{"id":107,"date":"2006-02-02T23:29:00","date_gmt":"2006-02-02T23:29:00","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=107"},"modified":"2006-02-02T23:34:32","modified_gmt":"2006-02-02T23:34:32","slug":"y-syniad-mawr-nesaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/02\/02\/y-syniad-mawr-nesaf\/","title":{"rendered":"Y Syniad Mawr Nesaf"},"content":{"rendered":"<p>Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd &#8216;ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi&#8217;n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o stor&iuml;au am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmn&iuml;au arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu.<\/p>\n<p>Mae hyn wedi golygu fod nifer o bobl wedi neidio ar yr un cwch a wedi meddwl am gychwyn gwefannau fel hyn ei hunain. Mewn gwirionedd, mae bron yn amhosib defnyddio syniad unigryw a&#8217;i efelychu mewn ffordd sydd &#8216;hyd yn oed yn fwy unigryw&#8217;. Dros y misoedd diwethaf yn y gwaith dwi wedi gweld pob math o syniadau gwirion yn dod mewn. Roedd rhai unigolion eisiau dechrau gwefan &#8216;yr un peth a Hotmail\/Google\/Flickr&#8217;, a daeth hanner dwsin o syniadau am wefannau &#8216;rhwydweithio cymdeithasol&#8217;; cynnig ffordd o gyfarfod a phobl o&#8217;r un diddordeb; ffeindio cariad; fforwm drafod ar rhyw bwnc arbennig.<\/p>\n<p>Dau beth amlwg sy&#8217;n cysylltu&#8217;r syniadau yma i gyd &#8211; mae nhw eisiau dylunio ac adeiladu y wefan am y nesa peth i ddim a dy&#8217;n nhw ddim yn siwr iawn sut i wneud arian o&#8217;r wefan (neu fod ei cynllun busnes yn &#8216;gyfrinachol&#8217; &#8211; fel arfer mae hyn yn golygu fyddan nhw&#8217;n gwneud pethau lan wrth iddyn nhw fynd ymlaen).<\/p>\n<p>Y ffenomenon ddiweddaraf yw &#8216;gwerthu picsels&#8217;. Mae hwn yn <em>con trick<\/em> arbennig o dda, a ddechreuwyd gan <a href=\"http:\/\/www.milliondollarhomepage.com\/\">Alex Tew<\/a>. Prif fwriad y tric yma yw nid gwerthu hysbysebion, ond creu stori ddeniadol i&#8217;r cyfryngau &#8211; &#8220;dyma fi, fyfyriwr tlawd, yn gwneud ffortiwn ar y we heb godi bys&#8221;.<\/p>\n<p>I fod yn deg, mae hwn yn ffordd hawdd o wneud arian sydd a hanes eitha hir, o gardota i fysgio ac i&#8217;r dulliau mwy dyfeisgar ar y we heddiw. Os gerddwch chi lawr Heol y Frenhines yng Nghaerdydd a gofyn i bawb sy&#8217;n pasio am 10 ceiniog i wneud &#8216;galwad ff&ocirc;n bwysig&#8217; mi fydd ganddoch chi nifer o bunnoedd erbyn i chi gyrraedd y castell.<\/p>\n<p>Pwy fydd yn ymweld a gwefan y miliwn doler ar &ocirc;l i&#8217;r stori ddiflannu o&#8217;r cyfryngau? Neb &#8211; a felly dros y 5 mlynedd hir nesaf, ni fydd llawer o neb yn gweld yr hysbysebion. Mae rhan fwyaf o&#8217;r hysbysebwyr ar y safle yn ddigon cefnog i sbario ychydig ddoleri er mwyn dod yn &#8216;rhan o&#8217;r stori&#8217;, yn enwedig felly y cyfryngau torfol neu gwefannau gamblo. Wrth gwrs mae yna farchnad yn barod ar gyfer &#8216;prynu picsels&#8217; &#8211; trefn mwy synhwyrol lle gall cwmn&iuml;au roi hysbysebion testun neu graffeg ar wefannau arall &#8211; gwefannau sydd o ddiddordeb i bobl ac yn cynyddu ei cynulleidfa yn raddol dros y blynyddoedd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r uchod i gyd yn ffordd hir o ddod at &#8216;yr ongl Gymreig&#8217; i&#8217;r ffasiwn rhyfedd yma, sef <a href=\"http:\/\/www.millionpixelwales.com\/\">Million Pixel Wales<\/a> a mi fydd <a href=\"http:\/\/www.miliwnpicselcymru.com\/\">Miliwn Picsel Cymru<\/a> hefyd i gael cyn hir. Mae nifer o <a href=\"http:\/\/www.thepixelwars.com\/\">bobl eraill<\/a> wedi trio efelychu&#8217;r syniad gwreiddiol felly fydd e&#8217;n ddiddorol gweld sut fydd <strike>sgam<\/strike> syniad unigryw yma yn datblygu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ychydig iawn o syniadau gwreiddiol i wneud arian mawr sydd yn y byd &#8216;ma, ond unwaith i un person lwcus wneud ei ffortiwn mae pawb arall yn meddwl ei fod hi&#8217;n hawdd i nhw wneud union yr un fath. Llynedd fe ddaeth nifer o stor&iuml;au am wefannau yn llwyddo i dyfu mor fawr a dylanwadol fel fod cwmn&iuml;au arall am eu prynu. Yr enghraifft amlwg ym Mhrydain oedd Friends Reunited, a gafodd ei brynu gan ITV oedd yn gweld gwerth y wefan fel llwyfan hysbysebu. <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2006\/02\/02\/y-syniad-mawr-nesaf\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[28,21],"tags":[],"class_list":["post-107","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwaith","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/107","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=107"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/107\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=107"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=107"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=107"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}