Eisteddfod ar yr intyrnet

Mae’r we mor greiddiol i gymaint o’n profiadau heddiw fel ei fod yn hawdd anghofio am lawer o’r datblygiadau cynnar yn y 1990au. Ond diolch i glip archif ar wefan BBC Cymru Fyw, fe ysgogodd ychydig o atgofion.

25 mlynedd yn ôl, i’r wythnos os nad i’r diwrnod, roeddwn i yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele, lle roedd cysylltiad rhyngrwyd ar gael ar y Maes am y “tro cyntaf” (rhaid i rywun frolio am wneud y cyntaf o’r fath beth bynnag, sy’n sicrhau y cofnod mewn hanes).

Roeddwn i wedi lansio gwefan Curiad yn gynharach yn y flwyddyn ac fe ymddangosodd ar raglen Uned 5 ym Mehefin 1995:

Yn y cyfnod yna cefais i gefnogaeth a chymorth gan Rhys Jones a oedd wedi creu y gymuned rhith ‘Gwe-Awe’ sydd yn ymddangos yn y fideo uchod. Y datblygiad mwyaf defnyddiol oedd cael gofod parhaol i wefan Curiad ar ei weinydd ef, gyda’r cyfeiriad www.wales.com/curiad i ddechrau yna curiad.wales.com.

Yn y misoedd yn arwain at Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995, roedd Rhys wedi cychwyn cwmni Technoleg Gwe i ddatblygu gwefannau ac fe greodd wefan gyda gwybodaeth am yr Eisteddfod. Mae yna erthygl yn y Western Mail ar 19 Mai 1995 yn esbonio’r bwriad (diolch i’r Rhys Jones arall am y sgan).

 alt=

Mae canlyniad hyn i gyd i’w weld ar glip fideo o’r archif mewn stori gan BBC Cymru Fyw wythnos ddiwethaf lle mae Rhys yn esbonio’r dechnoleg gyffrous newydd. Rhyw fath o gaffi seiber oedd yno, ym mhabell Busnes/Technoleg y WDA, gyda sawl cyfrifiadur ar gael i “syrffio’r rhyngrwyd”.

Roeddwn i wedi ychwanegu gwybodaeth gigs a newyddion ar wefan Curiad yn y mis cyn y Steddfod, fel mae’r archif yn dangos. Yn ôl ebost gen i ar pryd, o’n i hefyd wedi bod yn creu mapiau o Gymru er mwyn datblygu gwefan ‘Cymru Rhithwir’ ond does gen i ddim syniad yn union be ddaeth ohono! (rhyw fath o Google Maps cyntefig rwy’n amau).

Yn ystod yr wythnos, fy swydd i oedd helpu pobl gyda defnyddio’r we, ateb cwestiynau ac ati. Wnes i gyfweliad byr ar Radio Cymru yn ceisio esbonio’r intyrnet bondigrybwyll i’r gwrandawyr, er does gen i ddim cof o be ddwedes i.

Datblygodd y ddarpariaeth y flwyddyn ganlynol gyda pabell ar wahan er mwyn creu fwy o gaffi seiber cyffyrddus gyda cadeiriau o flaen tua 8 neu 10 cyfrifiadur. Roeddwn i nôl eto yn 1996 a 1997 i ofalu am y ‘caffi’.

Roedd hyn i gyd cyn bodolaeth Google neu unrhyw beiriant chwilio’r we, felly roedd rhaid dilyn o ddolen i ddolen drwy’r we. Byddai’r dudalen cartref ‘Eisteddfod ar yr Internet’ felly yn cynnig dolenni i’r nifer fechan o wefannau Cymraeg oedd ar gael ar y pryd. Erbyn 1996 roedd y peiriant chwilio Altavista yn bodoli ac roedd cyfeiriadur Yahoo yn hynod o ddefnyddiol i’r We Gymraeg cynnar hefyd.

Yn y dyddiau hynny yr unig gysylltiad posib i’r rhyngrwyd oedd drwy linell ffôn analog. Rwy’n ansicr os oedd hi’n bosib cael cysylltiad ISDN ar faes yr Eisteddfod yn 1995, heblaw efallai am Swyddfa’r Eisteddfod. Roedd yn bosib i’w gael erbyn y 1990au hwyr yn bendant.

Yn y byd analog, roedd y cysylltiad i’r rhyngrwyd drwy fodem (33.6 kbit/s ar y mwyaf) wedi ei gysylltu i weinydd Linux, oedd yn deialu fyny rhif ffôn lleol (i gyfrif rhyngrwyd gyda Demon Internet). Roedd y gweinydd hefyd yn ddirprwy i weddill y cyfrifiaduron ar y rhwydwaith leol. Felly byddai’r gweinydd yn gallu cadw gwefannau ar storfa leol, meddalwedd Squid mwy na thebyg, a byddai hyn yn arbed ail-drosglwyddo ceisiadau dros y cysylltiad modem araf.

Yr unig beth oedd angen gofalu amdano mewn gwirionedd oedd ail-gychwyn y cysylltiad rhyngrwyd os oedd y llinell ffôn yn gollwng. A byddai rhaid gofalu na fyddai plant yn edrych ar bethau rhy amheus ar y cyfrifiaduron (nid fod pethau amheus yn hawdd i’w canfod adeg hynny).

Does dim archif hyd y gwn i o’r wefan Eisteddfodol gyntaf yna, na Gwe-Awe. Mae’r cof yn dechrau pylu am lawer o’r manylion am y datblygiadau cynnar, er mod i gen i rhai negeseuon ebost o’r cyfnod sy’n rhoi rhywfaint o fanylion.

Felly mae’r ffaith ei fod wedi gofnodi gan eitemau newyddion/nodwedd ar deledu yn eitha defnyddiol – ond yn sicr mae yna fwy yn archif y darlledwyr.

Diweddariad 4 Awst: Bron i fi anghofio am yr erthygl a ymddangosodd yn y Western Mail ar 11 Awst 1995sgan ar Flickr

Postiwyd y cofnod hwn yn Cymraeg, Technoleg, Y We. Llyfrnodwch y paraddolen.