Caewch y git

Welais i lofnod ar ebost rhywun yn ddiweddar (rhai doniol wedi’u dewis ar hap) sy’n werth ei rannu:

There were red faces in the O.S. office when its English surveyors returned from compiling a list of house names in mid and north Wales. The results contained an unusually high number of properties called Gwyliwch rhag y ci or Caewch y git, better known in English as Beware of the Dog or Shut the Gate.

Sut allai hyn ddigwydd dyddie ‘ma, meddylies i? Wnes i lwyddo i ddarganfod ffynhonnell y dyfyniad, mewn erthygl o’r Guardian, Mehefin 1999. Dwi’n amau mai gwall y Grauniad oedd ‘git’ – mae’n siwr fod arolygwyr yr OS wedi ymfalchio wrth gofnodi’r holl enwau yn ofalus, heb sylweddoli eu camsyniad mwy sylfaenol.

Dewis enw i blentyn

Dyma stori wir sy’n gwneud ei ffordd drwy gylch clecs athrawon Cymraeg Caerdydd.

Daeth teulu i fyw yng Nghaerdydd gyda’r cyfenw ‘Dan’ (wedi’i ynganu fel daan mae’n debyg). Does gen i ddim syniad o le ddaeth y teulu na dim am ei cefndir, ond dim ots. Nid siaradwyr Cymraeg ydynt ond fe wnaethon nhw benderfynu rhoi enw Cymraeg i’w plant a’i danfon i ysgolion Cymraeg.

Tra’n siopa mewn archfarchnad rhai blynyddoedd yn ôl, pan oeddent yn disgwyl eu plentyn cynta, fe wnaethon nhw weld arwydd Cymraeg ar y wal. Pan anwyd y baban, fe gofiodd y cwpl am yr arwydd gan ystyried ei fod yn enw perffaith i’r plentyn. A dyna sut y cafodd y ferch ei henwi’n Allanfa Dan.

Erbyn hyn mae’n debyg fod y rhieni wedi newid enw’r plentyn i osgoi embaras – ydyn, mae nhw wedi newid y cyfenw i Darn, sydd yn llawer mwy synhwyrol.

Stafell Smygu

Dwi ddim yn smygu, felly o’n i ddim yn gwybod fod y fath beth a stafell smygu yn bodoli (dwi’n fwy cyfarwydd a ysmygwyr ar risiau dihangfa dân). Os oes yna rai o hyd, mi fyddan nhw wedi ei gwahardd cyn hir mae’n siwr.

Mae’r comedi gwych ‘The Smoking Room’ ar ei ail gyfres nawr ar BBC TRI a dyma gwis bach gwirion i weld pa gymeriad o’r rhaglen ydych chi’n debyca’ iddo. Robin, y sinig, oeddwn i.