daflog

Trwy’r coed

Dyma un darn o’r olygfa sy’ gen i o’r swyddfa newydd. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr o edrych allan ar wal frics. Ydych chi’n gwybod be sy’n cuddio tu ôl y coed? (cliciwch am lun mwy)

Trwy'r Coed

  • Cyhoeddwyd: Chwefror 8, 2007
  • Categori: Lluniau
  • Sylwadau: 3

Eira

Caerdydd, Chwefror 8fed 2007
Eira yng Nghaerdydd, Chwefror 8fed 2007

Caerdydd, Rhagfyr 1981
Eira yng Ngaerdydd, Rhagfyr 1981

  • Cyhoeddwyd: Chwefror 2, 2006
  • Categori: Lluniau
  • Sylwadau: 1

Allan o ffocws

Mae nifer yn y byd blogio wedi cyfeirio at luniau arbennig Olivio Barberi lle mae’n defnyddio lens arbennig i greu’r argraff fod golygfa o’r awyr yn edrych fel model bach. Mae’r cefndir allan o ffocws yn creu dyfnder yn yr olygfa a thwyllo’r ymennydd i’w weld fel llun o rywbeth agos. Dwi’n amau fod nifer o driciau arall yn cael ei ddefnyddio hefyd – dinoethi’r llun ychydig er mwyn cael llun goleuach, fel byddai wrth oleuo model yn agos.

Fel Gareth, wnes i sylweddoli byddai’n bosib ail-greu yr effaith drwy feddalwedd graffeg. Dyma fy ddau ymgais i (mae’r lluniau wedi ei cymeryd o fan hyn.

Bae CaerdyddStadiwm y Mileniwm

  • Cyhoeddwyd: Ionawr 31, 2006
  • Categori: Bywyd, Lluniau
  • Sylwadau: Comments Off

Cwch ar dân…

Newydd gael llun ar ffôn gan fy mrawd, sydd lan yn ynysoedd y Shetland ar gyfer gŵyl Up Helly Aa. Mae’n edrych yn gynhesach fynna na mae e fan hyn yn y tŷ.
Up Helly Aa

Arddangosfa Encore

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol arddangosfa ar lein newydd yn dilyn hanes cerddoriaeth Cymru o’r canol oesoedd i gerddoriaeth pop, fodern.

Mae yna nifer o luniau neis yna hefyd, yn cynnwys Caryl Parry Jones mewn gwisg lachar iawn a Beganifs o 1980? Na, yr Anhrefn!

Rhywbeth od iawn arall.. dyma lun o ‘Ser y Siroedd, Gwalchmai, 1961′ ond i fi mae’n edrych fel Y Cyrff yn yr 80au!

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.