Diwrnod yn y bae

Fe ges i ddiwrnod yn gwneud pethau twristaidd ym Mae Caerdydd cwpl o fisoedd yn ôl (mynd am drip ar y trên ar draws y Morglawdd ac yn y blaen) ond dim ond nawr dwi’n cael amser i flogio amdano. Tra o’n i yna roedd criw o India yn ffilmio yng ngwahanol lefydd o gwmpas y Bae. Roedden nhw’n griw eitha proffesiynol yr olwg (tua 30 ohonynt) gyda camera ffilm go iawn, nid fideo, er nad oedd llawer o drefn i’w weld arnynt – fues i am hir yn trio gweithio allan pwy oedd yn cyfarwyddo.

Ffilmio Indiaidd ym Mae Caerdydd

Roedden nhw’n ffilmio mewn darnau o 5 eiliad gyda merch a bachgen yn dawnsio i gyfeiliant cerddoriaeth. Dwi’n dweud dawnsio, ond oedd e’n amlwg mai nid dyna oedd sgil cryfaf y dyn ifanc o flaen y camera. Roedd yna ddau goreograffydd yn ei helpu i ddysgu y symudiadau ar gyfer pob darn byr ac yn cael trafferth mawr i gael y peth yn iawn – nid oedd yn ysgafn ar ei draed…

Fe wnes i dreulio hanner awr yn gwylio hyn ac ar ôl deg cais fe lwyddwyd i fodloni’r cyfarwyddwyr a fe aethon nhw ymlaen i’r 5 eiliad nesaf. Yr ymadrodd dwi’n gofio o’r diwrnod yma oedd “Ready! Sound! Taking!” (rhywbeth felna.. mewn acen Indiaidd). Dyma ddau glip fideo o’r ffilmio a dyma luniau o’r diwrnod.

Take 23 [10.2MB]
Ready! Sound! [12.1MB]

Eira cynnar

Wrth gerdded adre heno drwy Sgwâr Mount Stuart gwelais i eira ar y llawr. Roedd hi wedi bod yn bwrw glaw drwy’r dydd ond doedd hi ddim yn ddigon oer i fwrw eira. Ar ôl troi y cornel fe welais i’r stryd i gyd yn wyn a boi gyda peth tebyg i chwythwr dail yn gorchuddio’r stryd gyda eira ffug.

Dyw ffilmio ddim yn beth anghyffredin rownd fan hyn ond dyma’r tro cynta i fi gerdded i’w chanol hi. Er fod plismon yno’n atal ceir rhag pasio wnaeth neb fy stopio felly gerddes i ymlaen drwy’r eira. Roedd y stryd wedi’i addurno ar gyfer 19ed ganrif gyda bareli ar ochr y stryd a tân ynddynt, a trol yn llawn sachau. Roedd un actor i’w weld yno, mewn cot fawr ddu a het, ond welais i neb arall. Felly dwi ddim yn gwybod pwy oedd yn ffilmio.. dwi’n credu fod Dr Who wedi gorffen y bennod arbennig ar gyfer y Nadolig.

Chwythu eira
Golau llachar
Dyn mewn cot ddu

Blaidd Drwg

Dwi wedi cerdded fyny Parc y Gamlas ym Mae Caerdydd bob dydd gwaith ers blynyddoedd ar y ffordd i’r, wel, gwaith. Ddydd Gwener wnes i fentro ychydig ymhellach fyny’r parc i gael ychydig o luniau o graffiti enwog a roddwyd yno ar gyfer Dr. Who. (Mae yna ddamcaniaeth fod y graffiti yno’n barod a mai Bad Wolf yw tag rhywun o’r ardal, ond dwi ddim yn gwybod os yw hyn yn wir).

Fe roedd y lleoliad o gwmpas Sgwâr Loudoun yn eitha pwysig i’r bennod olaf. Ie, dwi’n gwybod fod hyn yn drist, ond mae’r lluniau gymerais i ar flickr.