Heddlu’n saethu?

Mwy o benawdau amwys gan newyddion y BBC – “Mwy o heddlu wedi saethu“. Pan weles i hwnna yn y darllenydd RSS feddylies i “wedi saethu beth?”, wedyn o’n i’n meddwl mai “wedi’u” oedd e fod a mai sôn am rhyw gyflafan o heddweision wedi’u saethu rhywle.

A pan es i i’r stori lawn i weld be ddiawl o nhw’n feddwl ges i ffenest bach yn dod fyny a dweud “Helpwch ni i gadw ein bys ar y pyls.”. Pa byls? Oes rhywun yn anymwybodol? Fydd rhaid i fi wneud CPR? Dwi’n drysu..

A dyma’r newyddion…

Mae’r BBC wedi ryddhau fersiwn hir o gerddoriaeth agoriadol News 24. Dwi’n caru stwff fel hyn – mae cyfansoddiadau David Lowe yn wych. Mae’n cyfleu hunan-bwysigrwydd ‘Y Newyddion’ i’r dim gyda awgrym o goegni – sylwch gymaint o swooshes, blîps bach a drym riffs sydd yn cael ei wasgu fewn erbyn hyn. Dwi’n meddwl fod y thema newydd yn cyrraedd yr un lefel o wychrwydd o’r cyfnod ‘drymiau a baneri‘.

Wythnos Byw’n Iach

Mae Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach yn cael ei gynnal wythnos nesaf, yn cael ei drefnu gan grŵp o aelodau’r Cynulliad. Does dim fersiwn Gymraeg ond fel mae nhw’n dweud, dy’n nhw ddim yn rhan o’r Llywodraeth felly ‘sdim ots nag os?

Ond fel mae sylw gan yr Atal Genhedlaeth yn dangos, efallai nad yw hyn yn beth drwg – edrychwch ar y ffeil PDF yma. Er enghraifft, mae’r teitl “Ever felt there are things you should change to improve your health?” yn cael ei gyfieithu i “Byth ffeltio mae na pethau dylet chi newid I gwella eich iechyd?“. Creadigol iawn ond ddim cystal â fersiwn Tranexp – “Bob amser balfaledig mae bethau ddylasech chyfnewid at gwella ‘ch hiachâd?

Llyfr ffôn BT

Mae BT wedi lansio fersiwn Gymraeg o’i gwasanaeth ‘llyfr ffôn’ ar y we.

Doedd fy chwiliad cynta arno ddim yn rhyw lwyddiannus iawn:
Sgrîn-lun o Llyfr Ffôn BT

Mae’n rhwydd lansio gwefannau gyda wyneb Cymraeg – peth anoddach yw lansio gwasanaethau sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl Alun Pugh mae BT “yn enghraifft dda o gwmni sy’n dangos y ffordd yn nhermau’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig yn y ddwy iaith”. Yn anffodus Alun, dilyn mae BT wedi gwneud erioed, nid arwain.