S4C mewn manylder uwch

Dyw e ddim yn syrpreis mawr, ond mae Channel 4/S4C wedi ennill slot ar gyfer teledu HD ar Freeview.

Beth sydd ddim yn amlwg yw sut y bydd S4C yn darlledu ei fersiwn nhw yn Nghymru yn ogystal a C4 – heblaw ein bod ni’n mynd nôl i’r hen ffordd o ‘opt-owts’ rhanbarthol. Wrth gwrs fe fyddai’n gwneud synnwyr i gael C4 HD a ‘S4C MU’ ar loeren hefyd erbyn yr amser hynny.

Fe wnaeth Tinopolis lot o ffys rhai blynyddoedd yn ôl fod eu cyfleusterau darlledu yn HD er nad oedd unrhyw fodd o ddarlledu rhaglenni fel Wedi 3 a Wedi 7 yn y fformat yna. Ydyn ni wir yn barod ar gyfer Angharad Mair mewn HD?

Geoffrey Perkins

O’n i’n drist iawn i glywed fod Geoffrey Perkins wedi marw mewn damwain car yn Llundain. Roedd ei waith ar y gyfres radio Hitchiker’s Guide yn esiampl perffaith o sut i gynhyrchu drama fodern ar y radio, ac yn torri tir newydd o ran cyfuno cerddoriaeth ac effeithiau sain gyda’r deialog. Bu farw Douglas Adams yn llawer rhy ifanc a mi fydd marwolaeth cynnar Geoffrey Perkins yn golled mawr i fyd comedi hefyd.

Rhyw ddydd…

Llongyfarchiadau i’r awdures Jan Morris ar ‘ail-briodi’ ei phartner mewn partneriaeth sifil yn ddiweddar. Wrth ddarllen y stori ar wefan newyddion BBC Cymru ges i syndod o ddarllen ei bod hi wedi cael “llawdriniaeth i newid ei rywioldeb“.

Pa fath o lawdriniaeth fyddai hynny ‘te? Ydi’n deg i ddweud nad yw newyddiadurwyr y BBC yn deall y gwahaniaeth rhwng rhyw a rhywioldeb?

Undeb Rygbi Cymru a’r Iaith

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer eu defnydd o’r Gymraeg. Mi fydd yn rhaid gweld os yw’r addewidion yn cael eu gwireddu ond maen nhw bell ar ei hôl hi.

Fe wnaeth cyd-weithiwr i mi cael trafodaethau gyda nhw 9 mlynedd yn ôl ynglyn a adeiladu gwefan fyddai wedi bod a cynllun dwyieithog (sydd yn ddi-bwynt braidd os nad yw cwsmer yn fodlon cyfieithu’r cynnwys). Os ydyn nhw am newid agwedd o ddifri nawr, efallai yr hoffen nhw roi cynnig i brynu urc.co.uk oddi wrthon ni? Mi fyddai’n arbed ni rhag cael ymholiadau di-ri am yr ‘United Reform Church’.

Cysylltiadau cyflym?

Darllenais i stori yn y Western Mail heddiw (a nifer o bapurau eraill) am ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn datblygu dyfais sydd ’100 gwaith cyflymach na band llydan’. Mae’n amlwg fod yr erthygl wedi dod yn syth allan o ddatganiad gwasg, fyddai wedi ei sgrifennu gan rhywun yn yr adran farchnata, am fod yr erthyglau ymhob papur reit debyg. Ychydig iawn o newyddiadurwyr sy’n trafferthu deall yr hyn mae nhw’n sgrifennu amdano, fel sy’n amlwg wrth ddarllen papurau y dyddiau yma neu gwefan newyddion y BBC er enghraifft.

Ychydig iawn o fanylion technegol pendant sydd yn yr erthygl. Fel ddwedodd Scotty, “ye cannae change the laws of physics”, felly sut mae’r ddyfais anhygoel yma’n gweithio? Ar ôl ychydig o gwglo fe ddes i ar draws disgrifiad byr ar wefan y Royal Society, a mae’r gwirionedd yn dechrau dod i’r amlwg.

“project will look to demonstrate” – dyw’r ddyfais ddim yn bodoli eto. “low cost, advanced optical modems” – mae’r dechnoleg yma ar gael yn barod, ond ar gyfer cysylltiadau o fewn rhwydweithiau sy’n rhedeg yn llwyr ar dechnoleg ffibr-optig; o fewn cwmnïau cyfathrebu mawr neu ganolfannau data. Mae’n bosib cael rhwydweithiau ffibr optig o un pen y wlad i’r llall – mae gan y cwmni (llawer mwy cyfoethog) sydd drws nesa i ni gysylltiad ffibr-optig 100Mb rhwng eu swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain.

Mae defnyddio’r dechnoleg yn y cartref yn swnio’n ardderchog, ond nad yw hyn yn rhoi’r cart o flaen y ceffyl? Mae pob cartref yn y wlad wedi eu cysylltu i’r gyfnewidfa drwy wifren gopr, felly ychydig iawn o ddefnydd yw modem optig i’r cartref os nad oes yw’r wifren yn cael ei newid am un ffibr-optig hefyd.

Mae nifer o wledydd yn datblygu gwasanaethau “ffibr i’r cartref” ar gyfer y rhai gyda pocedi dwfn iawn. Ym Mhrydain amcangyfrir y byddai hi’n costio o leia’ £15biliwn i newid rhwydwaith BT o gopr i ffibr. Yn y dinasoedd mawr, mi fydd y ‘farchnad’ yn cyflymu’r datblygiad yma gyda nifer o gwmnïau yn edrych ar ddatblygu rhwydweithiau o’r fath. Mae cwmni a ddechreuodd yng Nghymru – H20 yn gwneud hyn ar gyfer busnesau ond sylwch nad yw’n gwneud synnwyr iddyn nhw weithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.

O ran sefyllfa Cymru – ychydig iawn o gystadleuaeth sydd yma’n barod a felly BT yw’r unig gwmni mewn sefyllfa i ddarparu’r dechnoleg newydd. Fel gyda ADSL rhai blynyddoedd yn ôl ni fydd y cwmni yn buddsoddi heb ryw sicrwydd o adennill y gost. Dwi’n credu fyddwn ni’n parhau i weld storïau ffantasiol yn y wasg am rhai blynyddoedd i ddod.