Bobi

Oes yna unrhywun yn galw plismyn yn ‘bobi’ yn Gymraeg? Dyma wefan ‘Ein Bobi‘ gan Heddlu De Cymru.

Mae’r camgymeriadau bach arferol yn y wefan Gymraeg ond mae yna scymraeg arbennig yma hefyd fel “Mewn di-argyfwng ffoniwch 101″ neu beth am y gampwaith hwn?

Nid yw einbobi.com yn disodli galwad fry, mae yma i’n cynortthwyo ni i fynd i’r afael ag anghenion cymunedau. Os byddwch angenm riportio achos brys galwch 999

Canwalliad

Mae’n beth da iawn fod y Cynulliad yn rhoi fideos ar YouTube ond gyda presennoldeb mor gyhoeddus mae’n werth gwneud yn siwr ei fod wedi ei wneud yn iawn ondyw ‘e?

Neithiwr o’n i am sgrifennu blog bach yn cwyno am fideo newydd sy’n esbonio am sustem e-ddeisebau y Cynulliad (gollyngwch yr e- os gwelwch yn dda, ‘dyw stwff ar lein yn ddim byd newydd nawr). Ond mae nhw wedi llwytho fideo wedi ei gywiro heddiw. Da iawn felly ond byddech chi’n meddwl fydde’ rhywun yn gwylio’r fideo cyn ei roi ar y we?

Lwcus i mi gymryd copi felly. Dyma deitl gwall-us y fideo ddoe. Roedd y boi camera hefyd yn dweud ‘Start now..” cyn i Delyth Lewis ddechrau siarad a mae hwn wedi ei ddileu yn y fersiwn newydd.

Canwall i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Isdeitlo

Mae’r comedïwr Rhod Gilbert yn gallu bod yn eitha doniol er mod i ddim yn hoff iawn o’i arddull stand-up.

Dyma glip o rhaglen beilot a wnaeth e ar gyfer BBC Three, sy’n nodedig yn bennaf am fod yr isdeitlau scymraeg wedi eu cyfieithu drwy ein hen ffrind InterTran. Ydi hyn yn ychwanegu at ‘ddoniolrwydd’ y sgets? Efallai.

Dydy’n anghyfreithiol

Mae Scymraeg yn hen, hen stori sydd yn cael ei ‘ail-ddarganfod’ nawr ac yn y man gan y cyfryngau, fel mae’r eitem yma yn dangos.

Mae rhan fwyaf o’r cam-gyfieithiadau yn deillio o ‘beiriant cyfieithu‘ a gafodd ei greu flynyddoedd lawer yn ôl gan gwmni di-glem o’r enw ‘Translation Experts‘. (beth am y trades description act ‘te?).

Mae’r peiriant yn cyfieithu “It is illegal to smoke in these premises” i “Dydy ‘n anghyfreithiol at fyga i mewn hyn premises”.

Mi fyddai’n hawdd datrys hyn i gyd os oedd peiriant cyfieithu gwallus y cwmni yn cael ei waredu o’r we yn llwyr (yn anffodus, mi fydd yn byw ymlaen mewn cynnyrch eraill dwi’n amau). Rhai wythnosau yn ôl wnes i ofyn i Fwrdd yr Iaith os oedd unrhyw beth allen nhw wneud. Mae angen rhyw ‘awdurdod’ (a does dim corff gyda awdurdod cyfreithiol wrth gwrs) ddangos i’r cwmni pa mor warthus yw ei meddalwedd nhw a cynnig cymorth iddyn nhw ddatblygu peiriant gwell.

Dwi wedi cael ymateb gan y Bwrdd yn dweud eu bod nhw yn bwriadu cysylltu gyda’r cwmni. Dwi ddim yn gwybod os fydd y cwmni yn derbyn y cyngor am eu bod nhw’n ymddangos fel cowbois i fi. (Fydde hi’n sbort petai nhw yn trio defnyddio ei meddalwedd eu hunain i drio cyfieithu y cofnod hwn – helo’r twpsod!)

Y ffaith mwy chwerthinllyd yn yr achos penodol yma yw fod cwmni Wilkinson wedi mynd ati i greu arwydd ‘Dim Smygu’ eu hunain tra fod arwyddon dwyieithog safonol wedi bod ar gael am ddim ar y we ers 3 blynedd.

Lluniau 360°

O’n i’n chwilio Google am bethau ar hap i wneud a Chaerdydd a des i ar draws lluniau 360° o Gaerdydd (dim byd newydd ond mae rhain yn rhai neis a wedi ei tynnu yn ddiweddar). Dyma lun o Heol y Brodyr Llwydion, lle dwi’n gweithio a mae dolenni i lefydd eraill yn y ddinas.

Ond i gyfuno gyda pwnc arall cyfredol, sef Scymraeg, sbotiwch yr arwydd anghywir yn y llun!