Archifau Misol: Hydref 2005

Arwyddion Cymraeg

Newydd gael sbam gan gwmni o Pontypŵl yn hysbysebu arwyddion dwyieithog. Mi fase nhw wedi gwneud fwy o argraff petai’r ebost a’r wefan yn ddwyieithog. Ond neges Saesneg ydoedd (nodwch y gwallau) I would like to introduce you to our … Continue reading

Postiwyd yn Cymraeg, Y We | 2 Sylw

Gwrando ar Grindell

Dwi am fynd nôl i 1993 gyda tri trac gan ‘swynwr y synthau’ (y Rick Wakeman Cymraeg)… ie, John Grindell. Wnaeth e ryddhau caset ar label Sain y flwyddyn honno o’r enw Celt (C2066a) sydd yn gampwaith o chwarae synth … Continue reading

Postiwyd yn Cerddoriaeth, MP3 | 3 Sylw

Dewis enw i blentyn

Dyma stori wir sy’n gwneud ei ffordd drwy gylch clecs athrawon Cymraeg Caerdydd. Daeth teulu i fyw yng Nghaerdydd gyda’r cyfenw ‘Dan’ (wedi’i ynganu fel daan mae’n debyg). Does gen i ddim syniad o le ddaeth y teulu na dim … Continue reading

Postiwyd yn Bywyd, Hwyl | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Dewis enw i blentyn

Anrhydedd i Alan

Llongyfarchiadau i Alan Cox am gael Gwobr Cyflawniad Oes yn noson wobrwyo Cynhadledd Linux World a gynhaliwyd nos Fercher. Hoffwn rhoi gwobr ‘cyflawniad’ fy hun i Telsa am fyw gyda Alan dros y blynyddoedd 🙂

Postiwyd yn Newyddion, Technoleg | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Anrhydedd i Alan

Ning

Mae Marc Andreessen a Gina Bianchini wedi ffurfio cwmni newydd o’r enw Ning. Daeth Marc yn enwog ac yn gyfoethog am neidio ar heip y we gyda chwmni Netscape – mi roedd e’n ddyn busnes gwych ond mae yna farc … Continue reading

Postiwyd yn Y We | Sylwadau wedi eu Diffodd ar Ning