350\"><\/embed><\/object><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ganwyd y We Gymraeg yn 1995. Cyn hynny roedd nifer o Gymry Cymraeg yn cyfathrebu ar rhestrau ebost fel welsh-l, ar gr\u0175p Usenet soc.culture.welsh (a nes ymlaen wales.cymraeg) a&#8217;r sianeli sgwrsio byw IRC. Y lle rhwydda i gael mynediad i&#8217;r &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/06\/11\/syrffior-internet-1995-stylee\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[31,15,21],"tags":[],"class_list":["post-138","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-fideo","category-teledu","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/138","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=138"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/138\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=138"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=138"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=138"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}