{"id":120,"date":"2006-04-05T21:37:20","date_gmt":"2006-04-05T20:37:20","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=120"},"modified":"2006-04-06T11:02:35","modified_gmt":"2006-04-06T10:02:35","slug":"gwefan-cyngor-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/04\/05\/gwefan-cyngor-caerdydd\/","title":{"rendered":"Gwefan Cyngor Caerdydd"},"content":{"rendered":"<p>Dwi newydd sylwi fod gan Gyngor Caerdydd wefan newydd o&#8217;r diwedd. Roedd yr hen un yn warthus a felly mae&#8217;n dda gweld unrhyw welliant. Mae&#8217;n werth gwneud adolygiad byr o sut hwyl mae nhw wedi cael arni, o safbwynt technolegol yn bennaf:<\/p>\n<p><strong>Dylunio<\/strong> &#8211; Dyw e ddim yn hynod drawiadol ond mae&#8217;n ddigon effeithiol yn ei bwrpas fel gwefan i rannu wybodaeth. Mae&#8217;n gweithio ymhob maint sgr&icirc;n ond mae nhw&#8217;n newid maint y lluniau yn ogystal a&#8217;r cynllun wrth newid maint y porydd sy&#8217;n gwneud y lluniau edrych yn eitha gwael ac amhroffesiynol.<\/p>\n<p>O ran yr arddull (mewn <a href=\"http:\/\/www.w3.org\/Style\/CSS\/\">CSS<\/a>), mae&#8217;n edrych mai dim ond yn Internet Explorer mae&#8217;r cynllun wedi ei profi. Edrychwch ar y <a href=\"http:\/\/www.cardiff.gov.uk\/content.asp?nav=2872,3250,4875&#038;parent_directory_id=2865&#038;Positioning_Article_ID=&#038;language=CYM&#038;sortkey=\">dudalen yma<\/a> yn Firefox neu Safari er enghraifft. Mae yna wall yn Safari (diolch Huw) lle mae testun yr &#8216;allweddau mynediad&#8217; (access keys) yn ymddangos (bach o CSS amheus gyda z-index os ydych chi wir eisiau gwybod) . O&#8230; a mae ei <a href=\"http:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Favicon\">favicon<\/a> nhw yn hynod o naff.<\/p>\n<p><strong>Dwyieithrwydd<\/strong> &#8211; Mae&#8217;r strwythur yn gwbl ddwyieithog er fod cryn dipyn o&#8217;r cynnwys ddim ar gael yn Gymraeg eto. Mae safon yr iaith yn dda iawn o&#8217;r hyn dwi wedi weld, fel yr hen wefan i ddweud y gwir. Un peth rhyfedd yw fod rhai adrannau ddim yn dangos pan nad yw&#8217;r cynnwys wedi ei gyfieithu a felly yn dangos tudalennau gwag, cymharer y newyddion <a href=\"http:\/\/www.cardiff.gov.uk\/content.asp?nav=2874%2C4202&#038;parent_directory_id=2865&#038;positioning_article_id=&#038;language=CYM&#038;sortkey=\">Cymraeg<\/a> a <a href=\"http:\/\/www.cardiff.gov.uk\/content.asp?nav=2874%2C4202&#038;parent_directory_id=2865&#038;positioning_article_id=&#038;language=&#038;sortkey=\">Saesneg<\/a>.<\/p>\n<p>Rhywbeth diddorol arall yw eu bod yn cynnig fersiynau Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg o&#8217;r wefan drwy wasanaeth <a href=\"http:\/\/babelfish.altavista.com\/\">Babelfish<\/a> sydd, er ei fod yn ddefnyddiol, ddim yn adnabyddus am gywirdeb y cyfieithiad.<\/p>\n<p><strong>Llywio<\/strong> &#8211; Mae prif adrannau y wefan yn ddigon clir ac o fewn pob adran mae bwydlen ar y chwith gyda, ar y mwyaf, tri is-lefel. Yn anffodus, mae trefn y fwydlen yma yn symud yr adran gyfredol i&#8217;r brig hyd yn oed pan mae adrannau arall yno, sy&#8217;n hynod o ddryslyd wrth bori drwy&#8217;r adrannau. Er enghraifft, ymwelwch a&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.cardiff.gov.uk\/content.asp?nav=2874%2C4204&#038;parent_directory_id=2865&#038;positioning_article_id=&#038;language=CYM&#038;sortkey=\">dudalen yma<\/a> yna dewiswch rhai o&#8217;r is-adrannau (Pecynnau&#8217;r Wasg |  Areithiau | Bywgraffiadau | Ffeithiau a Ffigurau).<\/p>\n<p><strong>Arall<\/strong> &#8211; Mae yna wasanaeth eitha diddorol &#8216;<a href=\"http:\/\/www.cardiff.gov.uk\/content.asp?nav=&#038;id=2031&#038;parent_directory_id=2865&#038;pagetype=&#038;keyword=&#038;Positioning_Article_ID=&#038;Language=CYM\">Siarad gyda Asiant<\/a>&#8216; sef sgwrs fyw ar y wefan. Mae yna rybudd <em>&#8220;O ganlyniad i natur y dechnoleg hon, ni allwn warantu y bydd ein hymateb na&#8217;r sgwrs yn ramadegol gywir.&#8221;<\/em>. Mewn geiriau arall, allwn ni ddim warantu y bydd ein staff yn gallu ymateb gywir ac yn ramadegol!<\/p>\n<p>Crynodeb: Mae cyngor mwya&#8217; Cymru wedi bod ar ei h&ocirc;l hi gyda datblygiad ei gwefan ond mae nhw nawr n&ocirc;l i&#8217;r un safon a rhai o&#8217;r cynghorau arall a ddim yn embaras bellach. Mae&#8217;n wefan sylfaenol a safonol ond does dim llawer o nodweddion sy&#8217;n ychwanegol i&#8217;r arfer &#8211; dim porthiant RSS ar gyfer y newyddion, swyddi er enghraifft. Felly 7.5\/10 am yr ymdrech a gobeithio y byddant yn parhau i addasu&#8217;r wefan wrth gael sylwadau o&#8217;r defnyddwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwi newydd sylwi fod gan Gyngor Caerdydd wefan newydd o&#8217;r diwedd. Roedd yr hen un yn warthus a felly mae&#8217;n dda gweld unrhyw welliant. Mae&#8217;n werth gwneud adolygiad byr o sut hwyl mae nhw wedi cael arni, o safbwynt technolegol &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/04\/05\/gwefan-cyngor-caerdydd\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[21],"tags":[],"class_list":["post-120","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/120","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=120"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/120\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=120"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=120"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=120"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}