Flin am y teitl. Nodyn bach i roi dolen i flog newydd am dechnoleg iaith gan staff Canolfan Bedwyr, ‘na gyd.
Archifau Categori: Cymraeg
Scarlets yn y coch
Mi rydych chi’n glwb rygbi mewn trafferthion ariannol – beth yw eich blaenoriaeth? Creu gwefan newydd wrth gwrs! Fe lansiwyd gwefan newydd y Scarlets wythnos diwethaf – mae’r cwmni a’i gynhyrchodd yn noddi’r Scarlets yn barod felly dwi’n amau fod hwn yn ffribi.
Felly dyma adolygiad o’r wefan newydd (ymwadiad: roeddwn i rywbeth i wneud a’r hen wefan, ond ddim y dylunio, nodweddion na’r gwaith technegol).
Continue reading
Mae’n flin gen i Daf, alla’i ddim gwneud hynny..
Dyna un o’r pethe fase HAL wedi ddweud petai 2001: A Space Odyssey yn ffilm Gymraeg. Er ein bod ni yn 2006, dyw cyfrifiaduron dal ddim yn gallu rhesymu, heb son am siarad yr un fath a HAL. Gwneud i gyfrifiadur siarad yw un o’r technolegau anoddaf i’w ddatblygu ac er yr addewidion dros y blynyddoedd, does dal dim meddalwedd sy’n galluogi cyfrifiadur i leisio unrhyw destun yn berffaith mewn unrhyw iaith.
Mae datblygu system o’r fath ar gyfer Cymraeg heb lawer o adnoddau wedi bod yn waith hir, diflino. Dwi’n cofio Dr Briony Williams yn cyflwyno syntheseinydd llais Cymraeg yn 1995, a roedd hynny yn sgîl blynyddoedd o waith ymchwil.
Erbyn hyn mae’r Uned Technoleg Llais yng Nghanolfan Bedwyr wedi cyflwyno pecyn testun-i-lais ar gyfer Cymraeg. Mae fersiwn 1.0 ar gael yma i fod ond dyw’r ffeil zip ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Mae fersiwn 0.5 ar gael hefyd ond mae yna wallau ynddo a mae’n defnyddio hen samplau llais. Fel enghraifft o’r llais, dyma gloc sy’n siarad Cymraeg.
Chris a Claire
Syrpreis bach oedd gweld seleb diweddara Cymru yn cael ei gyfweld ar Wales Today yn ei acen Americanaidd rhywiol. Doniol sut mae Claire Summers yn dweud “tell the viewer” – dim ond fi oedd yn gwylio felly?
Roedd Chris Cope yn yr Eisteddfod heddi i siarad yn Maes D. Mae’r boi yma yn ‘pro’ nawr – sylwch sut mae’n cofio i ddweud ‘Autumn’ nid ‘Fall’. Dyma fideo i chi wnaeth ei golli.
Cwpan y Byd
Mae’n debyg fod rywbeth o’r enw Cwpan y Byd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Does gen i ddim diddordeb mewn hynny heblaw i nodi hyn – os ydych chi’n chwilio Google am enw dau wlad sy’n cystadlu mae Google yn dangos y canlyniadau, ac yn Gymraeg hefyd. Cefn y rhwyd!