Stori’r Byd

Mae’r Cymry yn hoff iawn o siarad, o bwyllgora, ac o beidio mentro gyda unrhywbeth heblaw fod rhyw grant ar gael. Dyma saga trist Y Byd:

Mae’n amlwg iawn mai academydd sydd wedi bod yn gwthio cynllun Y Byd, a nid entrepreneur. Mae gan academyddion yr holl amser yn y byd i gynllunio, trafod a threfnu. Yn y byd masnachol, mae’n rhaid cymryd y cyfle mor fuan a phosib gan fod y byd yn newid drwy’r amser. Yn 2001 roedd sefydlu papur dyddiol newydd yn ychydig o anachronism gyda dyfodiad y we, a mae’r syniad hyd yn oed yn fwy gwallgo heddiw.

Erbyn hyn, mae cylchgrawn Golwg yn sôn am sefydlu gwefan newyddion dyddiol. Sgwn i a fydd hwn yn gweld golau ddydd cyn diwedd y ddegawd?

Marwolaeth tywysog Harri

Wythnos nesa mi fydd y cerflunydd dadleuol Daniel Edwards yn arddangos ei gerflun newydd sy’n ‘coffau’ y tywysog Harri a’r ffaith na aeth allan i Iraq gyda gweddill ei gatrawd.

Fel darn o gelf mae’n bryfoclyd a wedi creu digon o ymateb. Mi fyddai nifer o bobl yn galw’r cerflun yn sarhaus, ond i fi, y peth mwya sarhaus yw’r ffaith fod y cerflun yn portreadu Harri yn dal baner Cymru yn ei law.

Di-wifr, o ddifri

Mae’r garfan ‘hetiau tin-ffoil’ wrthi eto yn lledu ofn ynglŷn a technoleg di-wifr. Does dim tystoliaeth fod unrhyw niwed yn deillio o’r dechnoleg ond rhaid meddwl am y plantos!

Mae ymbelydredd electromagnetic llawer mwy pwerus wedi ei ddar-lledu o fastiau radio, teledu, lloerennau ac ati ers degawdau a does dim galw am wahardd rheiny, na unrhyw dystoliaeth eu bod yn effeithio ar iechyd unrhyw un. Mae un cyn-athrawes yn dweud y dylai lleoli’r bocs di-wifr mor bell i ffwrdd a phosib o’r plant ac i droi’r pŵer i’w isafswm. Fe ddylai hi fynd yn ôl i’r ysgol efallai i gael gwers Ffiseg ac i ddysgu ychydig am Electroneg.

Y pella oddi wrth y cyfrifiaduron mae’r mast, y mwya pwerus sydd rhaid iddo fod i drosglwyddo’r signal yn gywir. Felly i fod yn ‘saff’, fe ddylai’r mast fod mewn lleoliad canolog mor agos i’r cyfrifiaduron a phosib. Mae’r electroneg o fewn y cyfrifiaduron ac o fewn yr uned ganolog yn gweithio ar y cryfder lleia posib yn barod, er mwyn arbed egni. Yn wir rhaid mynd allan o’ch ffordd i newid cryfder y signal.

Mae un peth yn wir – mae’r defnydd o dechnoleg di-wifr mewn ysgolion ychydig yn amheus, er mwyn dilyn ffasiwn heb lawer o reswm. Mae yna fanteision o allu symud gliniaduron neu gyfrifiaduron o gwmpas heb orfod poeni am osod gwifrau ar gyfer rhwydwaith, a mi all arbed peth arian. Er hyn, mae yna ychydig o economi ffug yno – mae yna gost uwch am osod gwifrau ym mhob stafell ond mi all gosodiad safonol fod yn addas am 10 mlynedd neu fwy, tra fod technoleg di-wifr yn newid bob rhyw 3 blynedd a ni fydd byth mor gyflym a chysylltiad gwifrog. Mae rhwydwaith gwifrau yn rhwydd i’w wneud yn ddiogel hefyd tra fod bob amser posibilrwydd o hacio fewn i rwydwaith di-wifr.

Dwi’n amau fod llawer o’r dechnoleg sy’n cael ei gyflwyno i ysgolion yn cael eu gwthio gan gwmnïau masnachol a fod yr adrannau addysg a’r penaethiaid yn falch o gael brolio am eu technoleg ‘modern’ a gafwyd am bris bargen. Ond os wir eu hangen?

ymgyrchchwaraedysgutyfucymru

Mae lansiad yr ymgyrch ‘Chwarae Dysgu Tyfu’ gan y Cynulliad yn enghraifft dda o sut i beidio trefnu ymgyrch aml-gyfrwng. Ni fydde’r hysbysebion teledu cawslyd ddim yn rhy ddrwg heblaw’r ffaith fod y fersiwn Cymraeg yn edrych fel petai e wedi cael ei ddybio’n wael.

Dyddie ‘ma, y cyfeiriad gwe yw’r peth pwysica mewn hysbyseb o’r fath, a mae nhw wedi dewis dangos chwaraedysgutyfucymru.gov.uk – sydd ddim yn bodoli, er y galle weithio. Mae angen y www ar y blaen i fod yn gywir. Hyd yn oed wedyn mae’r cyfeiriad yn anodd i’w gofio – wnes i gymryd tri cais cyn cael yr un iawn (a roedd hynny gyda’r fantais o allu edrych lan y cyfeiriad yn y DNS). Beth sydd yn bod gyda cymru.gov.uk/chwaraedysgutyfu ? Neu cymru.gov.uk/chdt ?

Dyw’r wefan ei hun, pan ddewch chi o hyd iddi, ddim yn ddrwg, heblaw am ychydig o wallau fel ‘Home’ a ‘Lincs’ (o’n i’n meddwl fod ni wedi penderfynu ar ‘Dolenni’ ers o leia 1995? Mi fyddai ‘tudalennau’ neu ‘cynnwys’ hyd yn oed yn well am eu bod yn ddolennau mewnol).

Ond beth sy’n sefyll mas ar y dudalen flaen i fi yw’r cwestiwn annealladwy os nad amheus “Ydych chi’n am drin plant?”

hafan

Pot Nwdls

Weithiau mae’r Cymry yn cael eu portreadu fel twpsod di-hiwmor sy’n methu cymryd jôc. Weithiau dwi’n cytuno fod hyn yn wir, o weld heddiw fod 37 o gwynion wedi’u derbyn am hysbyseb dychanol Pot Noodle – gan bobl nad oedd yn digon deallus i sylwi fod yr hysbyseb yn hwneud hwyl am ben ystrydebau o Gymru.