Cofio… 1995

Dwi wedi bod yn sganio hen doriadau papur newydd o gyfnod cynnar iawn y Rhyngrwyd. Mae’r storiau eu hunain yn ddigon diddorol ond mae’n ddifyr gweld sut roedd papurau newydd yn adrodd ar y cyfrwng newydd. Yn wahanol i’r disgwyl mae’r Cymro yn well na’r gweddill oherwydd dealltwriaeth eu gohebydd Dilwyn Roberts-Young (er does gen i ddim enghreifftiau o’r Cymro yn 1995).

Mae’n bosib fyddai’n darganfod mwy i’w sganio cyn bo hir ond fel cofnod, dyma’r set o luniau ar Flickr.

Stwnsho

Ddylwn i ddim synnu bellach am y fath o bethau rhyfedd mae pobl yn trafod ar y we, ond mae hwn yn newydd i fi.

Mae yna wefan ar gyfer pobl gyda fetish rhyfedd iawn sef gwylio pobl yn cael eu gungeio neu stwnsho. Diolch am Stwnsh Sadwrn ar S4C felly! Mae yna hefyd sianel fideo ar YouTube sydd a chlipiau o Stwnsh.

Dyma Tara Bethan yn ei chael hi:

Gwefannau ‘Cymraeg’

Dyma restr o wefannau Cymraeg i chi.

Cymraeg Vending – cwmni o’r Bari sy’n cyflenwi peiriannau gwerthu. Fe gafodd y wefan ei gynllunio yn y flwyddyn 2000 ond mae’n anodd iawn dweud.

Cariad Cymraeg – mi fase’n ddiddorol gwybod beth sydd i fod yma ond dyw’r perchennog ddim wedi gosod y wefan yn llawn eto.

Cymraeg Crystal – dyma rywun arall sydd ddim yn gwybod sut i gyfieithu ‘Welsh’ i olygu’r wlad nid yr iaith.

Mae Ci Cymraeg yn mynd i dudalen ymgyrch adnabyddus Bwrdd yr Iaith ond mae Cymraeg Ci yn mynd i wefan am gorgwn. Aww!

Cymraeg Clir – nid oes Cymraeg ar y dudalen hon, mae e’n glir.

A dyna ddigon o hynny am nawr..

Noson Gwylwyr S4C

Mae yna lawer o drafodaeth ynglyn a dyfodol S4C yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ond dwi’n credu fod peryg nawr o ddrysu dau fater wahanol, sef cyllido’r sianel a’i chynnwys.

Fe drefnwyd rhaglen arbennig ‘Noson Gwylwyr’ (sydd ymlaen heno) gan S4C ymhell cyn y cynlluniau presennol i gyllido S4C drwy’r drwydded teledu.

Mae ffynhonnell a maint cyllid y sianel yn fater gwleidyddol a mae angen trafodaeth ar wahan ar gyfer hynny, mewn cyd-destun ehangach a phenderfyniad ar bwy sy’n rheoli materion darlledu yng Nghymru. Dwi wedi ebostio S4C i ofyn iddyn nhw beidio trafod y cyllid heno neu o leia gyfyngu ar y drafodaeth hynny.

Beth sy’n bwysig i’r gwylwyr yw beth sydd yn ymddangos ar y sgrîn ac os oes rhaglenni atyniadol sy’n ddifyr a gafaelgar. Pwy bynnag sy’n ariannu S4C mi fydd toriadau yn digwydd beth bynnag a dwi’n sicr fod posib arbed arian mewn nifer o feysydd (mae nifer o fewn y diwydiant wedi sôn am y gwastraff arian sydd wedi bod dros y blynyddoedd).

Mae angen i’r sianel ail-edrych ar sut mae nhw’n comisiynu rhaglenni. Dwi’n credu fod comisiynwyr y sianel a rhai cynhyrchwyr wedi mynd yn ddiog a hunan-foddhaol. Mae hyn yn ddatblygiad naturiol mewn unrhyw gorff sydd yn fonopoli. Does gan S4C ddim cystadleuaeth na chymhelliad allanol i wasanaethu’r gynulleidfa yn well – efallai fod angen edrych am ffyrdd y gall syniadau am raglenni Cymraeg gael eu cynhyrchu tu allan i S4C.

Does dim rheswm o gwbl pam na allai’r Cynulliad ei hun ddechrau sianel deledu ei hunain (heblaw arian a’r cymhelliad gwleidyddol wrth gwrs). Mi fyddai’n ddrud darlledu sianel yn y ffordd draddodiadol (ar Freeview/Sky) ond mae digon o ffyrdd eraill i ddosbarthu cynnwys ar lein fyddai’n cyrraedd cynulleidfa byd-eang gyda mwy o wylwyr potensial na S4C. Does dim rhaid trio creu sianel llinol o 7am-12am, ond yn hytrach rhoi cyfle ysgrifennwyr, cyfarwyddwyr, perfformwyr a phobl greadigol eraill i arbrofi.

Un o fy hoff gyfresi yn y 90au oedd sioe ‘Adam & Joe’ a gafodd ei wneud ar gyllid bach iawn a’i ddarlledu mewn slot ‘arbrofol’ ar Channel 4. Roedd y gyfres yn dibynnu ar greadigrwydd dau unigolyn, syniadau gwych, golygu slic a dim byd mwy na hynny. Oes yna bobl yr un mor greadigol yng Nghymru? Dwi ddim yn gwybod – mae yna rai enghreifftiau prin iawn ar YouTube ond os oedd hi’n bosib rhoi cyngor, arweiniad ac ychydig bach o gymorth technegol mae’n bosib fydden ni’n gwybod yr ateb.

Beth bynnag, fe gawn ni weld heno os ydi S4C wir wedi ei ‘deall hi’ neu a fyddan nhw’n parhau yn yr un rhigol.