Cyrchfan i’r Rhondda

Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi lansio gwefan newydd ar gyfer denu ymwelwyr i’r ardal. Fel arfer gyda gwefannau o’r fath mae yna fersiwn Cymraeg a Saesneg ond ychydig yn llugoer yw’r ymdrech a wnaed ar y fersiwn Cymraeg.

Mae e’n gawlach rhyfedd o gyfieithiadau safonol, diffyg cyfieithu, placeholder text (cy), cyfieithiadau munud olaf drwy TranExp e.e. “Breaks” = “‘n anhydwf doriadau”, “Weather” = “dywydd” , “Competitions” = “chydymgeisiau” (beth?!) a hyd yn oed wenglish traddodiadol – “cycling” = “cyclio”.

Heblaw y cyfieithu, dyw dyluniad y wefan ddim yn gweithio’n gywir yn Firefox, fel mae’n amlwg o’r dudalen flaen (ydi e wir yn bosib fod cwmni dylunio gwe yn 2008 ddim yn profi eu cynllun yn Firefox a Safari? Falle wir).

Dwi’n siwr fod rhesymau da dros y gwallau (rhywun pwysig yn y cyngor yn gwthio am lansiad cyn oedd yn barod efallai), ond yn anffodus mae’r diffyg sylw i’r manylion yn rhoi enw gwael nid yn unig i wefannau dwyieithog ond dylunwyr gwe Cymreig yn gyffredinol.

Cyfieithiad cam

Mae fy rhieni wedi gwneud cais am y taliadau tanwydd gaeaf sydd ar gael i bobl dros 60. Fe ddanfonwyd y cais yn Gymraeg, a felly daeth llythyr Cymraeg yn ôl. Wel, falle fod Scymraeg yn ddisgrifiad gwell.

Mae’n anodd deall hwn dweud y gwir, am fod y geiriad yn eitha rhesymol, ond fod yna gamsillafiadau rhyfedd. Yr ymadrodd gorau yn y llythyr yw “Eich eiddo yn gywir” (your property is correct?) Dwi wedi nodi y gwallau amlwg isod (cliciwch am lun mwy). Oes rhagor?

Llythyr yn llawn gwallau

Gwenwch ffrindiau newydd!

Mae erthygl ar Ping Wales yn sôn am wefan o’r enw ‘Motivating Mates’ gafodd ei greu gan unigolyn o Ferthyr Tudful. Mae’r wefan nawr wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg, felly beth am gymryd cipolwg arno?

O na, baneri bach jac yr undeb er mwyn dewis iaith! Y brif neges ar y dudalen cartref yw “Gwenwch ffrindiau newydd… mae’n chychwyn yma!”. Nid y chychwyn gorau i fersiwn Gymraeg falle? Mae’r wefan i’w weld yn hyrwyddo syniad diddorol ond i feddwl fod cwmni proffesiynol wedi ei gyfieithu mae’n bosib y byddai gwasanaeth prawf-ddarllen y cwmni wedi bod yn ddefnyddiol cyn lansio.

Traws sCambria

Diolch i Telsa am ddod a gwefan ofnadwy TrawsCambria i fy sylw. Mae prif dudalen y wefan yn dechrau yn y modd mwy anghywir drwy ddangos baner Lloegr a Chymru nesa at y “Deqis” iaith a dyw pethe ddim yn gwella o hynny mlaen. Wedyn mae un brawddeg fach sy’n esbonio eu bod yn gweithio ar “gyfeithu yr wefan i’r Gymraeg ac fe fudd ar gael yn fuan”.

Erbyn hyn mae cynllun TrawsCambria yn cael ei reoli gan y Cynulliad er mai’r cwmniau bys preifat sy’n rhedeg y gwasanaethau, felly mae’r wefan yn torri’r gyfraith ar hyn o bryd. Ond dyma be chi’n gael wrth rhoi rheolaeth o’ch wefan i bobl meddw.

Traffig Cymru

Edryches i ar wefan Traffig Cymru heddiw sydd wedi cael ei ail-wneud yn weddol ddiweddar dwi’n credu. Am smonach. Dwi’n gallu deall fod peth o’r cynnwys Cymraeg ddim yna eto, nid fod hynna’n esgus. Ond pwy ddiawl sy’ wedi cyfieithu hwn, ac yn bwysicach, wedi caniatáu iddo fynd yn fyw? Oes pwynt i’r Cynulliad gael rhestr swyddogol o dermau os nad yw gwefannau eu asiantaethau yn ei ddefnyddio? A sut ddiawl mae rhywun yn llwyddo rhoi ‘Llwodraeth Cynulliad Cymru’ o fewn logo pan fo’r graffeg hynny yn un safonol sy’n cael eu ddefnyddio ymhobman?

Digon o gwestiynau dwl, cliciwch ar y llun i weld y camgymeriadau – coch am camsillafu/camdeipio a melyn am gyfieithiadau amheus.

Traffig Cymru