Bloglines yn cau lawr

Dwi wedi bod yn defnyddio Bloglines i ddarllen crynodeb o flogiau a newyddion ers 2004 (pan wnaeth Nic ei grybwyll fan hyn). O’n i’n hapus iawn gyda’r gwasanaeth a roedd e’n hwylus iawn.

Mae e wedi bod yn amlwg ers tipyn nad oedd perchennog y cwmni (Ask.com) yn ymroddgar iawn i’r gwasanaeth (does dim tâl i’w ddefnyddio a dwi ddim yn siwr os oedden nhw’n gwneud unrhyw arian ohono). Roedd ‘gwallau mewnol’ yn ymddangos drwy’r amser a dwi’n sylwi erbyn hyn mod i wedi bod yn colli llawer iawn o gofnodion.

Mae Bloglines yn cael ei gau ar Hydref 1af a maen nhw’n rhoi’r bai ar Twitter a Facebook. Dwi ddim wedi fy argyhoeddi gyda eu dadl nhw – efallai mai esgus yw e.

Beth bynnag, wnes i roi cynnig ar Google Reader yn 2005 a 2007 a doeddwn i ddim yn ffan (mae cofnodion maes-e yn ddefnyddiol iawn i gofio’r pethe ‘ma). O’n i’n gyndyn o newid i’r gwasanaeth hwn gan Google, a mi wnes i dreulio peth amser yn rhoi cynnig ar wasanaethau amgen fel Feed Bucket ac Alesti.

Yn y diwedd, wnes i benderfynu mai Google Reader oedd y wefan mwya hwylus a defnyddiol – dwi wedi symud ar draws ers tua wythnos a dwi’n eitha hapus.

Yn ôl logiau’r gweinydd, mae tua 15 o danysgrifwyr yn defnyddio Bloglines o hyd. Felly os ydych chi heb symud o Bloglines eto alla’i argymhell symud i Google Reader, ond dwedwch os oes yna wefannau arall sydd hyd yn oed yn well!

Porthddwl

Dwi’n eitha hoffi gwefan gymunedol ‘gwe 2.0′ Heddlu Gogledd Cymru. Mae’n edrych fel fod prif swyddogion a heddweision cymunedol yn cyfrannu i’r wefan. Yn anffodus felly, does dim cynnwys Cymraeg i’w weld yno, ddim hyd yn oed ar flog y prif gopyn (oedd ar gael yn Gymraeg yn wreiddiol dwi’n siwr).

O edrych ar yr ychydig o Gymraeg sydd ar y wefan, y gair wnaeth daro fi oedd ‘Porthol’. Pwy ddiawl sydd wedi cyfieithu hwn ‘te? Porth yw’r cyfieithiad arferol o ‘portal’, ond mae’n edrych fel petai rhywun wedi edrych yn ei Briws, gweld ‘porthol’, ac anwybyddu’r Anat sy’n golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y maes anatomeg.

Radio curiad

Dwi wedi bod yn arbrofi gyda darlledu ar-lein. Fel cam cyntaf dwi wedi agor gorsaf radio 24/7 i gerddoriaeth Cymraeg. Mae gen i gasgliad o mp3s Cymraeg wedi ei llwytho lawr o wefannau bandiau, rhai clasuron a rhai diweddar iawn. Wedyn wnes i wneud ‘rhestr chwarae’ o rhain i gyd – 8 awr a hanner i gyd. Mae’r rhestr yma yn chwarae ar hap drwy’r amser. Dim DJs crap, dim siarad gwag, jyst cerddoriaeth amrywiol.

Os ydych chi’n gwrando ar hwn, a dechrau syrffedu ar yr un traciau yn dod lan o hyd, mi fydd rhaid i fi chwilio am fwy o ffeiliau i ychwanegu i’r llyfrgell. I wrando ar y ffrwd mae angen chwaraewr mp3 a agor y cyfeiriad yma – http://radio.curiad.org:8000/byw.m3u ynddo.

Dwi’n gwybod fod y meddalwedd yma yn gweithio: WinAMP, XMMS, Windows Media Player. Mae rhai yn well na’i gilydd am ddangos manylion y traciau sy’n chwarae ar hyn o bryd. Hoffwn i wybod os ydych chi’n llwyddo gwrando ar yr orsaf drwy unrhyw feddalwedd arall.

Cyfryng-hwr

Mae aelodau’r Rhithfro yn hoff o ymddangos ar y cyfryngau. Mae Dogfael a Rhodri wedi ymddangos ar Wedi 7 , fe wnaeth Rhys fodelu dillad ar BBC Breakfast, mae Geraint wedi gwneud un neu ddau ymddangosiad ar S4C a mae Nic bron a bod yn gyfryngi llawn amser. Sôn wedyn am Radio Cymru, fe wnaeth Ray gyfweliad wythnos yma ond mae Chris yn hen law ati.

Fi? Dwi’n hoffi gwneud pethau ychydig yn wahanol. Wnes i ymddangos ar BBC1 Wales neithiwr tua 19.47 am 2.3 eiliad. Showbiz! Dyma lun:
fi