Archifau Misol: Medi 2005
Cyfieithu’r Corrach
Bwrdd gwaith poblogaidd ar gyfer system weithredu Linux yw Gnome a mae fersiwn 2.12 newydd ei ryddhau. Mae Gnome yn cael ei ryddhau mewn nifer fawr o ieithoedd a diolch i waith caled tîm gnome-cy mae 92.69% o’r llinynnau wedi … Continue reading
Cardiau Adnabod
Mae’r ymgyrch yn erbyn cardiau adnabod – NO2ID – wedi creu cân ac animeiddiad sydd yn ffordd eitha difyr o gael eu neges drosodd.
Rhy cŵl i’r Gymraeg
Roedd stori heddiw ynglyn a gwefan newydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Enw’r wefan ydi cwlfly.com – CWL ydi cod rhyngwladol y maes awyr a nid ymgyrch farchnata i wneud hedfan o Gaerdydd yn cŵl. Dechrau o’r newydd felly – cyfle … Continue reading
Disg wedi llithro
Os ydych chi’n gweinyddu systemau yn ddigon hir, rydych chi’n datblygu rhyw gysylltiad telepathig gyda’r peiriannau. Os yw peiriant yn crashio neu yn stopio gweithio’n gywir am ryw reswm, mi fyddai’n teimlo’n anhapus iawn tan i fi drwsio’r broblem. Pan … Continue reading
Rhithfro’n fyw
Mae’r Rhithfro yn fyw.. hwre. Dwi wedi ychwanegu darn ar y dde sy’n dangos dolen i un gwefan ar hap allan o’r rhai sydd wedi eu cofrestru yn y Rhithfro.