Archif ar gyfer Categori 'Blogiau'

Crochenwaith

Monday, November 14, 2005 14:18

Dyma flog newydd gan y cerddor, actor, cyfarwyddwyr (a boi cŵl) - Gareth Potter. Mae’n braf gweld cyfraniadau mwy swmpus fel yma yn y rhithfro yn enwedig o ystyried natur bersonol a thrist y cofnodion cynta. Mae gan Gareth flog arall hefyd sef Caru/Casau.

Chris yn y Car

Tuesday, November 8, 2005 00:08

Mae Chris wedi fy herio i fynd ati i eto ail-gymysgu eu eiriau doeth. Wel dyma ymgais arall, mewn un awr o whare’ ambyti. Mae’r samplau yn dod o bost diweddaraf Chris wnaeth e tra’n gyrru i’r gwaith. Mae’r lŵps cerddorol yn dod o drac ‘Yr Oerfel Fawr’ (Chris talentog arall - mae fwy o [...]

Chris Mics

Thursday, November 3, 2005 23:01

Dwi’n mwynhau darllen a gwrando ar flog Chris Cope yn fawr iawn. Wrth ddal i fyny gyda rhai o’i negeseuon heno wnes i ystyried pa mor sampladwy yw ei ‘bostiau clywedol’, yn enwedig gyda’r newid sydyn o acen Cymraeg i saesneg Americanaidd.
Felly es i chwarae am ryw awr i greu trac bach syml munud o [...]

Podledu

Tuesday, October 25, 2005 16:25

Newydd fod yn gweithio ychydig ar wefan Podledu a ysgrifennu tudalen ar gyfer Radio Amgen - tra’n gwneud bach o ymchwil wnes i ddarganfod blog Graffiti Cymraeg sy’n cynnwys podlediad. Ddim cweit y podlediad Cymraeg cyntaf ond beth yw ychydig ddyddiadau rhwng ffrindiau?
Fel mae’r blog yn esbonio, er mai Cymraeg yw iaith y cyflwyniad, cerddoriaeth [...]

Chwiliad Blog

Thursday, September 15, 2005 11:32

Mae Google wedi lansio ei chwiliad blog - er fod canlyniadau wedi eu cynnwys fel rhan o chwiliad arferol Google ers peth amser. Oes, mae cyfieithiad Cymraeg o hwn ar gael ond mae’n edrych fel nad yw Google wedi troi’r ieithoedd arall ymlaen eto.
Be sy’n werth nodi yw pa mor gyflym mae Google yn diweddaru [...]