Symud sianel #2

Fe roedd Elinor o Ofcom ar Wedi 7 heno a wnaeth hynny fy atgoffa i o’r sefyllfa sy’n dal i barhau gyda S4C Digidol.

Yn syml, does dim byd wedi newid, 6 wythnos ar ôl y newid – mae ansawdd y llun dal yn warthus. Fe ddigwyddodd union yr un peth i sianel Five wnaeth symud i Mux 2 ar 30ain o Hydref. Fe wnaeth y cwynion i Five ddatrys y broblem o fewn pythefnos er fod ansawdd y lluniau yn dal i fod llawer gwaeth nag o’r blaen. Mae’n debyg mai dim ond ychydig o gîcs oedd wedi sylwi ond dyw hynny ddim yn esgus dros dderbyn y sefyllfa.

Fel o’n i’n disgwyl, dyw cwyno at S4C ac Ofcom ddim wedi datrys y broblem o gwbl. Dwi wedi derbyn cydnabyddiaeth gan swyddfa Ofcom Cymru ond dim esboniad na unrhyw arwydd fod unrhyw newid am ddigwydd. Efallai fod hyn yn dangos diffyg statws S4C a Ofcom Cymru o fewn y fframwaith darlledu digidol.

Efallai fod angen mwy o bobl i gwyno efallai – felly os ydych chi eisiau gwneud, darllenwch y cefndir yna cysylltwch ag S4C ac Ofcom.

Symud sianeli

Dwi’n parhau i sgrifennu am sefyllfa S4C ar Freeview (a pam lai, sneb arall yn gwneud) ond mae gen i ychydig fwy o wybodaeth nawr. Mae’r newid yn un technegol iawn a rhywbeth na fyddai rhan fwyaf o wylwyr yn sylwi arno efallai ond mae’n werth codi’r pwnc yr un fath.

Heddiw roedd angen i bawb ar draws gwledydd Prydain ail-diwnio eu offer Freeview. Pwrpas y symud oedd sicrhau fod y prif sianeli (yn ystyriaeth Ofcom) ar gael i bawb, a roedd hynny yn golygu naill ai amlblecs ‘Mux 1′ (sy’n llawn o sianeli’r BBC) neu ‘Mux 2′.

Fel rhan o hyn, roedd sianel Five yn symud i amlblecs Mux 2 (sef yr union yr un peth a wnaeth S4C ar y 9fed o Fedi). Mae ansawdd llun Five wedi dirywio yr un fath a S4C, a mae llawer mwy o gwyno am hynny fel y fyddech chi’n disgwyl. Yr ateb yw fod cydraniad (resolution) y darllediad wedi newid.

Y safon darlledu ar gyfer teledu digidol cyffredin ym Mhrydain yw PAL D1 sef 720×576 picsel mewn ffurf anamorffig (delwedd 16:9 sy’n cael ei recordio ar ffurf 4:3). Mae hyn yn cael ei ehangu ar y teledu yn ôl i’w faint llawn ar sgrîn lydan.

Am rhyw reswm mae’r lluniau ar Mux 2 yn cael eu darlledu gyda cydraniad o 544×576 picsel. Er fod hyn yn dderbyniol ar gyfer rhai sianeli mae’n debyg fod hyn yn erbyn safonau technegol Ofcom ar gyfer y prif sianeli cyhoeddus. Mae’r llun isod yn dangos y gwahaniaeth mewn maint y llun cyn ac ar ôl y newid, sy’n esbonio pam fod llawer llai o fanylder yn y llun presennol.

Newid cydraniad lluniau S4C

Ie, dwi wedi dewis Angharad Mair fel y llun esiampl er mwyn dangos un o ‘wynebau S4C’ yn cael ei gwasgu.

Nawr mae’n debyg y bydd y sefyllfa yn cywiro ei hun dros amser, efallai erbyn 2010, wrth i’r newid digidol barhau a bod ychydig fwy o ofod yn cael ei ryddhau. Gobeithio y bydd S4C a Five nôl i’w ansawdd llawn erbyn hynny ond mae’n rhywbeth fydd rhaid cadw golwg arno.

S4/Cywasgu Digidol

Fe wnes i sôn mewn cofnod blaenorol ynglŷn a dirywiad ansawdd lluniau S4C. Mae’n eitha anodd disgrifio y newid heb wylio deunydd wedi ei recordio cyn ac ar ôl y newid. Felly dwi wedi creu graff sy’n dangos y newid yn gliriach.

I esbonio’r cefndir yn syml, mae casgliad o sianeli yn cael eu darlledu ar un amlblecs a mae’r lluniau yn cael eu cywasgu er mwyn gwneud defnydd effeithiol o’r gofod cyfyngedig. Mae cyfradd data (didradd) unrhyw sianel yn newid yn sylweddol gan ddibynnu ar pa mor llonydd neu brysur mae’r llun. Mae pob sianel yn gosod isafswm ac uchafswm ar ei didradd nhw. Mi ddylai hyn sicrhau fod y llun bob amser o safon derbyniol ond heb fod yn farus drwy gymryd yr holl ofod ar yr amlblecs.

Mae’r isafswm ac uchafswm yn amrywio yn ôl pwysigrwydd y sianel fel arfer. Mae llawer o’r sianeli “+1″ a sianeli siopa masnachol yn fodlon gweithredu ar ansawdd gwaeth oherwydd nad ansawdd y llun sy’n bwysig.

At y graff felly (cliciwch arno am olwg yn fwy)

Didradd sianel Freeview

Mae’r graff yn dangos sut mai ‘uchafswm’ didradd S4C wedi dirywio ers symud i amlblecs ‘Mux 2′ ar y 9fed o Fedi 2009. Roedd yr uchafswm blaenorol tua 7,000 Kbps sy’n hynod uchel (yn fwy na’r BBC). Dyw hyn ddim yn syndod am fod S4C yn arfer darlledu ar yr amlblecs ‘rhodd’ oedd wedi ei wobrwyo i S4C gan Ofcom fel rhan o ddatblygiad teledu digidol. Ond sylwch fod yr isafswm yn isel – tua hanner y prif sianeli eraill.

Fe wnes i gymryd y mesuriadau yma dros gyfnod o 30 munud ar adegau tebyg o’r dydd am fod y cyfradd yn gallu newid yn sylweddol drwy’r dydd ac yn ystod rhaglen.

Ar ôl 9/9/9 fe ddisgynnodd yr isafswm i tua 500 Kbps, lle mae gan y sianel eraill isafswm o 1,500 Kbps. Yn yr wythnosau diwethaf mae hyn wedi codi yn ôl tuag at 800 Kbps.

Y newid mwya yw fod yr uchafswm wedi disgyn yn sylweddol – mae e nawr o dan 4,000 Kbps a mae hyn yn effeithio ar y cyfartaledd, sydd tua 2,000 Kbps. Mae hyn yn ofnadwy o isel ar gyfer cywasgiad MPEG-2, fel y gwelwch chi o gymhariaeth gyda’r sianeli eraill.

Felly yn ei leoliad newydd ar Freeview mae S4C Digidol yn sianel israddol a dwi ddim yn gweld fod gan S4C llawer o reolaeth yn y mater gan nad ydyn nhw bellach ar yr amblecs y wobrwyd iddynt gan Ofcom yn y lle cynta. Y cwestiwn yw – oes yna unrhyw un ar ôl yn y byd darlledu sy’n poeni am safonau technegol?

Ansawdd lluniau S4C yn dirywio

Wythnos ddiwethaf fe wnaeth sianel S4C Digidol symud lleoliad ar wasanaeth Freeview. Yr esboniad technegol yw fod y sianel wedi symud o amlblecs masnachol ‘Mux A’ i amlblecs ‘Mux 2′ sydd ar gyfer sianeli PSB. Mae’n rhaid cario Mux1/2 ar bob trosglwyddydd yn cynnwys y ‘relays’ llai, ond does dim rheidrwydd i wneud hynny ar gyfer yr amlblecs masnachol.

Mae’r newid i weld yn beth da felly, gan ei fod yn cynyddu cyrhaeddiad y sianel i wylwyr ym mannau anghysbell Cymru. Yn anffodus mae S4C nawr yn rhannu lle gyda holl sianeli ITV a Channel 4, a mae’n ymddangos fod ganddo llai o ofod nag o’r blaen.

Canlyniad hyn yw fod ansawdd y llun wedi dirywio yn amlwg, gyda llun llawer mwy ‘meddal’ a mwy o ‘blocio’ gyda sgîl-effeithiau cywasgiad MPEG-2 yn digwydd yn aml.

Mae ansawdd yr unig sianel Gymraeg nawr yn ddim gwell na rhai o’r sianeli siopa neu sianeli “+1″. Felly dwi’n gweld S4C yn cael ei drin fel sianel israddol ar draul sianeli gweddol di-bwynt sydd ar yr un amlblecs fel Channel 4+1 neu ITV2/3/4.

Fe wnes i gwyno am hyn i Wifren Gwylwyr S4C a fe ges i ymateb prydlon gan aelod o adran beirianneg S4C. Mae ganddyn nhw bryderon hefyd ynglŷn a ansawdd y llun a fe fyddant yn “medru man-diwnio yr MPEG encoding dros y misoedd nesaf”. Mae’n wir ei fod yn bosib gwneud tipyn o welliannau drwy ddefnyddio caledwedd amgodi newydd a tiwnio y proffil ar cyfer cywasgu y lluniau i MPEG-2.

Yn anffodus, mae hyn yn esiampl o nodweddiadol o sut mae’r diwydiant darlledu yn datblygu yn sgîl technolegau digidol – mae pwysau ar bawb i wasgu fwy a fwy o sianeli i’r un gofod ar draul ansawdd. Er fod ‘Mux 2′ ar gyfer sianeli ‘darlledu cyhoeddus’, sianeli masnachol ydyn nhw gyd sydd yn dibynnu ar hysbysebion – pob un heblaw am S4C wrth gwrs. Mae lle i ddadlau y dylai S4C fod ar amlblecs y BBC ond mae’n siwr fod rhesymau technegol/gwleidyddol dros beidio gwneud hynny.

Mi fydd S4C HD yn lansio mis Mawrth nesaf ar Freeview (unwaith i Cymru gyfan newid i ddigidol) a mi fydd hynny yn cynnig llun o ansawdd uchel iawn unwaith eto. Dwi’n edrych ymlaen at hynny, ond wrth gwrs ni fydd S4C HD ar gael i bawb yng Nghymru ar Freeview a fe fydd angen prynu cyfarpar newydd (eto) i’w wylio.

Dwi’n gobeithio y bydd rhyw ffordd o wella lluniau S4C yn ôl i’r ansawdd gwreiddiol a wnai drio rhoi enghreifftiau ar y blog cyn bo hir i ddangos y newid.

Golwg nôl

Dwi ddim wedi gwneud unrhyw sylw am wasanaeth Golwg 360 ers tipyn am mod i’n disgwyl i weld sut y fyddai’r gwasanaeth yn datblygu, ond mae’n werth edrych nôl ar beth sydd wedi digwydd ers y ‘lansiad’ (yr un cynta ar 15 Fai 2009, nid yr ail yn y Senedd a nid y trydydd pan fydd y wefan yn lansio go-iawn, rhywbryd cyn diwedd 2011?).

Yn fuan iawn ar ôl lansio fe welwyd y problemau technegol a fe gafwyd rhain eu trafod yn helaeth ar Faes-e, Twitter ac amryw o flogiau ynghyd a llefydd eraill siwr o fod nad ydw i’n ymwybodol ohonynt.

Fe roedd tri elfen i’r trafodaethau yma:

  1. Rhwystredigaeth gyda problemau technegol y wefan
  2. Sylwadau am ansawdd y gwaith dylunio a technegol ar y wefan
  3. Beirniadaeth am natur yr erthyglau, safon y newyddiaduraeth a’r gwaith golygu

Fe roedd 1 yn deillio yn uniongyrchol o 2, ond fe drwsiwyd y broblem yn yr wythnos neu ddau gynta. Er hyn mae’r problemau technegol sylfaenol yn y wefan yn dal i achosi problemau i bobl ar adegau, yn enwedig os yw rhywun yn dilyn dolen i’r wefan wedi eu gopïo o ‘sesiwn’ rhywun arall (er enghraifft, dilynwch y ddolen yma). O ran rhif 3, mae’n hawdd addasu arddull y testun ar ôl derbyn adborth – dyw hi ddim mor hawdd trwsio problemau sylfaenol o fewn gwefan heb ei ail-ddatblygu o’r dechrau.

Ychydig iawn o sylw roddwyd i’r problemau yma gan y cyfryngau torfol yn gyffredinol a roedd y BBC yn amlwg yn petruso dros grybwyll y stori am resymau golygyddol/gwleidyddol. Roedd y rhithfro yn llawer mwy ‘rhydd’ i roi sylwebaeth di-duedd ac eitha manwl o ffaeleddau technegol y wefan a felly yn wasanaeth gwerthfawr ar adeg lle’r oedd cyfryngau torfol yn anwybyddu neu osgoi y stori.

Er hyn fe gafwyd un stori yn y Daily Post yn sôn am y problemau technegol. Rhaid hefyd diolch i Vaughan Roderick am rhoi sylw i’r mater ar ei flog er y ‘sensitifrwydd’ o wneud hynny.

Gyda llaw, mae’n werth edrych nôl ar gofnod Vaughan am y datganiad gwreiddiol lle roedd llywodraeth y Cynulliad yn datgan faint o arian fyddai ar gael ar gyfer datblygu gwasanaeth newyddion dyddiol yn Gymraeg. Mae’n bosib gweld lle ddechreuodd trafferthion Golwg yn y lle cynta. Mae’n cynnwys sylwadau perthnasol fel “Ydy’r £600,000 yn seiliedig ar unrhyw gynllun busnes?” (nac oedd yn amlwg) a “Pwy arall tybed? Mae Golwg yn gwadu”. Ie wir?

Tra roedd y cyfryngau yn anwybyddu’r mater, fe wnaeth gwefan cachu360 ymchwilio i ddatblygiad y wefan a dod o hyd i’r cysylltiad gyda cwmni datblygu gwefannau o India. Gyda chaniatad, fe wnes i wneud copi statig o’r wefan am fod y wefan ei hun am gau lawr.

Yn y cyfamser, roeddwn i wedi mynd ati i greu porthiant RSS a chyfrif Twitter ar gyfer lledu’r erthyglau o Golwg 360 a mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Ar ddiwrnod y ‘lansiad’ y wefan yn y Senedd (3 Mehefin 2009), fe gafwyd adroddiad gan Aled Scourfield ar newyddion S4C yn sôn fod y gwaith wedi ei wneud gan ‘gwmni arall’ heb ddatgelu unrhyw fanylion. Er hyn, roedd yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad wedi defnyddio canfyddiadau cachu360 a chyfraniadau eraill o’r we. Fe godwyd nifer o gwestiynau hefyd gan Alun Cairns ar y diwrnod yma sydd wedi ei nodi yn y stori yma.

Gyda’r cwestiynau wedi eu codi yn y Senedd, fe wnaeth Alun Ffred gyhoeddi ddoe ei fod wedi gofyn i’r Cyngor Llyfrau am adroddiad ynglyn a’r problemau. Dwi’n gobeithio y fydd yr adroddiad yn ystyried mwy na dim ond y problemau technegol cychwynnol. Mae yna nifer o gwestiynau pwysicach i ofyn o ran sut aeth Golwg ati i ddatblygu’r wefan, sut dyfarnwyd y gwaith ac ati.

A dyna ni wedi cyrraedd heddiw, lle mae Golwg Newydd Cyf wedi gwneud datganiad sy’n codi cwestiynau pellach. Mae Golwg wedi pwysleisio nad oes unrhyw ‘arian cyhoeddus’ wedi ei ddefnyddio i greu y wefan, sydd yn swnio fel ‘bargen’ i bobl lleyg efallai. Ond mae’n gysyniad gwbl naïf i unrhyw un sydd wedi datblygu gwefannau ac efallai mai dyma’r rheswm pam fod datblygiad wedi y wefan wedi cael gymaint o drafferthion.

Does dim un cwmni (yng Nghymru neu India) yn gallu gwneud gwaith safonol ‘am ddim’ a fe fyddai wedi bod yn gwell buddsoddiad o arian cyhoeddus i neilltuo cyllid penodol i adeiladu’r wefan yn broffesiynol. Wedi’r cyfan, conglfaen y cais am yr arian gan Golwg Newydd oedd creu gwefan gyda newyddion dyddiol a felly roedd angen cyllido ar gyfer datblygu gwefan gyda cynsail technegol gadarn ar gyfer y dyfodol.

Yn amlwg, fe gafodd Tinopolis y bai am y wefan er mai’n amlwg erbyn hyn nad nhw wnaeth y gwaith datblygu. Dyna’r siawns mae unrhyw gwmni yn gymryd wrth is-gontractio gwaith ac os oedd Golwg/Tinopolis wedi bod yn onest o’r dechrau ynglyn a hyn, mae’n bosib fe fyddai llai o embaras a pwyntio bysedd wedi digwydd. Er hyn fe wnaeth Tinopolis gymeryd y cyfrifoldeb o lunio manyleb technegol (specification) a nhw hefyd ddylai fod wedi bod yn cadw golwg ar y gwaith datblygu o’r dechrau i’r diwedd i wneud yn siwr fod yr is-gontractwr yn gwneud y gwaith yn iawn. Os oedd y wefan wedi ei ddatblygu yn dda – mae’n sicr mai Tinopolis fyddai wedi cymeryd y clod er mai is-gontractwr oedd wedi gwneud y gwaith. Mae’n anodd teimlo rhy’n flin dros Tinopolis felly.

Fe ddaeth hi hefyd yn amlwg fod cwmni arall – TV Everywhere – wedi cymryd y cyfrifoldeb o ‘reoli’ y gwaith o adeiladu’r wefan a wedi is-gontractio y gwaith datblygu i gwmni Indinfotech o India. Mae’n anodd credu nad oedd Golwg a Tinopolis yn ymwybodol o hyn. Os nad oedden nhw’n gwybod neu’n poeni am bwy oedd yn gwneud y gwaith datblygu, mae’n dangos tipyn o naïfrwydd ar eu rhan nhw.

Roedd cwmni TV Everywhere yn cael eu redeg gan Iolo Jones, er fod y cwmni mewn trafferthion am nad yw wedi cofnodi cyfrifon gyda Tŷ’r Cwmniau. Erbyn hyn mae Mr Jones wedi gadael ei swydd fel cadeirydd cwmni Telesgôp, un arall o’r ‘partneriaid’ yng ngwasanaeth Golwg 360.

Un peth sy’n amlwg i mi o’r ffars yma yw nad yw rhedeg busnes ar sail rhyw cynghrair llac o ‘bartneriaid’ yn gweithio’n dda iawn. Gwnewch fusnes ar sail cytundebau cadarn rhwng cwmnïau, a mae digon o sgôp i drafod ‘noddiant’ neu dermau ffafriol er mwyn arbed arian h.y. gwneud y gwaith ar sail costau a nid elw.

Dwi’n edrych ymlaen i weld beth fydd ymateb y Gweinidog Diwylliant yn y pendraw a hefyd rhaglen Y Byd Ar Bedwar sydd yn debyg o roi sylw i’r mater cyn bo hir.