{"id":118,"date":"2006-04-04T14:32:15","date_gmt":"2006-04-04T13:32:15","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=118"},"modified":"2006-04-04T14:35:04","modified_gmt":"2006-04-04T13:35:04","slug":"dreigiau-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/04\/04\/dreigiau-cymru\/","title":{"rendered":"Dreigiau Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae rhai aelodau o&#8217;r Cynulliad wedi bod yn grwgnach, yn ei modd arferol am ail-frandio y WDA a&#8217;r Bwrdd Croeso gyda logo newydd. Mae&#8217;n amlwg nad yw&#8217;r gwleidyddion yma yn deall rhwng brand a logo. Mae brand yn cwmpasu y &#8216;neges&#8217; a&#8217;r syniadau sy&#8217;n cael ei cyfleu gan y cynnyrch &#8211; sef Cymru yn yr achos yma; fel gwlad, rhywle i wneud busnes a fel cyrchfan gwyliau.<\/p>\n<p>Nid y logo sy&#8217;n cyfleu hynny ond y ddelwedd o&#8217;r cynnyrch sy&#8217;n cael ei werthu drwy ddeunydd marchnata, a thrwy profiad pobl sy&#8217;n ymweld a Chymru am fusnes neu pleser. Mae logo yn bwysig fel symbol i ddal sylw ond nid gwerthu tiniau Coke yw&#8217;r pwrpas, ond delwedd ac adnabyddiaeth. I ddweud y gwir, wrth werthu gwlad a diwylliant, rhan fach o&#8217;r ateb yw logo &#8211; mae pobl yn llawer mwy tebygol o gofio ac ymateb i ddelweddau o dirlun, adeiladau a phobl.<\/p>\n<p>Mae Mike German wedi cwyno am &#8220;logo draig arall eto&#8221;. A mae Nick Bourne yn dweud fod y ddelwedd yn ystrydebol cyn mynd ymlaen i ddweud <em>&#8220;if it&#8217;s not, broke don&#8217;t fix it&#8221;<\/em> sydd ychydig yn gymysglyd a dweud y lleia. Mae&#8217;n amlwg nad oedd defnydd o ddraig mewn logo wedi &#8216;torri&#8217; a felly dyw hi ddim wedi ei &#8216;trwsio&#8217;.<\/p>\n<p>Dreigiau haniaethol oedd logos y WDA a&#8217;r Bwrdd Croeso a mae yna ddau arall yn logo y Cynulliad a&#8217;r Llywodraeth. Dwi&#8217;n deall felly &#8211; roedd hi&#8217;n iawn i&#8217;r WDA a&#8217;r Bwrdd Croeso ddefnyddio logo draig jyst am ei fod felna erioed, ond dyw hi ddim yn iawn ail-ddylunio&#8217;r ddau logo a&#8217;i cyfuno (sy&#8217;n arbed arian yn y pendraw). Dwi ddim yn cofio&#8217;r gwleidyddion yn cwyno pan wnaeth y WDA wario (wastio) \u00a3160,000 er mwyn i gwmni o Lundain newid ei logo o un draig i&#8230; ddraig arall gyda lliw ychydig bach yn wahanol!<br \/>\n<img decoding=\"async\" src=\"\/storfa\/2006\/04\/wda-draig.png\" alt=\"WDA logo loco\" \/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae rhai aelodau o&#8217;r Cynulliad wedi bod yn grwgnach, yn ei modd arferol am ail-frandio y WDA a&#8217;r Bwrdd Croeso gyda logo newydd. Mae&#8217;n amlwg nad yw&#8217;r gwleidyddion yma yn deall rhwng brand a logo. Mae brand yn cwmpasu y &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/04\/04\/dreigiau-cymru\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[29,7],"tags":[],"class_list":["post-118","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwleidyddiaeth","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/118","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=118"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/118\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=118"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=118"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=118"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}